´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr  y llyfr
Ffotos a phytiau

Cyfrol sy'n eich denu i lannau'r Fenai

Dydd Iau,Hydref 17, 2002

Y Fenai
Gwyn Parri Huws
Gwasg Gomer


Adolygiad gan Dafydd Meirion
Mi rydw i’n sgwennu’r adolygiad yma ar fore braf o Fedi, ac i ddweud y gwir mi fysai’n llawer gwell gen i fod yn crwydro glannau’r Fenai.

Mae edrych ar y lluniau godidog yn y llyfr yma’n codi’r felan arna i.

Mae yma luniau o’r Fenai yn yr haf a’r gaeaf, ddydd a nos, ar ddiwrnod tawel ac yn nannedd y gwynt, ac ar lanw a thrai.

Cyfoeth bywyd

Maen nhw’n lliwgar, ac yn adlewyrchu cyfoeth bywyd bob ochr i’r culfor - yn ddyn ac fel arall.

Plas Rhianfa rhwng Porthaethwy a BiwmaresA chulfor nid afon ydy’r Fenai meddai’r awdur. Mi ddylai o wybod gan mai cyn gapten llong ydy o. Daw hynny’n amlwg wrth iddo egluro beth mae pob bwi ar y Fenai yn ei olygu.

Mae’n sôn am y teitiau (lluosog llanw, medda fo), mae’n sôn am yr adeiladau sy’n helpu morwyr wybod ble maen nhw a chadw i’r dwr dwfn i osgoi’r peryglon, ac mae’n sôn pam fod rhaid ‘newid cyfeiriad’ ar ganol y Fenai gan ei bod yn wahanol i bob ‘afon’ arall - mae dau ben iddi!

Mae’n cychwyn ei daith yn y gorllewin ger Caernarfon ac yn ei gorffen ger Ynys Seiriol yn y dwyrain, ac mae’n gwibio’n gyson o ochr Môn i’r tir mawr heb amharu dim ar rediad y llyfr.

Gwybodaeth ddifyr

Mae yma bytiau o wybodaeth ddifyr iawn yn cyd-fynd â’r lluniau.
Sut cafodd Pont Britannia ei henw?
Pam fod rhaid gwneud syms cyn dweud faint ydy hi’r gloch ar gloc haul Caer Belan?
A pham bod cwt powdwr chwareli Arfon ar lannau’r Fenai ger Caernarfon?

Mae yma wybodaeth am adar a physgod, daeareg a hanes, a’r diwydiannau fu ar un adeg yn cadw pobol glannau’r Fenai’n brysur.

Ceir yma enwau - yn ddieithriad yn Gymraeg - ar y gwahanol greigiau, ynysoedd a chilfachau ar ei glannau; enwau na cheir ar unrhyw fap yn aml. Ond daw hwn o fap Lewis Morris, 1748 - Sianel Gwyr Nefyn, sef y ffordd fyrraf o’r Fenai i Nefyn.

Hiwmor

Ac mae yma hiwmor yn britho’r llyfr.
Ar un tudalen, mae’n cyfeirio at barge ddygwyd o Afon Tafwys i fod yn gartref ar lannau’r Fenai ond sydd erbyn hyn yn adfail yn y mwd. Cynllun, yn amlwg, wnaeth ddim gweithio, meddai!

Hwylio'r FenaiOes yna rywbeth allai fod wedi gwella’r llyfr?
Lluniau eithaf confensiynol ydy’r rhain, ar wahân, o bosib, i’r llun o’r bilidowcars bob yn un ar resiad o bolion yn y dwr. Mae’n amlwg i’r ffotograffydd Terry Beggs dreulio misoedd os nad blynyddoedd yn dal y Fenai drwy’i lens.

Mi fyddech chi’n credu, efallai, y byddai wedi gallu dal rhyw ddelwedd fyddai allan o’r cyffredin. Quirky ydy’r gair Saesneg. Ond does yna’r un.

A thrueni na fyddai’r cyhoeddwyr wedi rhoi clawr caled ar lyfr mor fendigedig. Yr unig obaith rwan ydy y bydd Gwyn Pari Huws yn mynd ati i lunio llyfrau ar weddill arfordir Môn, ac y cawn ni gloriau caled am y rheiny.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ´óÏó´«Ã½ Cymru'r Byd






About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy