|
|
Cymeriadau
lliwgar
Chwe stori â enillodd wobr
Dydd Iau, Awst 15, 2002
|
Sylfeini Llithrig gan Meinir Eluned Jones. Cyfrol Fuddugol
Medal Lenyddiaeth, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a’r Fro.
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. £3
Adolygiad gan Catrin Jones
Mae’r gyfrol yn cynnwys chwe stori fer a’r rheiny’n rhai gwahanol
iawn o ran cynnwys ac arddull.
Rydym yn cael ein cyflwyno i gymeriadau lliwgar fel teilsen, dynion
bach sy’n byw ar y lleuad, carreg mewn wal a thorrwr codau enwog.
Canmol dychymyg
Mae’r gyfrol yn agor gyda stori rymus o’r enw Torrwyd dy Ffenest.
Yn y stori hon mae’r awdur yn adrodd ei hanes yn treulio cyfnod o
brofiad gwaith fel teilsen. Mae’n rhaid canmol Meinir am ei dychymyg
yma.
Dwi’n hoff iawn hefyd o’r modd y mae’n defnyddio troednodiadau yn
y stori. Mae’r defnydd o’r troednodiadau hyn yn bwysig yng nghyd-destun
y stori gan eu bod yn cyfleu’r berthynas rhwng yr awdur â’r darllenydd.
Mae’r troednodiadau yn gyfle i’r awdur gyfarch y darllenydd heb amharu
ar y stori ei hun.
A’r berthynas hon rhwng yr awdur a’r darllenydd yw thema ganolog y
stori. Trwy’r gwaith mae’r awdur yn ceisio ein deffro ni’r darllenwyr
a’n hysgwyd. Mae am i ni wrando ar yr hyn sydd ganddi i’w ddweud.
I gyfleu hyn mae’n defnyddio’r syniad o daflu carreg tuag at ffenestr.
Y ffenestr yw’r gwydr sydd fel petai o’n cwmpas ni’r darllenwyr ac
yn dylanwadu ar ein golwg ni o’r byd. Tasg yr awdur felly yw meddiannu
ein sylw a thorri’r ffenestr hon sy’n mynnu ein gwarchod.
"Glywaist ti hynna? Jyst rwan....y swn byddarol ‘na. ‘Rargian, mi
oedd o’n uchel, doedd? Fi daflodd garreg at dy ffenestr di. Fi graciodd
wydr dy fywyd hunanganolog, hunangyfiawn di."
Darllen ein meddyliau
Mae’r awdur fel pe bai’n gallu darllen ein meddyliau ni. Mae’r frawddeg
hon er enghraifft:
"Mi dreuliais i gyfnod o brofiad gwaith fel teilsen ers talwm" yn
sefyll ar ei phen ein hun yn heriol yng nghanol y dudalen. Ond yn
union fel pe bai’n gwybod beth yw ein hadwaith ni wedyn daw’r sylw
cyhuddgar mewn troednodyn: "Dwi ‘di dy rybuddio di unwaith yn barod.
Paid â’m barnu i’n ôl dy ragfarnau dy hun. Darllena’n dawel a chau
dy geg."
Mae’r sylwadau hyn yn elfen bwysig iawn yn y stori hon. Gan ei bod
yn stori mor wahanol a dychmygol mae’n naturiol y byddwn ni’r darllenwyr
yn cwestiynu. Ond mae’r stori yn codi cwestiynau pwysig ynglyn â’r
berthynas rhwng yr awdur a’r darllenydd. Pa un sydd bwysicaf mewn
llenyddiaeth?
Erbyn diwedd y stori mae safbwynt yr awdur yn glir: "Fi yw’r Awdur
Grymus a dwyt ti ond darllenydd clwyfus na’th ryddheir o artaith fy
nhestun."
Mae’r awdur am ein gweld ni’n dioddef am ein bod ni’n gwneud iddi
hi ddioddef gan nad ydym yn rhoi iddi’r cydymdeimlad y mae ei angen
ac am nad ydym ni yn gwrando nac yn credu’r hyn y dywed yr awdur wrthym
fel arfer.
Newyddiadurwr a Brenin
Mae’r stori nesaf sef 1969? yn dangos unwaith eto fod gan Meinir
Eluned dipyn o ddychymyg. Yr hyn sydd yma yw cyfweliad rhwng newyddiadurwr
a Brenin. Mae’r Brenin yn honni ei fod yn gallu gweld trigolion ar
y lleuad trwy ei delisgôp. Sgwrs sydd yma felly rhwng y ddau ac mae’n
rhaid canmol disgrifiadau unigryw yr awdur o fywyd ar y lleuad a’r
creaduriaid bach.
Ond yng nghanol y disgrifiadau lliwgar hyn mae yma hefyd feirniadaeth
ar ein cymdeithas, er enghraifft "Dydi trigolion y lleuad ddim yn
rhannu’r un arferion anwar â’r ddynoliaeth. Dydi yfed cwrw fflat fesul
galwyn, canu ‘Sosban Fach’ yn fyngus ac arddel ffug-genedlaetholdeb
ddim yn dderbyniol yn eu plith hwy".
Llenyddiaeth y lleuad
Ceir yma hefyd gyfeiriad at lenyddiaeth. Llenyddiaeth go wahanol sydd
ganddyn nhw ar y lleuad. Dywed y brenin ein bod hi’n dlawd iawn arnom
ni ar y ddaear o’i gymharu â nhw: "dydi hi’m yn dlawd o gwbl arnyn
nhw i fyny ‘na. Arnom ni mae hi’n dlawd, mae arna i ofn; ni – y creaduriaid
anffodus na all ond rhoi un ymateb i lenyddiaeth (dau ar y mwyaf,
os ydych chi’n un o’r bobol ‘mae sy’n ymdrin â’r ymennydd a’r galon
fel organau paradocsaidd)."
Mae’r stori yn gorffen gyda chyfres o gwestiynau rhethregol sy’n gwneud
i ni’r darllenwyr i feddwl a allwn fod yn gwbwl sicr nad oes bywyd
ar y lleuad.
'Ffin a anwybyddwyd'
Mae trydedd stori’r gyfrol yn trafod Clawdd Offa. Dyma "ffin a anwybyddwyd"
ac yn y stori hon mae’r Cymry yn penderfynu ei hailgodi er mwyn atal
y mewnlifiad. Stori wedi ei gosod yn y dyfodol yw hon gan fod yr ailadeiladu
yn dechrau yn y flwyddyn 2014.
Unwaith eto yn y stori hon mae’r awdur yn cyfarch y darllenydd gan
ddarllen ein meddyliau: "A pha rôl yr wyf fi’n ei chwarae yn hyn i
gyd, fe’th glywaf yn gofyn."
Rhyw fath o ymson carreg sydd yma, mae’r garreg yn un o’r rhai fydd
yn ffurfio’r clawdd. Ond yr eironi yma yw fod y garreg wedi ei chaethiwo.
Yn union fel y mae’r clawdd yn rhoi i Gymru ei rhyddid, mae’n caethiwo’r
garreg fach hon wrth iddi golli ei rhyddid am byth.
Yr olaf yn orau
Dyma flas felly ar rai o straeon cyntaf y gyfrol. Ond y ddwy stori
olaf yw’r rhai gorau yn fy marn i. Erbyn y straeon hyn mae Meinir
Eluned wedi llwyr feistroli crefft y stori fer ac mae yma awdur cwbwl
aeddfed.
Un o’r straeon yr ydw i’n cyfeirio atynt yw Marwolaeth Llundain.
Stori abswrd yw hon am ddiflaniad prifddinas Lloegr ac mae’n codi
cwestiynau pwysig am y brif ddinas.
Mae’r stori’n dechrau pan yw darganfyddiadau pwysig gan gynllunydd
traffig o Japan, ffisegwr o India a beirniad llenyddol o’r Aifft yn
dangos nad yw Llundain yn bodoli mwyach. Ond nid oes neb yn cymryd
sylw o’u damcaniaethau ac mae pawb o’r farn eu bod yn wallgof.
Ond un diwrnod mae Llundain yn rhwygo’n ddau gan adael twll mawr du
ar ei ôl. Mae’r ddinas yn diflannu o flaen llygaid ei thrigolion.
A’r cwestiwn pwysig y mae’r awdur yn ei ofyn yw: "Roedden nhw’n cofio’r
gwesty, y fflat neu’r ty y buont yn byw ynddo (.....ond) Sut gwyddent
beth oedd tu ôl i’r adeiladau?".
Er bod pawb yn chwerthin ar y stori i ddechrau gan eu bod yn gwybod
eu bod nhw wedi ymweld â mannau yn Llundain, wedi iddyn nhw ystyried
yn ofalus does ganddyn nhw ddim sicrwydd fod yr holl elfennau fel
y siopau a’r gwestai a’r theatrau’n perthyn i’w gilydd ac yn bodoli
o fewn yr un lle. "Roedden nhw wedi croesi’r ffordd i’r orsaf danddaearol.
