|
|
Galw
am gasglu gwaith y casglwr
'Mae'n bryd cael casgliad o gyfraniadau Bob Owen Croesor'
Dydd Iau,Hydref 3, 2002
|
Dylid
casglu at ei gilydd holl waith yr hanesydd a'r hynafiaethydd, Bob
Owen Croesor, a'i gyhoeddi yn un gyfrol.
Daeth yr alwad oddi wrth y Dr Bruce Griffiths wrth iddo agor ffair
lyfrau ail law yn Y Bala ddydd Sadwrn, Medi 28, 2002.
Miloedd o lyfrau
Trefnwyd
y ffair gan Gymdeithas Bob Owen sydd hefyd yn cyhoeddi'r cylchgrawn,
Y Casglwr, ac yr oedd yno gryn 60,000 o lyfrau ail law Cymraeg
neu Gymreig ar werth gyda hyd yn oed y Llyfrgell Genedlaethol 芒 bwrdd
yno.
Teithiodd cannoedd o gasglwyr llyfrau o sawl rhan o Brydain i'r ffair
a oedd yn rhan o ddathliadau chwarter canrif sefydlu'r Casglwr
ac i gofio un o gasglwyr llyfrau hynotaf Cymru, Bob Owen Croesor a
fu farw ddeugain mlynedd yn 么l.
Yr oedd 28 o werthwyr yn bresennol, yn fusnesau ac yn gasglwyr preifat,
a phrisiau'r llyfrau yn amrywio o ychydig geiniogau i fil o bunnau.
Agorwyd y ffair gan y Dr Bruce Griffiths a ddisgrifiwyd gan drefnydd
y ffair, Mel Williams o Lanuwchllyn, golygydd Y Casglwr, fel
y pennaf o eiriadurwyr Cymru
.
Galw am gyfrol
Gwnaeth y Dr Griffiths dair ap锚l a'r bwysicaf yn sicr oedd yr un am
gyhoeddi mewn un gyfrol holl draethodau ac erthyglau yr anhygoel Bob
Owen a ddaeth i amlygrwydd pennaf yn ystod y pumdegau gyda chyfres
o gyfraniadau dadleuol a dadlennol yn Y Cymro am ffigurau amlwg
o hanes Cymru dan y pennawd, Dryllio'r Delwau
.
"Os oedd cyfraniad Bob Owen gymaint ag a ddywedir pam nad yw Dryllio'r
Delwau a chyfraniadau eraill ar gael yn un gyfrol," meddai'r Dr
Griffiths, prif olygydd Geiriadur yr Academi.
Rhwymo llyfrau
Yr oedd ap锚l bwysig arall a wnaed gan y Dr Griffiths yn adlewyrchiad
o'i ddiddordeb personol mewn rhwymo llyfrau - galwodd am i gorff fel
y Llyfrgell Genedlaethol drefnu cyrsiau rhwymo llyfrau ar gyfer amaturiaid
cyn i'r grefft fynd yn angof.
"Yr ydw i yn annog diddordeb mewn rhwymo llyfrau cyn iddi fynd yn
ben set," meddai'r gwr sydd ei hun yn rhwymwr llyfrau celfydd.
Apeliodd hefyd am gael gwyl debyg i'r un a fu yn Y Bala ddydd Sadwrn
yn ne Cymru.
Bob Owen Croesor - ei hanes:
Ganwyd
Bob Owen Croesor yn Llanfrothen, Meirionnydd, yn 1885.
Yyn ei ddydd yr oedd yn hynafiaethydd a chasglwr llyfrau hynotaf Cymru
ac yn llais huawdl ac awdurdodol a aeth ati i ddryllio delwedd rhai
ffigurau amlwg yn hanes Cymru.
Yn was fferm ac yn fugail wrth ei waith ni chafodd fawr o addysg ffurfiol
ond daeth yn arbenigwr cydnabyddedig a barchwyd gan ysgolheigion blaenllaw
ar bynciau fel achyddiaeth y Cymry a'r mudo cynnar o Gymru i'r Unol
Daleithiau.
Bu'n glerc chwarel yng Nghroesor a maes o law yn ddarlithydd gyda
Chymdeithas Addysg y Gweithwyr ac yn ddarlledwr radio difyr gydag
ap锚l arbennig i'w draddodi gwerinol a dirodres.
Yn ei gartref yng Nghroesor yr oedd ganddo gannoedd ar gannoedd o
lyfrau a llawysgrifau yr oedd wedi eu casglu dros y blynyddoedd.
Bu farw yn 1962 a chyhoeddwyd cofiant iddo yn 1977 gan Dyfed Evans,
gohebydd Y Cymro a ymwelai'n wythnosol ag ef ar gyfer cofnodi
Dryllio'r Delwau i'w cyhoeddi.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|