|
|
Dyn
ei filltir sgwâr
Ysgrifau Elis Gwyn a gyhoeddwyd ym mhapur bro Eifionydd, Y
Ffynnon, dros y blynyddoedd.
Dydd Iau, Hydref 24, 2002
|
Cyfaredd Eifionydd
Ysgrifau Elis Gwyn
Detholwyd gan Dyfed Evans
Gwasg Carreg Gwalch
拢4.50 neu 7.30 ewro
Adolygiad gan Dafydd Meirion
'Dyn ei filltir sgw芒r' oedd Elis Gwyn yn 么l John Dilwyn Williams yn
y broliant ar gefn y llyfr. Ond nid dyn cul ei feddwl oedd o.
Mae'n wir mai Eifionydd sydd agosaf at ei galon, ond nid yw hyn yn
ei rwystro rhag s么n yn ganmoliaethus am ardaloedd eraill fel Sir Benfro
a hyd yn oed rannau o Loegr.
Cafodd ei eni a'i fagu yn Llanystumdwy ac fel y dywed, ar wah芒n i'r
cyfnod yn Y Coleg Normal ym Mangor, ni fu'n byw yn unlle arall.
Cyfres o ysgrifau yw'r rhain a ymddangosodd ym mhapur bro Y Ffynnon
rhwng 1976 ac 1997.
脗 ei ysgrifau mor bell ag Efrog Newydd tra'n s么n am lyfr Jan Morris
Manhattan '45 a chyfeiria at lythyr dderbyniodd gan ferch o'r
ardal a ymfudodd i Seland Newydd.
Yr iaith yn agos at ei galon
Mae'r Gymraeg hefyd yn agos at ei galon ac mae'n s么n mor bell yn 么l
ag 1976 am y mewnlifiad o Loegr i'r ardal a'r effaith ar yr iaith.
Mae'n s么n am safon iaith plant Pwllheli ac ardal Caernarfon ac yn
digalonni.
Ond nid yw'n gwrthwynebu i bob Sais symud i'r ardal. Mae rhai'n gefnogol
i'r iaith a chanddyn nhw gyfraniad i'w wneud.
Mae'n s么n am Yr Athro Hugh Hunt ddaeth i fyw i'r ardal. Roedd Yr Athro
Hunt wedi treulio sawl blwyddyn yn Iwerddon.
Mae'n adrodd stori ddifyr iawn am Yr Athro yn siarad 芒 hen wraig yng
ngorllewin Iwerddon, a honno'n adrodd hanesion 芒i'n 么l i'r chweched
ganrif fel petaen nhw wedi digwydd ddoe. S么n am ryw dywysog Gwyddelig
yn trechu ei elynion ac yna'n dychwelyd ar y tr锚n i Ddulyn!
Stori arall ddifyr yw honno am Richard Hughes o Gefn Llanfair yn Ll媒n
a ddaeth yn equerry yn llys Elisabeth I gan fyw yn Llundain am sawl
blwyddyn. Er hynny, roedd 'yn cas谩u y Saeson o lwyrfryd calon'.
Dyn ei oes
Dyn ei oes hefyd yw Elis Gwyn. Does ganddo ddim amser i'r rhai sy'n
mynnu mai pwrpas addysg yw paratoi plant ar gyfer cael gwaith ac mae'n
gas ganddo ganu pop.
Mae'n mynnu mai camgymeriad oedd diddymu dysgu Lladin yn yr ysgolion
ac yn gwgu at y ffaith mai s么n am ryfeloedd pellennig y Rhufeiniaid
wn芒i'r darlithoedd ym Mangor yn hytrach na s么n am ddylanwad yr iaith
ar y Gymraeg.
Does ganddo fawr i'w ddweud wrth geir chwaith er i'w frawd, y dramodydd
Wil Sam, werthu a thrwsio sawl un.
Mae'n hallt iawn o'r bwriad i sefydlu ffatri fawr Ford ar dwyni Margam
ger Pen-y-bont ar Ogwr ond yn ymhyfrydu yn yr hen injans st锚m er bod
y rheiny - er llai ohonyn nhw - yn creu mwy o swn a llanast nac unrhyw
gar.
Ac yn rhyfeddol, gan mai artist oedd o, dydy o ddim yn hoffi lluniau
ar gloriau llyfrau!
Tybed beth fyddai o'n ei ddweud am y llun o Bysgotwyr Afon Dwyfor
o'i eiddo sydd ar glawr ei lyfr? Ond rwy'n siwr na fyddai'n cymeradwyo'r
defnydd o danlinellu rhai geiriau yn y gyfrol yn hytrach na defnyddio
teip italaidd.
Trafod enwogion ei gylch
Mae ganddo ysgrifau am rai enwogion ei gylch - R S Thomas, Jan Morris
a Clough Williams-Ellis. Mae'n s么n bod Clough, nid yn unig wedi cynllunio
adeiladau hardd Portmeirion, ond hefyd adeilad y copar茅t ym Mhwllheli!
Ond mae'n dychwelyd drosodd a throsodd at y Gymraeg. Mewn erthygl
a gyhoeddwyd ym 1987, mae'n rhoi'r ddadl nad ydy tai haf mor ddinistriol
芒 thai parhaol mewnfudwyr.
Mae ei gariad at yr iaith yn mynd yn 么l i'w lencyndod. Mae'n s么n am
ffigyrau amlwg cyfnod cynnar Plaid Cymru - Saunders Lewis, J R Jones,
Kate Roberts, ac yn s么n amdano'i hun yn cael ei ddal gan blisman yn
gosod arwyddion yn gwrthwynebu diwrnod agored ym Mhenyberth wedi i
wersyll y llu awyr agor yno.
Mae'r ysgrifau'n pontio dros ugain mlynedd a sawl pwnc. Yn naturiol,
gan mai erthyglau i'r papur bro oedden nhw, Eifionydd sy'n cael y
prif sylw. Ond mae yma rywbeth i bawb hyd yn oed i'r rhai na osododd
droed yn yr ardal.
Ond, ar y cyfan, teimlad o dristwch oedd gen i ar ddiwedd y llyfr.
Teimlo bod cyfnod wedi dod i ben, cyfnod na ddaw byth yn 么l. Cyfnod
pan oedd bywyd yn llawer caletach i rai ... ond cyfnod pan oedd bywyd
yn dipyn symlach.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau.
|
|
|