|
|
Prifardd
nad yw'n un o'r gang!
Aled Jones Williams
wedi ei ddychryn gan gylch cyfyng beirdd Cymru
Dydd Iau,Hydref 10, 2002
|
Gwrandewch ar Gwilym Owen
yn holi Aled Jones Williams
Cyfaddefodd bardd coronog Tyddewi ei fod yn teimlo ei fod yn "wrthodedig"
gan y sefydliad barddol Cymraeg.
Ond ychwanegodd y Parchedig Aled Jones Williams nad yw'n anhapus mai
felly y mae ac nad yw'n awyddus i fod yn aelod o "gang" beirdd Cymru.
Drama yn y gwter
Yn cael ei holi ar Raglen Gwilym Owen ar Radio Cymru ddydd
Llun diwethaf dywedodd y prifardd dadleuol nad oes amheuaeth fod yna
sefydliad barddol Cymraeg cyfyng ac nad oes amheuaeth ychwaith
nad yw o'n dderbyniol o fewn y sefydliad hwnnw.
"Does na ddim dowt fod yna sefydliad barddol," meddai wrth Gwilym
Owen.
"Mae na rywbeth am farddoniaeth yng Nghymru - hwyrach ei fod o'n cael
ei dra dyrchafu uwchben pob dim arall - y gerdd ydi'r peth, wedyn
mae rhyddiaith yn dod wedyn ond Duw a'ch helpo chi os rydych chi'n
sgwennu drama, mae hynny i lawr yn y gwter yn rhywle," meddai.
Wedi dychryn
Dywedodd i fodolaeth "y gang" a'i hymateb i'w fuddugoliaeth gyda'i
gerdd dra anghyffredin yn Nhyddewi ddod fel rhywfaint o syndod iddo.
"Doeddwn i ddim yn nabod y gang ond roedd na garfan a ddaeth drosodd
fel rhyw garfan reit ymosodol - reit macho - ac roeddwn i wedi
dychryn am fy hoedal - wyddwn i ddim mai fel'na roedd hi," meddai.
"Yr oedd yn dipyn o sioc fod yna garfan fechan - a dwi'n credu mai
bechan yw hi gan fod yna lot o bobl eraill wedi bod yn hael iawn ,"
meddai.
Cyhuddodd y garfan - o feirdd ifanc stomp a thalwrn - a fu mor feirniadol
o'i gerdd fuddugol o fod yn un "go gyfyng ei meddylfryd" gyda'r gred
mai dim ond hwy sy'n iawn.
"Ond mae na ffordd arall hefyd ond mae rhai yn meddwl fod yn rhaid
ichi fod o fewn y gwersyll yma . . . ac os nad ydych o'i fewn dydych
chi ddim cweit yn ffitio" meddai.
Heb fod yn ffitio
Mae'n ei ystyried ei hun fel un o'r rhai sydd ddim yn ffitio
gan dderbyn disgrifiad Gwilym Owen ohono fel bardd "gwrthodedig".
Ond ychwanegodd nad yw bod yn "wrthodedig" yn achos loes iddo:
"Unig blentyn ydw i Gwilym ac felly, fel unig blentyn, dwi wastad
wedi bod ar fy mhen fy hun.
"Tydw i ddim yn ffitio i sefydliad - dydw i ddim yn ffitio i'r Eglwys
yng Nghymru -. Dwi erioed wedi bod ar rhyw ffin ac felly y gwr gwrthnysig
yna. Yno y bydda i ylwch."
Tynnu blewyn o drwyn
Yn wir, awgrymodd ei bod yn well ganddo fod y tu allan i'r
gang "yn tynnu blewyn o drwyn" y sefydliad barddol yn hytrach nag
yn rhan ohono.
"O, dwi wrth fy modd tynnu blewyn o drwyn - a dydw i ddim yn meddwl
fy mod i'n rhyw chwantus i berthyn," meddai
"Dwi ddigon hapus i beidio a bod yn rhan o bethau felna a dweud y
gwir," meddai gan gyfeirio at stompiau a'u tebyg
Hawl i arbrofi
Amddiffynnodd ei hawl i arbrofi ac i arloesi gyda'r gerdd a anfonodd
i'r gystadleuaeth yn Nhyddewi:
" Mi wnaeth y beirniaid gymryd cam dewr iawn yn fy marn i, yn y ffaith
eu bod nhw am wthio'r ffiniau dipyn bach yn hwy.
"Ac felly y dylai hi fod achos os a fedrwch chi wneud hynny yn y Genedlaethol
Duw a wyr lle arall fedrwch chi'i wneud o."
Ond ychwanegodd na fyddai'r gerdd wedi cael ei hystyried mor arloesol
y tu allan i Gymru:
"Efallai'i bod hi'n newydd yng Nghymru ond dydio ddim mewn lleoedd
eraill (byddai) hon yn hen ffasiwn yn Ffrainc," meddai.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|