大象传媒


Explore the 大象传媒

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Capel Llwyndyrys
Pentre'r capel - a chapel y pentref

Hanes capel lle nad oes siop na thafarn

Dydd Iau,Medi 12, 2002

"Meini wrth droed y mynydd," yw teitl llyfr a gyhoeddwyd ar achlysur dathlu ailadeiladu capel y Methodistiaid yn LIwyndyrys ar benrhyn Llyn.

I'r anghyfarwydd rhaid egluro nad oes yma dref na phentref; na siop , tafarn, bws na dim ond y capel ar ymyl y ffordd fawr - os mawr hefyd, er ei bod yn fwy na'r Ilu a f芒n gefnffyrdd sy'n arwain at sawl ffermdy ar lawr gwlad .

Mae'r capel yn unigryw. Fel y dywed y gweinidog, y Parchedig Hywel Rhys Edwards yn y llyfr:

"Credaf fad y capel yn braenaru'r tir ac yn dangos y ffordd i gapeli Cymru drwy 'r arbrawf a ddechreuwyd rai blynyddoedd yn 么l. Penderfynwyd cyfuno'r Ysgol Sui ag oedfa'r bore," meddai.

Pa well rheswm dros i'r gweinidog gredu "mai'r capel yw'r glud sy'n dal Llwyndyrys gyda'i gilydd fel cymuned."

Ardal enwogion

Dyma ardal enwogion fel John Elias, a gyfrifid yn ei ddydd fel y mwyaf nerthol a phoblogaidd a holl bregethwyr Cymru

Mae yma gefndir hanesyddol tra diddorol o ddyddiau Collwyn Ap Tango, Arglwydd Eifionydd sydd a'i arfbais ar un o furiau fferm Llwyndyrys.

Cyfeirir hefyd mai yma y trigai meiri tref Pwllheli ar un cyfnod.

Bu adroddiadau ffafriol i Ysgolion Gruffydd Jones, Llanddowror yn IIan Garnguwch , lle bu 'r enwog Garanwy a Fan yn gurad .

Ond down at y gyfrol lle mae cyfeiriad at symud yr ysgolSul o'r Ilan i feudy Tyddyn y Felin.

I ddod yn nes mae Gwilym Griffith, Plas Newydd yn cadw traddodiad cyfoethog o godwyr canu - yr un Gwlilym Griffith ag sy'n gyfrifol am Gwmni Drama Llwyndyrys , a fu ar sawl Ilwyfan cenedlaethol.

Cawn wybod sut y tyfodd yr holl gynhyrchiadau drama yn y chwedegau o gyfarfodydd Nadolig y capel a hefyd fel yr oedd aelodaeth yr eglwys wedi aros rhwng 50 a 70 drwy'r ganrif.

Bu Maggie Hughes, hithau, yn ofalwraig yn y Ty Capel am hanner canrif

Cyfansoddwyd englyn i Hywel Eifion Roberts a fu'n flaenor am dros 40 mlynedd.gan y Prifardd Myrddin Ap Dafydd sy'n aelod yno:

Y mae'n bwyll, yn gannwyll i gyd - a thriw
I'w athrawon bywyd,
Hywel dawel a diwyd
Dyn yn byw fod Duw'n y byd.

Cynhwysir tros 70 o luniau yn y llyfr - pob un a鈥檌 stori o'r ieuengaf hyd yr hynaf.

Ffordd droellog o'r Hen felin tuag at fferm Penfras Uchaf lle cynhaliwyd Steddfod yn y cwt gwair yn y tridegau.At ddiwedd y gyfrol adlewyrchir y gwerth a roddwyd ar ieuenctid yr eglwys pan ddarllenwn waith Owain Si么n, Hen Felln, yn rhoi Hanes Taith heibio i'r Efail Bach lle ganed Ellis Roberts,y llenor seth o brifysgol Bangor i fod yn ddarlithydd yn Llundain. ac yn wr amlwg yng nghapel Lewisham.

Mae englyn gan y Prifardd Myrddin Ap Dafydd i'r capel ei hun hefyd:

Meini wrth droed y mynydd - inni'n nerth yn nwr yr afonydd,
yn lIestr a ffenestr i ffydd
yn Ilawn o iaith Ilawenydd.

Cyfrol gymen fel arfer gan Wasg Carreg Gwalch wedi ei chyhoeddi gan y capel. £4.50.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau neu unrhyw straeon sydd gennych am lyfrau

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 大象传媒 Cymru'r Byd






About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy