|
|
Llenor
â chlust bardd
Cyfrol fuddugol Medal Lenyddiaeth Eisteddfod Tyddewi
Dydd Iau, Awst 29, 2002
|
O! Tyn y Gorchudd gan Angharad Price.
Cyfrol fuddugol y Fedal Lenyddiaeth, Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi.
Gomer ar ran Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.
Adolygiad gan W.Dyfrig Davies
Ffrwyth cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol
Tyddewi eleni yw’r gyfrol hon.
Y gofyn oedd am hunangofiant – dilys neu ddychmygol.
Nawr, nid fel rhan o’r gystadleuaeth dw i am ei hystyried, mae beirniaid
llawer mwy profiadol na fi wedi ei dyrchafu i frig y gystadleuaeth
honno - a hynny o blith un ar hugain o hunangofiannau eraill.
Dw i, yn hytrach, yn edrych arni o’r newydd; yn gwbl ffres heb orfod
ei chymharu â’r un gyfrol arall er mwyn penderfynu pa un sydd orau.
Nid ar silff hunangofiannau
Mae’r ffaith mai hunangofiant sydd yma yn peri i rywun ddisgwyl rhywbeth
mewn mowld arbennig… a dyna efallai yw’r sioc gyntaf.
Camarweiniol fyddai ceisio gwthio’r gyfrol hon i silff yr hunangofiannau
traddodiadol - mae’n fwy o lawer na hynny.
Y peth cyntaf a’m trawodd oedd Cymraeg llenyddol, pert, cyhyrog yr
awdures.
Mae yma farddoniaeth oherwydd bod y rhythmau llafar llenyddol yn llifo
mor rhwydd.
Nid Cymraeg wedi ei wanhau er mwyn i bob Tom Dic a Harri ei deall
a geir yma ac eto nid rhyw iaith hunanymwybodol or-flodeuog chwaith.
Clust bardd sydd gan yr awdures ac mae’r iaith a’r cywair yn fendigedig
ac yn gwbl addas i’r testun.
Yr agoriad
Mae’r agoriad yn rhyfedd - yn atgoffa dyn am Gwm Tawelwch Gwilym
R. Jones. Bron nad yw’r gyfrol hon yn ateb dyhead y bardd am le tawel
a'r lle tawel hwnnw yn y gyfrol hon yw Cwm Maesglasau a chanu clodydd
y lle a wneir yma.
Rwy’n cofio fy athrawes Gymraeg yn yr ysgol yn tynnu sylw’r dosbarth
at arddull arbennig Islwyn Ffowc Ellis yn Cysgod y Cryman -
a’r modd y mae’n dechrau ambell i bennod gyda llun mawr, panoramig
o’r ardal, cyn (fel camera ffilm) agosáu at wrthrych ei sylw boed
yn gymeriad neu le.
Fel arall y mae Angharad yn mynd â ni at Gwm Maesglasau. Rydym ni’n
benodol gyda’r nant, ac yn ei dilyn hi gan raddol ddatgelu’r darlun
llawn.
Yn wir ar y dechrau, bron nad y lle sy’n cael y sylw i gyd ac ymateb
y mae Rebecca Jones, y prif gymeriad, i’r lle a’i bwysigrwydd iddi
hi.
Yn y gwaed
Yn wir mae’r man arbennig yma yn rhan o wead y prif gymeriad a’r nant
fel ei gwaed yn llifo drwy ei gwythiennau.
Mae gan Rebecca Jones wreiddiau - gwreiddiau dwfn, cadarn. Hi yw y
lle a’r lle yw hi - mae’r naill a’r llall yn un goflaid gynnes.
Mae dod i adnabod Rebecca Jones a’i theulu yn brofiad llenyddol o’r
safon uchaf. Rhywsut i ni’n dod i fyw profiadau gyda hi a hynny heb
unrhyw felodrama, na hiwmor chwerthin-yn-uchel.
Mae’r awdures yn ein goglais ni gyda’r profiadau ac ar adegau eraill
yn ein dolurio â thristwch yr hyn sy’n digwydd i Rebecca Jones.
Dw i ddim am ddatgelu gormod ar y plot ond mae’r sefyllfa yn un gyffredin;
teulu diwylliedig yn ffermio tir anodd cwm Maesglasau ger Dinas Mawddwy
yng nghanolbarth Cymru ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.
Pethau anghyffredin teulu cyffredin
Teulu arferol a chyffredin, ac eto fel gyda phob teulu mae’n siwr
mae yma bethau anghyffredin ac anodd eu derbyn yn rhan o’r byw bob
dydd.
O blith brodyr a chwiorydd Rebecca a fu byw, roedd tri brawd yn ddall,
dau o enedigaeth. Er hyn, roedd ymwybyddiaeth a chariad y rhieni tuag
atyn nhw yn golygu fod yn rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd i gael addysg
arbennig a’r addysg honno yn dieithrio’r brodyr o’u teulu a hefyd
o’r fro. Hyn i gyd mewn cyferbyniad llwyr â Rebecca Jones ei hun.
Pe bai dyn yn chwilio am y themâu - yr edau aur sy’n creu’r darlun
mawr, un o’r prif themâu heb os yw yr un o warchod a chynnal. Mae
Rebecca Jones yn ei henaint yn dal yr un mor frwdfrydig dros ei bro,
yn dal i lawenhau wrth gofleidio pob rhan o’r ddaear y troediodd arno.
O'r emyn
Ceir dyfyniadau o waith pobl fel Hugh Jones Maesglasau (1749-1825)
- ac yn wir o deitl un o’i emynau mwyaf adnabyddus, "O! tyn y gorchudd
yn y mynydd hyn", y daw teitl y gyfrol.
Gwr a aeth i ffwrdd i gael addysg ac i Lundain yn athro am gyfnod
oedd Hugh Jones - ond fe ddaeth yn ôl i warchod ac i gynnal. Mae’r
pytiau hyn o ffeithiau - boed yn ddyfyniadau ac yn wybodaeth, o gymorth
mawr i danlinellu’r ffaith fod Rebecca Jones yn bod go iawn.
Er fe ddatgelir ar ddiwedd y gyfrol iddi farw yn 11 oed ac mai dychymyg
yr awdures gydag atgofion teulu a chydnabod, yw gweddill ei bywyd.
Hamdden arwyddocaol
Yn gamarweiniol, ar ddechrau’r gyfrol, teimlais fod yma or-arafwch
ond ar ôl gorffen y gyfrol rwy’n gwerthfawrogi’n fwy arwyddocâd a
phwysigrwydd yr agoriad hamddenol.
Mae’r diwedd efallai yn colli ar gynildeb gweddill y gwaith - ac eto
mae pethau sydd angen eu dweud yn cael eu dweud yn ddiflewyn ar dafod.
Nid rhywun eithafol mo Rebecca Jones ond mae ynddi’r gallu hwnnw i
weld y peryglon ac i ofidio am bwy fydd yn cofleidio’r darn hwn o
dir i’w warchod a’i gynnal i’r dyfodol?
Eironig ynteu bwriadol glyfar yw’r ffaith nad oes iddi blant ac felly
nid yw’n gallu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r genhedlaeth nesaf ond
drwy deulu a disgynyddion ei brawd.
Profiad amheuthun a llenyddol bleserus oedd darllen y gyfrol hon.
Mae’n werth ei darllen a hynny fwy nag unwaith.
Llongyfarchiadau a diolch Angharad ac edrychaf ymlaen at y gyfrol
nesaf…
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|