Sut gwyddent beth oedd y tu ôl i’r adeiladau?"
Profiad dinesig
Yn y stori hon mae Meinir Eluned yn trin y profiad dinesig mewn dull
cwbwl wreiddiol. Ceir yma feirniadaeth ar ein ffordd o fyw yn y byd
modern wrth i ni fyw bywyd ar frys a gwibio o amgylch Llundain ar
drenau tanddaearol.
Mae’r awdur hefyd yn trin y testun mewn dull dychanol. Meddai’r gwyddonydd
o Foscow "Wrth gwrs, fe wyddem fod Llundain yn bodoli, mae ffisegwyr
fel ni, hyd yn oed, yn darllen llenyddiaeth."
Ond mae’r stori’n mynd hyd yn oed yn fwy abswrd wrth fynd yn ei blaen.
Ni ellir peidio â chwerthin wrth ddarllen am Samuel Hughes sydd o’r
farn fod Llundain yn guddiedig ym Methesda.
Ond y tu ôl i’r chwerthin mae yma neges ddwys. Onid yw’r awdur yn
ceisio dweud wrthym yma fod Llundain yn union yr un fath ag unrhyw
dref neu bentref arall gan fod yr oes yn newid ac nad yw Llundain
fel yr ydym ni’n meddwl amdano yn bodoli mwyach, gan mai dim ond delfryd
yw hyn i ddenu’r twristiaid?
Stori olaf y gyfrol a’m hoff stori i yw Tynged y Torrwr Codau.
Yn ddiamheuaeth hon yw stori orau’r gyfrol. Mae’n stori gyffrous,
llawn dychymyg ac o’r paragraff cyntaf roeddwn i wedi ymgolli yn y
stori.
Datgymalu'r Beibl
Harold Gaus, Uwchdorrwr Codau i’r Asiantaeth Ddiogelwch yn Washington,
yw prif gymeriad y stori. Mae ef wedi mynd ati i ddatrys codau dyrys
yn y Beibl sy’n caniatáu iddo ragweld beth fydd yn digwydd yn y byd
yn y dyfodol.
Ar ddechrau’r stori mae’n derbyn e-bost yn dweud fod torrwr codau
arall wedi darganfod rhywbeth erchyll yn Llyfr Genesis a’i fod ef
yng nghanol hyn i gyd.
Mae’r awdur wedi llwyddo i ddal ein sylw ni’r darllenwyr o’r cychwyn
cyntaf felly ac roeddwn i’n ysu i wybod beth fyddai tynged y cymeriad
hwn.
Mae’r e-bost yn datgan y bydd marwolaeth yn Washington a bod yn rhaid
i Harold Gaus fynd i Loegr ar frys. Mae marwolaeth, ond mae’n rhaid
i ni ofyn y cwestiwn a fyddai’r farwolaeth honno wedi digwydd pe na
bai Gaus a’i gyfeillion wedi ymyrryd â ffawd. Onid yw grym ffawd y
tu hwnt i allu dyn?
Dyma ddiweddglo ysgytwol i gyfrol sy’n werth ei darllen. Mae’r gwaith
yn unigryw a’r ysgrifennu yn hynod o aeddfed yn arbennig erbyn diwedd
y gyfrol.
Roeddwn i’n hoff o’r pwyslais parhaus ar y berthynas rhwng y darllenydd
a’r awdur drwy’r gwaith, oedd yn adlewyrchu diddordeb Meinir Eluned
mewn beirniadaeth lenyddol. Roedd hyn yn ychwanegu dimensiwn arall
i’r gyfrol ac yn arbrawf oedd yn fy marn i yn llwyddo.
Awdur ifanc dawnus
Mae Sylfeini Llithrig yn brawf fod yma awdur ifanc dawnus.
Yn ei chyfrol gyntaf mae Meinir Eluned wedi profi y gall ysgrifennu
ar sawl gwedd gan fod yma gymysgedd rhwng y digrif a’r dwys gyda darnau
ysgafn a darnau ysgytwol. Mae’r rhain i gyd yn cyd blethu yn dda a
gall Meinir newid cywair yn ddidrafferth.
Yn ogystal mae wedi llwyr feistroli crefft y stori fer. Mae’r ysgrifennu
yn gynnil a phob stori’n cymell y darllenydd i feddwl ymhellach. Dyma
waith canmoladwy iawn felly ac rwy’n edrych ymlaen i ddarllen mwy
gan Meinir Eluned yn y dyfodol.
Ennill yn yr Urdd -
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|