|
|
Ar
drywydd ymwelwyr dirgel
Astudiaeth drylwyr a chyfrifol i straeon am fodau o fydoedd
eraill
Dydd Iau, Awst 29, 2002
|
Yr Ymwelwyr, gan Richard Foxhall (Gwasg Carreg
Gwalch: 拢3.99).
Adolygiad gan Grahame Davies
Pan mae'n dod i faterion fel soseri hedegog a bodau arallfydol a phethau
X-Files-aidd arall, mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod yn fwy o Scully
nag o Mulder.
Nid wyf yn "X-phile" (fel y gelwir caredigion y rhaglen ffuglen-wyddonol
honno) ond gwn ddigon am y rhaglen i wybod fy mod yn rhannu agwedd
sgeptigaidd yr Asiant Dana Scully tuag at ymwelwyr honedig o'r gofod
yn hytrach nag agwedd agored a chrediniol ei phartner, sef yr Asiant
Fox Mulder.
Achosion o Gymru
Digon amheus oeddwn i felly wrth agor Yr Ymwelwyr gan Richard
Foxhall, yr awdur o Ddyffryn Nantlle, sy'n olrhain hanes pob math
o ymweliadau honedig gan fodau arallfydol, gan ganolbwyntio yn arbennig
ar achosion o Gymru.
Yn y llyfr diweddaraf hwn yng Nghyfres Dan y Gannwyll, ceir hanesion
am "welediadau" yn dyddio yn 么l i'r Oesoedd Canol. Ond o'r Ail Rhyfel
Byd ymlaen y deillia'r rhai mwyaf trawiadol.
Cofnodir achosion enwog o bob rhan o'r byd, ac mae'r awdur yn olrhain
yr ymgeisiau a fu i gael cadarnhad swyddogol o'r gwelediadau.
Dirgelwch Roswell
Mae Foxhall yn rhoi sylw arbennig i'r honiad bod llong ofod arallfydol
wedi plymio i'r ddaear ger Roswell ym Mecsico Newydd ym 1947, ac i
hyn gael ei gadw yn gyfrinachol gan awdurdodau America wrth i beirianwyr
lluoedd arfog y wlad honno ddadgymalu'r gwrthrych o'r gofod er mwyn
gwneud defnydd o'i dechnoleg.
Yn 么l y damcaniaethau cynllwyn niferus sydd wedi tyfu o gylch y digwyddiad
hwn, y cerbyd yma o'r gofod oedd ffynhonnell nifer o ddarganfyddiadau
technolegol mwyaf trawiadol yr hanner canrif diwethaf, gan gynnwys
y sglodyn meicro, gwifrau ffibr-optig a thechnoleg laser.
Os felly, trueni na chrasiodd ef yng Nghymru - os felly, hwyrach y
byddai dipyn mwy o sglein ar ein diwydiannau uchel-dechnoleg erbyn
hyn. Ond dyna ni, i'r pant y rhed y dwr, fe ymddengys, ac i ddwylo
gwlad fwya' pwerus y byd y cwympodd y rhodd technolegol hwn.
Ugeiniau o bobl
Serch hynny, mae'n bosib bod Cymru wedi cael ei chyfle i fachu dipyn
o dechnoleg y s锚r, achos fe gofnodir yma hanes hynod rhai digwyddiadau
ym mynyddoedd y Berwyn ger Llandrillo ar Ionawr 23, 1974.
Y noson honno fe clywyd gwrthdrawiad mawr ar y mynyddoedd gan ugeiniau
o bobl, ac fe aeth y gwasanaethau brys a'r awdurdodau i'r fan i chwilio
am yr hyn a dybid oedd yn awyren wedi dymchwel.
Ond er i nyrs leol - a gafodd ei chyfweld o'r newydd yn arbennig ar
gyfer y llyfr - dystio iddi weld gwrthrych tebyg i soser hedegog ar
y mynydd y noson honno, ni ddaeth esboniad boddhaol i'r fei gan yr
awdurdodau ac y mae'n debyg i len o ddirgeledd swyddogol ddisgyn dros
yr holl hanes.
Y mae Foxhall i'w ganmol am ei drylwyredd wrth iddo glirio ymaith
peth o'r coelion gwerin a gyfododd ynghylch y digwyddiad hwn.
Amheus o sydyn
Credir yn gyffredin erbyn hyn, er enghraifft, i'r awdurdodau gadw
pobl i ffwrdd o safle'r gwrthdrawiad yn 1974, ac iddynt gyrraedd y
fan yn amheus o sydyn. Gwelir eu hymateb sydyn fel arwydd iddynt wybod
llawer mwy nag y datgelent am y digwyddiad.
Ond dengys Foxhall bod cof rhai pobl yn ddiffygiol yn hynny o beth.
Ni chadwyd pobl i ffwrdd o'r safle yn 1974. Ond ym mis Chwefror 1982,
ryw wyth mlynedd yn ddiweddarach, fe blymiodd awyren Harrier yr RAF
i'r ddaear ger Llandrillo gan ladd y peilot. A do, y tro hwnnw, fe
gadwyd pobl i ffwrdd o'r safle am rai dyddiau gan i'r awdurdodau ofni
ffrwydrad o arfau'r awyren ryfel. Mae'n debyg mai cymysgu'r ddau ddigwyddiad
y mae pobl.
Ond nid yw clirio'r coelion gwerin i ffwrdd ond yn tanlinellu cymaint
o gwestiynau a erys i'w hateb ynghylch digwyddiadau Llandrillo yn
1974. Ac y mae amharodrwydd yr awdurdodau i roi gwybodaeth ar y pwnc
yn ychwanegu at chwilfrydedd rhywun.
Eu
gweld gan blant
Dyna wedyn yr "UFO's" a welwyd gan griwiau o blant ysgol yn Sir Benfro
ac Ynys M么n yn 1977. Stor茂au hynod i gyd, ac fe ymdrinir 芒 hwy mewn
modd synhwyrol a rhesymol, ac er ei fod yn amlwg bod yr awdur yn Mulder
yn hytrach nag yn Scully, mae'n gwneud ymdrech lew i hidlo'r dystiolaeth
a pheidio 芒 bod yn rhy hygoelus.
Yn fwyaf amheus
Y man ble teimlais fwya o amheuon oedd pan adroddir hanesion pobl
sy'n honni iddynt gael eu cipio gan griwiau soseri hedegog ac iddynt
ddioddef arbrofion corfforol - yn talu sylw arbennig i'w horganau
rhywiol yn aml. Bryd hynny, teimlais fod gan y tystion fwy o gwestiynau
i'w hateb na'r awdurdodau.
Ond at ei gilydd, gyda'i fanylder a'i arddull naratif naturiol, mae'r
llyfr hwn yn astudiaeth gyfrifol a gafaelgar o ddigwyddiadau sydd
yn sicr yn haeddu eu cymryd o ddifri'. I rai nad ydynt eisoes yn gyfarwydd
芒 llenyddiaeth doreithiog y maes ni allaf feddwl am gyflwyniad gwell
i'r pwnc.
Ac mae'n deyrnged i waith ymchwil trylwyr Richard Foxhall fy mod,
erbyn gorffen Yr Ymwelwyr, yn cydymdeimlo llawer mwy 芒 Mulder.
Hwyrach bod y gwirionedd allan fan' na wedi'r cyfan.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|