|
|
Portreadu'r
Cymry
Nofel hanes sy'n afaelgar a chelfydd
Dydd Iau, Awst 15, 2002
|
Portreadau - Portraits gan David Griffiths. Llyfrgell
Genedlaethol Cymru. Cyhoeddir i gydfynd ag arddangosfa yn y Llyfrgell
Genedlaethol, Aberystwyth.
Bryn Terfel, Barry John, Gwynfor Evans, Arglwydd Tonypandy, Siân Phillips.
Mae’r rhestr o bobl sydd wedi eu portreadu gan yr arlunydd David Griffiths
yn un drawiadol.
Ac
mae'r peintiadau hynny i’w gweld mewn llyfryn hardd a gyhoeddwyd i
gydfynd ag arddangosfa o’i waith yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth
tan Hydref 5.
Gyda chyflwyniad i waith yr arlunydd gan Rian Evans mae'n debyg iawn
i restr pwy-di-pwy Cymru ail hanner yr ugeinfed ganrif!
Dros gyfnod o ddeugain mlynedd bu David Griffiths yn arlunydd llys
answyddogol bywyd Cymru gan wisgo mantell traddodiad sy’n ymestyn
yn ôl i’r arlunwyr gwlad.
Portreadodd arweinwyr ac eiconau bywyd Cymru ac yn y gyfrol hon nid
yn unig atgynhyrchir y portreadau ond hefyd wybodaeth fywgraffyddol
yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Er
mai yn Lerpwl y ganed a magwyd ef roedd ei gefndiryn gwbl Gymreig
ac yn wr celf o dorriad ei fogail.
Gwnaeth ei hen daid lun o’r gwleidydd, William Ewart Gladstone.
Symudodd y teulu o Lerpwl i Bwllheli pan oedd David yn saith oed ac
yno, yn Ysgol Ramadeg y dref, y daeth dan ddylanwad yr athro a’r arlunydd,
Elis Gwyn, cyn mynd yn ei flaen i astudio celf yn Ysgol Gelf Slade
yn Llundain.
Arwisgo'r Tywysog Charles yn Dywysog Cymru yn 1969 ddaeth a bri iddo
gyntaf gan iddo ennill comisiwn i lunio portread ohono.
Ers hynny, lluniodd bortreadau o ddwsinau o bobl ym myd gwleidyddiaeth,
dysg, meddygaeth, crefydd, celf a cherddoriaeth gan gynnwys rhai mor
wahanol ag Enoch Powell a George Melly.
"Mae
yna draddodiad o lunio portreadau, traddodiad o groniclo’r eisteddwr
yn gywir ac yn driw, dyna draddodiad Rembrandt a Velasquez a dyna’r
traddodiad yr wyf i’n rhan ohono. Mae’n draddodiad anodd i’w ddilyn
yn yr hinsawdd gelf sydd ohoni lle mae celf cysyniadol yn norm, os
nad yn gelf sefydliadol bellach, ond rwy’n dilyn fy nghwys fy hun,"
meddai David Griffiths o’i stiwdio yng Nghaerdydd.
Arddangosfa Portreadau David Griffiths yw prif ddigwyddiad y Llyfrgell
Genedlaethol yn ystod yr haf eleni ac mae'n dyst, meddai llefarydd,
i’r parch sydd iddo a’r pwysigrwydd a roddir i artist sydd wedi dyrchafu
diwylliant a chymdeithas Cymru trwy ei waith.
"Mae
Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gael cynnal Arddangosfa
Portreadau David Griffiths – arddangosfa sy’n cynnal dychymyg y cyhoedd
ac sydd hefyd yn chwarae rhan bwysig gymdeithasol a chelfyddydol wrth
i Gymru geisio dod i dermau â’i hinsawdd wleidyddol a diwylliannol
newydd," dywedodd Michael Francis, Pennaeth Arddangosfeydd, Llyfrgell
Genedlaethol Cymru.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|