´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


clawr
Trysor - wyddor chi

Llyfr newydd hwyliog i helpu plant gael crap ar y llythrenne

Dydd Iau, Tachwedd 14, 2002

A-Bi-Clec gan Haf Llewelyn. Gwasg Carreg Gwalch.
Pedair seren
gan Lowri Rees

O’r diwedd llyfr lliwgar llawn dychymyg am yr wyddor Gymraeg a chyfle i rieni ac athrawon i gyflwyno llythrennedd i blant heddiw mewn ffordd hwyliog.

Mae’r llyfr newydd A-Bi-Clec yn gyfle i blant ifanc gael blas ar yr wyddor Gymraeg drwy gyfrwng straeon a rhigymau.

Hwyliog

Yn ôl yr awdur, Haf Llewelyn o Lanuwchllyn ger Y Bala, mae'n addas iawn i ddysgu llythrennedd yn yr Ysgol Gynradd ac yn gyfle i wneud hynny mewn ffordd hwyliog gan ymestyn y dychymyg.

Yn athrawes ac yn fam i bedwar o blant mae Haf wedi gwirioni ar lyfrau ac yn mwynhau gweld plant yn cael blas ar ddarllen.

"Gan fy mod i’n athrawes ac yn fam mi fydda i bob amser yn gwirioni pan fydd yna lyfrau plant newydd yn dod i’r golwg, yn enwedig ar gyfer plant sydd newydd ddechrau cael blas ar ddarllen, pethau ychydig yn fwy cymhleth, a llyfrau gyda digon o wiriondeb a hiwmor ynddyn nhw."

Nofel hefyd

I’r rheini sydd wedi darllen nofel a ysgrifennodd Haf ychydig flynyddoedd yn ôl ar gyfer Cyfres y Corryn, mae’n amlwg ei bod yn mwynhau gwneud i blant chwerthin.

"Mi wnes i ysgrifennu nofelig fechan i gyfres Corryn , o’r enw ‘O! Mae Mam yn Flin’, flynyddoedd yn ôl. Ond yn fwy diweddar mi wnes i ysgrifennu pedair stori am freuddwydiwr bach o’r enw Idwal, a’i ddafad lyweth Rosmari, ac mae’r rheiny wedi eu cynnwys yn y llyfr Syniad Da Iawn, gol. Myrddin ap Dafydd.

"Mae dwy stori arall am yr un cymeriad i’w cynnwys mewn casgliad arall o’r enw Syniad Da Iawn 2, gan wasg Carreg Gwalch, cyn y Nadolig," ychwanegodd.

Hwiangerddi a straeon

Mae’r llyfr A-Bi-Clec yn gyfle i blant ddysgu drwy fwynhau a hynny gan bori drwy’r hwiangerddi a’r straeon traddodiadol. Mae’r llyfr mewn lliw llawn gyda CD o’r testun i gyd-fynd gyda’r llyfr,ynghyd â phecyn gweithgareddau a fydd yn gymorth i blant sydd yn y cyfnod hwnnw rhwng mwynhau stori a dechrau darllen.

Yn amlwg mae’n bwysig bod llythrennedd yn cael ei gyflwyno i blant mewn ffordd hwyliog, ac yn sicr dyma’r llyfr ar gyfer athrawon sydd yn ceisio denu plant i gael diddordeb yn yr wyddor yn ogystal â bod yn llyfr defnyddiol ar gyfer y rhieni.

"Roedd ACAC a’i fryd ar gyhoeddi llyfr yn cyflwyno llythrennau’r wyddor i blant, ynghyd â llyfryn gweithgareddau.

"Fel athrawes roeddwn i bob amser yn gresynu na fyddai yna fwy o adnoddau ar gyfer dysgu llythrennedd yn yr Ysgol Gynradd, felly dyna gyfle i fynd ati i lunio un i gyd fynd gyda’r llyfr stori A-bi-clec!

"Bydd y llyfr gweithgareddau allan yn fuan ym mis Tachwedd. Mae’n llawn o ymarferiadau difyr a defnyddiol ar gyfer dysgu llythrennedd e.e. chwilio am ansoddeiriau, dysgu treigliadau, canfod odlau ynghyd â nifer o bethau eraill, a hynny mewn ffordd hwyliog, gan obeithio y bydd athrawon blynyddoedd 2 a 3 yn cael defnydd ohono," meddai Haf.

Wrth ei bodd yn sgrifennu

"Rydw i wrth fy modd yn ysgrifennu pob mathau o bethau, ac yn arbennig straeon ar gyfer plant, yn enwedig ysgrifennu am blant sy’n dipyn bach o gesus!!!

"Rydw i hefyd yn mwynhau barddoni. Ond mi fyddwn i wrth fy modd erbyn hyn yn cael cyfle i ysgrifennu nofel, mae gen i ddigon o syniadau, ond amser sy’n brin!"

Disgrifiodd Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch y llyfr fel trysor.

"Un o'r pethau amhosib eu cyfieithu o un iaith i'r llall ydi llyfrau ar yr wyddor. Dyna'r rheswm cyntaf pam fod y bwndel yma yn gymaint o drysor i siaradwyr ifanc, Cymraeg.

"Mae'r lluniau lliw yn ardderchog, mae perfformiad Catherine Aran ar y CD yn hudolus, mae'r gweithgareddau yn y llyfr atodol yn mynd i sicrhau oriau o brysurdeb - ond y wefr bennaf ydi fod Haf Llewelyn wedi cyfuno llawer o hwyl gyfarwydd yr Wyddor Gymraeg, gyda'i chyfeiriadau at Fonheddwr Mawr y Bala a Modryb Elin Enog ac ati, gyda straeon a rhigymau gwreiddiol sy'n gafael yn nychymyg plant yn syth. Mi wyddwn i y byddai'r llyfr yn glasur cyn iddo weld golau dydd hyd yn oed!'

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ´óÏó´«Ã½ Cymru'r Byd






About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy