|
|
Gwewyr
esgob mewn oes o gyffro
Nofel hanes sy'n afaelgar a chelfydd
Dydd Iau, Gorffennaf 25, 2002
|
Dydd Oedd a Diwedd Iddo gan Gwynn ap Gwilym. Gomer.
拢5.95.
a hanner
Adolygiad gan Glyn Evans
Dau anhawster sydd gen i gyda'r nofel hon.
Yn gyntaf, does dim y byddaf i'n gallu'i ddweud amdani sy'n mynd i
wneud iddi ymddangos gystal ag yw hi.
Yr ail beth yw fy anhawster cyson gyda ffuglen hanes, o fethu 芒 gwybod
ymhle yn union y mae'r ffeithiau'n darfod a dychymyg yr awdur yn cymryd
drosodd.
Yr unig ddewis gyda'r ail yw darllen y nofel fel stori heb ymboeni
ynglyn 芒 beth yn union sy'n ffeithiol gywir am Si么n Trefnant a beth
sy'n ffrwyth dychymyg Gwynn ap Gwilym.
Y peth gorau
O wneud hynny cefais hon y peth gorau a ddarllenais yn y Gymraeg ers
tro mawr byd er mor anaddawol yr ymddangosai nofel yn s么n am fywyd
esgob yn y bymthegfed ganrif ar yr olwg gyntaf.
Yr oedd y nofel yn un a anfonwyd i gystadleuaeth Medal Ryddiaith yr
Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych y llynedd ond - er mawr gywilydd
iddyn nhw, ddyweda i - ffwrbwt iawn oedd sylwadau'r tri beirniad a
fethodd 芒'i rhoi ymhlith y rhai ar frig y gystadleuaeth.
Wedi darllen Dydd Oedd a Diwedd Iddo rwy'n ei chael yn anodd
egluro methiant o'r fath ar ran y beirniaid a synnwn i ddim na fydd
ambell un yn tybio i Gwynn ap Gwilym gael cam.
Gwrthryfel Glyndwr
Mae'r nofel yn cychwyn gyda Si么n Trefnant, esgob Henffordd, ar ei
wely cystudd - nid ei wely angau pwysleisia - ar adeg pan yw
gwrthryfel Glyndwr yn ysgubo'r wlad ac yn effeithio, yn naturiol,
ar fywyd ardal fel Henffordd ar y Gororau.
Yn ei gystudd mae'n cael cyfle i ail-fyw ei fywyd o fod yn fachgen
yn Nhrefnant yn esgobaeth Llanelwy i ddisgleirio yn efrydydd yn Rhydychen
ac wedyn yn ennill swydd yn llys y Pab yn Rhufain cyn cael ei orseddu'n
esgob yn Henffordd.
Ond y mae llawer mwy i'r stori hon na hanes Si么n Trefnant gan fod
hon yn adeg o gyffro a newid nid yn unig yng Nghymru ond yn Ewrop
hefyd.
Gwleidydda
Llwydda Gwynn ap Gwilym i gyfleu gydag argyhoeddiad nid yn unig y
trybestod gweladwy ond hefyd y gwleidydda eglwysig a gwladol cudd
y tu 么l i'r llenni - a gwneud hynny heb lethu'r darllenydd na throi
ei gyfrol yn werslyfr hanes.
Mae Si么n Trefnant yn gymeriad diddorol ei hun. Yn bragmatydd sy'n
ceisio byw ei fywyd yn 么l cyngor a gafodd pan yn blentyn gan ei dad
i fynd efo'r lli.
Hyd yn oed wedi cyrraedd statws esgob chwilio y mae am ddulliau
o weithredu na fyddant yn cynhyrfu dyfroedd nac yn tramgwyddo na'i
gyfeillion na鈥檌 wrthwynebwyr a hynny'n gwneud iddo ymddangos yn aml
yn gymeriad gwan a di-asgwrn-cefn yn hytrach na'r un arwrol y byddem
yn ei ddisgwyl yn brif gymeriad nofel.
Mae i'r adlais o'r ddelwedd hon o fynd efo'r lli rym ysgytwol
ym mrawddeg olaf y nofel.
Swm a sylwedd hyn oll yw fod gennym gymeriad diddorol sydd yn gorfod
cydnabod, ar 么l ystumio'i gydwybod bob sut wrth geisio peidio 芒 sathru
cyrn hen gyfeillion o wahanol egwyddorion a safbwyntiau i鈥檞 gilydd.
"Rydw i wedi hen arfer erbyn hyn . . . 芒 gwneud yn groes i'm cydwybod.
Mae'r Eglwys yn gwneud hynny iti."
Ac wrth edrych yn 么l dros droadau ei fywyd yn gorfod galaru: "Beth
oedd y dynged hon a roddwyd arnaf fod popeth oedd yn annwyl imi .
. . . yn bethau esgymun y disgwylid imi gywilyddio o'u plegid?"
Ymhlith y rhain y mae argyhoeddiadau crefyddol y mae'n gweld ei hun
dan orfodaeth i'w tymheru a'u cuddio oherwydd gofynion swydd.
Dangos ei liwiau
Hefyd, mae croesdynnu rhwng dyletswyddau esgobol a'i wladgarwch wrth
i'r dydd brysur gyrraedd y mae'n rhaid iddo ddangos ei liwiau gwleidyddol
a'i gefnogaeth neu ei wrthwynebiad cyhoeddus i'r Mab Darogan, Owain
Glyndwr.
Mae'r cyferbynnu rhyngddo ef 芒 Si么n Trefor - esgob Llanelwy sy'n fwy
cyfforddus gyda'i bragmatiaeth - yn effeithiol yn rhinwedd y ffaith
mai'r pethau sy'n debyg rhyngddynt a danlinellir yn hytrach na'r gwahaniaethau.
Mae'r sgwrs hon yn cyfleu eu meddylfryd gwleidyddol effro:
"Mi ddywedaist wrthyf fi ryw dro, Si么n Trefor, mai dy ddull di ydi
aros i weld pwy sy'n ennill y chwarae cyn gwneud dim."
"A dyna'r peth i'w wneud tra bo dyn yn gweithio'i ffordd i fyny yn
y byd. Ond ar 么l cyrraedd y brig, mae ganddo fo ran yn y chwarae ei
hun. A chan fod ganddo fo lawer mwy i'w golli, mae'n hanfodol nad
ydi o byth yn cefnogi collwr."
Gwewyr personol
Weithiau, mae ansicrwydd Si么n Trefnant ym mha wersyll i godi ei babell
yn gwylltio rhywun gan wneud iddo ymddangos yn greadur llipa a gwan
ond dro arall gallwn gydymdeimlo gwewyr personol un sy'n cael anhawster
dangos ei liwiau.
O ystyried mai nofel fer iawn, 150 dalen, yw hon mae'n deyrnged i'r
awdur iddo lwyddo cystal i gyfleu y gwrthdaro mewnol hwn ac mae鈥檔
ddiddorol mai o fewn unigolyn y mae gwrthdaro'r nofel yn hytrach na
rhwng cymeriadau.
O fewn cwmpas byr hefyd llwydda i gyffwrdd 芒 sawl dadl foesol ac i
roi darlun byw o gyfnod arbennig iawn wrth i'r digwyddiadau symud
o Gymru i Loegr ac o Loegr ar draws Ewrop trwy Ffrainc i Rufain ac
wedyn yn 么l i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Caiff lwyddiant arbennig yn dad-ddieithro bywyd a chefndir sy'n siwr
o fod yn ddieithr iawn i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr.
Y syndod yw na wnaeth y pethau hyn a'r traddodi uniongyrchol, gafaelgar,
fwy o argraff ar feirniaid y Fedal Ryddiaith yn Ninbych y llynedd.
Cyfoes a hanesyddol
O ran arddull dewisodd Gwynn ap Gwilym gyplysu iaith gyfoes ei hidiomau
ac iaith sy'n adlais o'r hyn y byddem yn ei dybio oedd yn ieithwedd
y cyfnod hanesyddol.
Y canlyniad hyn yw fod y nofel, er gwaethaf dieithrwch allanol ei
chyfnod, yn hawdd ei darllen diolch i arddull sy'n gyfuniad o'r uniongyrchol
di-lol a cheinder barddonol bron.
Mewn darnau disgrifiadol fe'n hatgoffir o arddull storiol sicr y Mabinogion
gyda'r nodwedd honno i'w gweld ar ei hamlycaf yn y disgrifiad trawiadol
o Owain Lawgoch yn anwesu'r wrach ac hefyd mewn darnau darluniadol
fel yr un o ddwy osgordd esgobol yn ymuno 芒鈥檌 gilydd ar gyfer taith
i Lundain.
"Ar y dydd olaf o Awst, yr oedd fy ngosgordd a minnau yn disgwyl ar
gefn ein meirch ar lan afon Hafren, islaw cadeirlan Caerwrangon, am
yr orymdaith o Ogledd Cymru. O'r diwedd, fe'i gwelem yn dod: ugeiniau
o wyr mewn arfwisgoedd trymion ar geffylau mawr, cydnerth, eu harfau
a harneisiau'r meirch yn clindarddach fel clychau, eu cleddyfau a'u
tarianau yn fflachio yn haul y prynhawn, a'u baneri'n cyhwfan yn falch
yn y cymylau llwch a godai o'u cwmpas. Wrth weld ein mintai ni, fe
arhosodd yr orymdaith.
" Pwy ydych chi?" gwaeddodd rhyw swyddog ar y blaen, a'i law ar ei
gleddyf . . .
"Safasom am ysbaid, a minnau'n cadw llygad yn agored am Si么n Trefor.
Aeth dwsinau o wyr meirch heibio, ac yna un march gwyn ysblennydd,
ac arfbais y brenin ar y gorchudd dan ei gyfrwy. Arno marchogai gwr
ifanc golygus, syth fel bedwen, a'i arfwisg ariannaidd yn caneitio
ym mhelydrau'r hau. Yr oedd wedi diosg ei benwisg, a gallwn weld ei
wyneb yn disgleirio'n fuddugoliaethus o dan ei wallt melyngoch."
Llawn awyrgylch
Gafaelgar, llawn awyrgylch, hefyd yw disgrifiad o ymweliad Si么n Trefnant
芒 ffermdy ei hen athro a ninnau'n sawru sefyllfa drwy'r geiriau.
Mae yna ddisgrifiadau darluniadol grefftus o bobl hefyd:
" . . . dyma'r dyn bychan od yma i mewn, un byr, tenau, a'i ddillad
yn hongian amdano, ei 锚n bron a chyffwrdd ei drwyn, ei wallt llaes
dros ei ddannedd, a'i lygaid yn tanio yn ei wyneb gwelw."
Nofel fer ond un gyda llawer iawn i'w gynnig ac un sydd oherwydd eangder
ei chynfas a symylrwydd cain ei harddull yn un sy'n mynd i roi pleser
a phroc i'r meddwl gyda'r darlun byw a synhwyrus o gyfnod arbennig
yn ein hanes yn fonws ychwanegol.
Holi
Gwynn ap Gwilym
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|