|
|
Ar
eu traed eu hunain
Monolog - yr her eithaf i actor
Dydd Mercher, Mai 12, 2002
|
Llais un yn Llefain – Monologau cyfoes Cymraeg. Golygydd Ian
Rowlands.
Adolygiad gan Catrin Jones
Perfformiad theatrig yn cynnwys dim ond un actor neu actores yw monolog.
Dyma ffurf bwerus iawn ar ddrama a sialens anhygoel i bob actor dewr
sy’n mentro i’r tir hwn.
Trwy gydol y perfformiad fe fydd sylw’r gynulleidfa i gyd ar y person
hwnnw. Arno ef neu hi y bydd y cyfrifoldeb o gynnal diddordeb y gynulleidfa
a chyfleu’r stori i gyd.
Yn fwy na hynny fe fydd ef neu hi yn gorfod cofio sgript enfawr, tua
awr o hyd, a hynny heb gymorth actorion eraill.
Mewn monolog mae’r perfformiwr yn gyfangwbwl ar ei ben ei hun.
Mae monolog hefyd yn gofyn hefyd am dipyn o ymdrech gan yr awdur a’r
cyfarwyddwr achos mae’n rhaid cael testun go gryf er mwyn i un cymeriad
allu ei drin ar ei ben ei hun.
Ond yn fwy na hynny mae’n rhaid creu cymeriad cryf sy’n gallu cynnal
diddordeb am gyfnod hir. Mae’n rhaid dewis ei symudiadau yn ofalus
a gwneud defnydd llawn o’r llwyfan.
Cyfrol i'w thrysori
Tri monolog cyfoes, Cymraeg, a geir yn y gyfrol Llais un yn Llefain,
tri o’r monologau mwyaf pwerus i’w llwyfannu yn y Gymraeg, sef Sundance
gan Aled Jones Williams, Gobeithion Gorffwyll, addasiad
Sharon Morgan o stori fer gan Simone de Beauvoir a Môr Tawel,
Ian Rowlands.
Dyma gyfrol sydd i’w thrysori, gan mai ychydig iawn o ddramâu Cymraeg
sy’n gweld golau dydd rhwng cloriau llyfr. Mae llawer ohonyn nhw’n
mynd yn angof a hynny wedi cymaint o waith a pherfformiadau gwych.
Ond mae mwy yn y gyfrol hon na’r monologau yn unig. A’r hyn yr oeddwn
i’n ei hoffi fwyaf amdani oedd y cyflwyniadau difyr oedd yn gwau trwyddi.
Roedd hyn yn ychwanegu elfen bersonol iawn i’r gyfrol ac yn ein cyflwyno
ni’r darllenwyr i genre y monolog.
Mae’r gyfrol yn agor gyda chyflwyniad gan Ian Rowlands, golygydd y
gyfrol ac awdur ei monolog olaf, Môr Tawel.
Mae Ian Rowlands, sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Artistig yn Theatr
Gwynedd, wedi ysgrifennu a chyfarwyddo amryw o fonologau. A safbwynt
y cyfarwyddwr a geir yn y cyflwyniad hwn.
Chwys a nerfau
Mae’n sôn am sawl perfformiad lle roedd yr actor a’r cyfarwyddwr yn
chwysu a’r nerfusrwydd mawr cyn y perfformiadau cyntaf. Yr hyn a’m
trawodd i yma oedd gonestrwydd Ian Rowlands wrth iddo drafod y profiadau
hyn.
Dydi o ddim yn esgus fod pob perfformiad wedi mynd yn llyfn ac mae’n
sôn mewn un lle bod actor wedi cael blanc llwyr yng nghanol perfformiad
ac wedi gorfod ailddechrau.
Wrth gyfeirio at berfformiad arall mae’n cyfaddef ei fod wedi camgymryd
dwyster y sialens unwaith gan dybio y byddai pythefnos a hanner yn
ddigon i actor ddysgu monolog cyfan ond yn y perfformiad cyntaf yr
actor yn "marw o’u blaenau ...ei lygaid yn dryloyw gan fradychu’r
panig yn ei ben".
Canlyniad hyn yw bod yr actor yn camu oddi ar y llwyfan gan ymddiheuro
na all gario ‘mlaen.
Angen egni ac ymroddiad
Mae’r ysgrifennu gonest yma’n dangos yn glir gymaint yw gofynion monolog,
a’r egni a’r ymroddiad sydd ei angen gan gyfarwyddwr wrth lwyfannu
perfformiad o’r math hwn.
Yn dilyn ei gyflwyniad ef, fe geir rhagymadrodd i’r gyfrol gan Nic
Ros yn trafod genre y monolog ac yn trafod yn gryno rai o’r
monologau enwocaf. Mae’n mynd ymlaen wedyn i roi cyflwyniad byr i
fonologau’r gyfrol hon.
Mwynheais ddarllen ei dri chyflwyniad ac yn sicr roedden nhw’n ddefnyddiol
iawn cyn mynd ati i ddarllen y gweithiau.
Mae ei ymdriniaeth ef yn dreiddgar ac yn addas iawn ar ddechrau’r
gyfrol gan roi’r monologau yn eu cyd-destun ac ymdrin â’u cynnwys,
ond heb ddatgelu gormod.
Yr actor yn ganolbwynt
Wedi darllen cyflwyniadau gan awdur a chyfarwyddwr ac wedyn beirniad,
diddorol yw gweld wedyn safbwynt yr actor. Wedi’r cyfan yr actor yw
canolbwynt pob monolog, ac arno ef mae holl sylw’r gynulleidfa. A
chyn bob un o’r tri monolog yn y gyfrol mae cyflwyniad gan y tri actor
a berfformiodd y monologau hynny am y tro cyntaf.
Yn y cyflwyniadau hyn gwelwn gymaint yw’r her sy’n wynebu actorion
wrth iddyn nhw gytuno i berfformio monolog, yr holl waith caled yn
dysgu’r darn a’r nerfau wrth berfformio. Ond yn bwysicach na hynny
mae’r gorfoledd o fod wedi llwyddo a’r teimlad gwych o fod wedi cyflawni’r
sialens fwyaf yng ngyrfa pob actor.
Y tri actorion sy’n siarad yn y gyfrol hon yw Jonathan Nefydd (Sundance),
Sharon Morgan (Gobeithion Gorffwyll) a Dyfan Roberts (Môr
Tawel).
Jonathan Nefydd
Galwad
ffôn un prynhawn yw dechrau’r daith i Jonathan Nefydd: ‘Sioe un dyn’;
roedd y geiriau yn swnio fel hunllef". Ond penderfyna dderbyn y cyfle,
ac mae’r profiad yn un bythgofiadwy.
Sharon Morgan
Mae’r holl beth ychydig yn wahanol i Sharon Morgan, gan mai hi ei
hun a benderfynodd fod yr amser wedi dod iddi wynebu’r her.
Mae hi’n mynd ati i ddarllen stori fer a’i haddasu ar gyfer y llwyfan.
Mae hi wedi byw gyda Muriel, y ferch yn Gobeithion Gorffwyll,
am fisoedd felly.
Cymaint yw ei hadnabyddiaeth o’r cymeriad nes y teimla’n gwbwl emosiynol
ac "ar y dydd Llun cyn agor dwi’n cracio. Dwi ffili neud e. Mae’ bod
mor agos at yr emosiyne amrwd yn brifo.’N dechre llefen. Dwi ffili
stopo...Galla i ganslo popeth?"
Ond
llwydda Sharon Morgan i oresgyn y nerfau munud olaf ac mae’n cyrraedd
y llwyfan.
Ond cyn hynny rydym yn aros gyda hi yn yr ystafell wisgo yn y cyfnod
hunllefus hwnnw cyn y perfformiad ac wrth ddarllen roedd fy mol innau’n
troi wrth i mi feddwl am y teimlad dychrynllyd hwnnw o fod ar eich
pen eich hun o flaen cynulleidfa am gyfnod o thua awr, dim ond eich
llais chi i glywed, y geiriau’n llifio’n ddireolaeth o’ch genau, a’r
ofn parhaus hwnnw eich bod yn mynd i anghofio.
Rydw i’n wirioneddol gydymdeimlo â phob actor sydd wedi llwyddo i
wynebu’r fath hunllef ac yn eu hedmygu’n fawr.
Dyfan Roberts
Fe fwynheais gyflwyniad Dyfan Roberts hefyd sy'n cymharu’r profiad
i deithio ar long mewn storm. Dyma gymhariaeth briodol iawn o ystyried
mai chwarae rhan dyn mewn cwch yng nghanol storm y mae yn Môr Tawel.
Mordaith
hir yw’r perfformiad iddo, ef yw hwyliwr y llong a ni’r gynulleidfa
yw’r bobol ar y cei yn ei wylio. Mae’r daith o’i flaen yn un anodd
ac mae’n rhaid iddo ei hwynebu ar ei ben ei hun.
"Mae drama un person fel yr Iwerydd, Everest, Pegwn y Gogledd, fel
bywyd, fel marwolaeth. ‘Mae’n rhaid i ti fyned y daith honno dy hun....’Mae
o yno. Rhaid ei goncro...".
Wedi cwblhau’r daith mae’n glanio’n flinedig ac yn troi ei olygon
at y fordaith nesaf.
Tywyll a grymus
Mae’r tri monolog yn y gyfrol hon yn rhai grymus iawn. Tywyll yw byd
y tri chymeriad ac mae pob un ohonynt yn ymladd rhyw frwydr fewnol.
Ym mywydau’r tri chymeriad mae’r ffin rhwng ffantasi a dychymyg yn
denau iawn ac mae’r tri yn ymylu ar fod yn wallgof.
Fel y dywed Nic Ros: "Rydym y tu mewn i bennau’r cymeriadau hyn, yn
clustfeinio ar sgyrsiau a dadleuon gyda nhw’u hunain, gan geisio olrhain
llwybr synhwyrol drwy’r anrhefn meddyliol".
Sundance
Y gyntaf yw Sundance gan Aled Jones Williams. Cymeriad digon
rhyfedd yw Sundance.
Yr awgrym a geir yw ei fod yn byw ar ei ben ei hun ac yn hiraethu
am ei fam sydd wedi marw. Mae rhywbeth yn blentynnaidd ynddo ar sawl
gwedd.
Ymddengys fod perthynas annaturiol wedi bod rhyngddo â’i fam pan oedd
hi’n fyw, a nawr ei bod yn farw ni all Sundance ollwng ei afael arni.
Yn y ddrama mae’n siarad gyda ffrog briodas ei fam, yn union fel pe
bai ei fam yn fyw ac yn eistedd yno yn y ffrog.
Yn gwau trwy’r fonolog hon mae ffilmiau cowbois. Dyma elfen arall
sy’n dangos diniweidrwydd y cymeriad. Mae’n gweld popeth yn ddu a
gwyn yn union fel y ffilmiau hynny.
Gobeithion Gorffwyll
Hanes gwraig ganol oed, unig, yn byw ar ei phen ei hun a gawn yn Gobeithion
Gorffwyll. Mae’n wraig fregus yn emosiynol a meddyliol. Mae’r
ddrama’n digwydd ar nos Galan, ac mae amseriad yr holl beth yn ychwanegu
at unigrwydd Muriel. Rydym yn tosturio wrthi am ei bod ar ei phen
ei hun ar noson sydd fel arfer yn un gymdeithasol ac yn noson o ddathlu.
Awgrymir fod Muriel ar ymyl gwallgofrwydd. Mae ei hunigrwydd bron
â’i threchu. Mae’n dweud ei bod wedi rhoi gwlân cotwm o amgylch y
ffôn am nad yw eisiau cydnabod ei fudandod.
