|
|
Ych
a fi!
Chwilio a chwalu ymhlith chwedlau gwerin
Dydd Iau, Tachwedd 21, 2002
|
Diwylliant Gwerin Morgannwg gan Allan James. Gwasg Gomer.
拢12.95.
Byddai'r hen Wladfawr o Batagonia, Fred Green, yn disgrifio'r ceffyl
fel anifail twp iawn o'i gymharu ag ych fel anifail gwaith ar fferm.
Yr oedd ganddo, meddai, barch aruthrol tuag at ychain fel anifeiliaid
gweithgar a chall.
Yn hynny o beth yr oedd mewn cytundeb llwyr 芒 hen amaethwyr Morgannwg
ac fe welir sawl enghraifft o'u parch hwy tuag at yr anifail hwn yng
nghyfrol Allan James, Diwylliant Gwerin Morgannwg.
Statws arbennig
Yn y bennod Byd yr Ych daw yn amlwg fod i'r ych "statws symbolaidd
arbennig" o fewn y gymuned amaethyddol gyda "parch anghyffredin" tuag
ato.
"Roedd yn weithiwr ffyddlon ac yn anifail a gynysgaeddwyd, ym marn
y gwladwr, 芒 rhyw allu greddfol tra arbennig," meddir - ac mae'n ddiddorol
sylwi mai yr un yn union oedd profiad Fred Green yntau yr holl filoedd
o filltiroedd dros yr Iwerydd ym Mhatagonia.
Disgrifir yn llyfr Allan James sut y byddai'r amaethwr yn "cyfathrebu'n
gyson 芒'r ych ac yn ei drin fel un a ddylai rannu cyfrinachau'r teulu."
Byddai peth o'r cyfathrebu hwn ar g芒n ac yr oedd yn rhinwedd o bwys
mewn gyrrwr ychain fod ganddo lais a chof da ar gyfer canu a chofio'r
amryfal dribannau wrth ei waith.
Cyfansoddi tribannau
Byddai'n was mwy gwerthfawr fyth, wrth gwrs, pe gallai hefyd gyfansoddi
tribannau newydd o safon - achos nid gwiw canu unrhyw hen rigwm yng
nghlyw anifeiliaid cyn bwysiced ag ychain.
Dyfynnir nifer helaeth o'r tribannau yn y gyfrol:
Mae s么n drwy'r fro a'r Blaena,
Am ychain mawr y Sela,
Y nhw o Fargam i Golhuw
O lawer yw y gora.
Yw un ymffrost ac mae arall yn dweud:
Mae geni bedwar bwlyn
Yn pori brig yr eithin;
Hwy doran gwys o'r mwya gwych
Hwy gerdda'n rhych i'r blewyn.
Ac eto
Mae gen i bedwar bwlin
Sy'n byw ar ddail yr erfin
Fe redant ton mor syth or bron
Ru'n trwch a gwrych y mochyn.
Ffordd o fyw
Yn ogystal 芒 bod yn ddifyr ynddynt eu hunain y mae'r tribannau hyn
erbyn heddiw yn gyfrwng gwych i gyfleu inni natur ffordd o fyw sydd
wedi hen ddiflannu.
"Afraid dweud fod y tribannau hyn yn cynnig cyfres o ddarluniau difyr
a dadlennol sy'n cyflwyno'r darllenydd i gyfnod a chymdeithas hollol
ddieithr ac i ddull o fyw ac athroniaeth gymunedol a heriwyd yn y
pen draw gan ddatblygiadau'r oes ddiwydiannol."
A'r hyn sy'n fendigedig wrth gwrs yw eu bod yn ddarluniau o holl amryfal
agweddau y bywyd gwledig y cyfnod cyn-ddiwydiannol.
Mae'r triban hwn, er enghraifft, yn ein goleuo beth oedd yn dderbyniol
fel pryd da:
Cawl sydd yn frasder drwyddo
A ser yn nofio arno,
A'i flas yn tynnu dyn yml'an
A'r calla'n ei fendithio.
Weithiau gall gormod o'r hyn sy'n dda fod yn syrffed;
Mi gefais gawl i ginio
Caf gawl i swper heno;
Fe gaiff y feistres fyn'd i'r diawl
Cyn yfai chawl hi eto.
Canmol y casglwyr
Yn y pen draw, emyn o glod i'r casglwyr hynny a ddiogelodd y gweithiau
hyn a channoedd o rai eraill tebyg iddyn nhw mewn sawl agwedd o fywyd
yw y gyfrol hon gyda diddordeb Allan James gymaint yn y dull o gasglu
ag yn yr hyn a gasglwyd.
Gellid cyhuddo rhywun o fod braidd yn slic wrth ddweud mai cyfrol
sy'n gyforiog o bethau difyr yw hon ond nid cyfrol arbennig o ddifyr
ynddi ei hun.
Ond rhaid ychwanegu mai o safbwynt y darllenydd cyffredin y mae rhywun
yn dweud hynny a chan mai fel cyfrol ysgolheigaidd y'i bwriadwyd rwy'n
syrthio ar fy mai nad yw'n feirniadaeth gwbl deg - ond yr wyf yn flin
na allaf ei mwynhau i'r graddau y teimlaf y dylwn.
Ond y mae modd i'r darllenydd llai ysgolheigaidd ei hyfforddiant fynd
i ryw raddau y ffordd arall heibio i'r drafodaeth ysgolheigaidd a
mwynhau y pethau eraill.
Mae'r awdur, sy'n brif ddarlithydd y y Gymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg,
yn gosod ei fater gerbron reit ar gychwyn y gyfrol trwy ddweud:
"Nod y gyfrol hon yw ail-greu darlun o gymdeithas werinol ei natur
drwy gyfrwng cyfres o ddogfennau perthnasol a luniwyd neu a ddetholwyd
gan groniclwyr sy'n perthyn i wahanol gyfnodau ac i amrywiaeth o gymunedau.
"Mae'r darlun cymdeithasol hwnnw, ar y naill law yn dangos gwerinwr
wrth ei waith ac, ar y llaw arall, yn cynnal ac yn gwarchod hen draddodiadau
ei gynefin."
Er mai ar Fro Morgannwg y canolbwyntir nid oes amheuaeth fod yma adlewyrchiad
o gymunedau Cymreig eraill.
Amrywiaeth o bynciau
Y mae teitlau y gwahanol benodau yn cyfleu natur y gyfrol a diddordeb
ei hawdur yn y broses o gasglu a diogelu; Y Traddodiad Llafar, Casglwyr,
Casglu a Chofnodi.
Fel y byddai rhywun yn disgwyl, mae penodau cyfain ar Y Fari Lwyd,
Arferion y Nadolig a'r Calan, hela'r dryw ac hefyd bennod hynod ddiddorol
ar arferion elusennol.
Y mae pennod i ffoli arni am yr iaith hyfryd honno y Wenhwyseg
gyda geirfa gynhwysfawr eithriadol o ddiddorol.
Gyda'r holl elfennau diddorol hyn trueni na ddewisodd yr awdur boblogeiddio
ei drafodaeth gyda thrafodaeth llai ysgolheigaidd.
Byddwn wedi croesawu hefyd ymdrech ganddo i gyfieithu dyfyniadau Saesneg
i'r Gymraeg.
Ond wedi dweud hynny yr ydym yn cael am ddim ond 拢12.95 lyfr safonol,
awdurdodol, o dros 300 tudalen gyda nifer helaeth o luniau difyr.
Tipyn o fargen.
Glyn Evans
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|