Mae sawl peth wedi arwain at gyflwr Muriel, ymadawiad ei gwr, marwolaeth
ei merch ifanc a’r berthynas lugoer rhyngddi â’i mam. Ond mae Muriel
ei hun i’w beio hefyd, a hynny am iddi ddod yn or-ddibynnol ar ei
gwr ac am beidio â chreu bywyd annibynnol iddi ei hun.
Môr Tawel
Llong mewn storm ar fôr yw lleoliad y monolog olaf sef gan Ian Rowlands. Y ddrama hon oedd Drama Gomisiwn
Eisteddfod Llanelli 2000. Mae’r ddrama yn ymdrin â hanes David Samwell,
Cymro a fu’n llawfeddyg ar long y Discovery ar daith olaf Capten
Cook. Roedd hefyd yn cael ei adnabod fel Dafydd Ddu Feddyg.
Ar ddechrau’r ddrama dywed y cyfarwyddiadau llwyfan fod David Samwell
"yn hwylio storm ei freuddwydion mewn lit bateau’. Gall y ddrama
fod yn digwydd mewn cwch go iawn neu ym meddwl David Samwell ei hun.
Yr hyn sy’n sicr yw bod storm ym meddwl David Samwell wrth iddo edrych
yn ôl ar ei orffennol a’i brofiadau ar y Discovery. Mae’r daith
honno wedi cael effaith ddofn ar ei fywyd.Mae’r cyfan fel rhyw hunllef
na all ymryddhau ei hun oddi wrtho. I wneud pethau’n waeth mae David
Samwell fel pe bai’n gaeth i’r laudanum, cyffur y mae’n ei
lyncu yn ystod y ddrama.
Yn y monolog hwn mae David Samwell yn cyfarch Iolo Morganwg. Yn ogystal
â bod yn forwr roedd David Samwell yn fardd ac yn aelod o orsedd Iolo
Morganwg. Rhyw fath o gyffes i Iolo Morganwg yw’r ddrama.
Ar y dechrau mae Samwell yn cyfaddef bod ei Gymraeg wedi dirywio yn
ystod ei gyfnod ar y môr: "I blame the sea it has bleached the
Welsh out of me".
Mae yna rhyw dyndra drwy’r ddrama rhwng Cymreictod Samwell a’i Brydeindod,
y ffaith ei fod yn fardd ac yn aelod o’r orsedd a’r un llaw ac yn
forwr gyda’r Llynges Frenhinol ar y llaw arall.
Mae’r ddrama yn trafod yn onest sut yr oedd bywyd mewn gwirionedd
ar y Discovery a’r gweithredoedd erchyll a barbaraidd yr oedd
Cook a’i griw yn eu cyflawni.
Mae cofio hyn o gyd, y treisio a rheibio brodorion yr ynysoedd, yn
ofid mawr i Samwell a dyma ail ran ei gyffes i Iolo Morganwg.
Mae’n amlwg fod Samwell yn y ddrama hon wedi cyrraedd cyflwr bregus
iawn yn feddyliol a’i fod ar ymyl gwallgofrwydd. Yn wir mae ar drothwy
angau a rhyw fath o waedd olaf cyn marwolaeth yw’r ddrama.
Mae’n rhaid canmol arddull Ian Rowlands, awdur y ddrama hon. Yn ei
ddefnydd o eiriau mae’n llwyddo i gyfleu’r storm dymhestlog ym meddwl
David Samwell a chyffro’r daith ar y Discovery. Ond hefyd mae’r
disgrifiadau cignoeth o’r hyn oedd yn digwydd ar y daith yn rhoi rhyw
olwg newydd ar bopeth.
Dyma dri monolog llwyddiannus felly. Mae tebygrwydd mawr yn y tri
gan eu bod i gyd yn dywyll, yn ddyrys a’r cymeriadau unig yn wynebau
problemau seicolegol dwys.
Does dim dwywaith nad yw’r tri yn gosod tipyn o sialens i actorion
ac rwy’n gobeithio y bydd mwy o actorion yn y dyfodol yn ymgymryd
â’r sialens hon.
Ebostiwch eich
sylwadau chi am lyfrau
|
|
|