|
|
Byd
planedol
Planed Plant - i fygwth y Dandy a'r Beano
Dydd Iau, Rhagfyr 5, 2002
|
Am y tro cyntaf erioed mae S4C wedi cyhoeddi blwyddlyfr y gyfres deledu
Planed Plant - gan ddweud mai’r gobaith yw y bydd yn tyfu’n
gymaint o ffefryn â hen glasuron Saesneg fel aniwals y Beano,
Dandy, Jackie, Blue Peter a Bunty.
Mae’n nod uchelgeisiol i geisio ymgyrraedd ati.
"Mae Blwyddlyfr Planed Plant 2003, a gyhoeddir gan Hughes a’i Fab,
cwmni cyhoeddi S4C, yn golygu y gall gwylwyr Planed Plant dreulio
oriau di-ben-draw yn mwynhau’r holl adloniant a gynigir rhwng cloriau’r
llyfr 64 tudalen clawr caled hwn," meddai’r Sianel mewn datganiad
wrth gyhoeddi’r llyfr.
Cyntaf mewn degawd
Ac meddai Luned Whelan, Rheolwr Cyhoeddiadau Hughes a’i Fab:
"Dyma’r Blwyddlyfr cyntaf i’w gyhoeddi yn y Gymraeg ar gyfer plant
ers ymhell dros ddegawd a’r cyntaf erioed i S4C ei gyhoeddi.
"Roedd yn lot fawr o hwyl i’w gynhyrchu ac rwy’n ddiolchgar iawn i
bawb sydd wedi cydweithio gyda mi arno.
"Mae’r ymateb iddo wedi bod yn wych a gobeithio y bydd Blwyddlyfr
Planed Plant yn datblygu’n gyhoeddiad blynyddol o hyn ymlaen."
Ffrwydrad o liw
Disgrifir y llyfr fel "ffrwydrad o liw" sy'n cynnwys cyfweliadau gyda
rhai o gyflwynwyr - "poblogaidd" wrth gwrs - Planed Plant,
gwybodaeth am gyfresi, cyngor ar sut i fwynhau gweithgareddau awyr
agored gan gyflwynwyr Mas Draw, stribedi cartwnau, a gemau.
Ymffrostir fod y ddau frawd o Gaerdydd, Matthew a Daniel Glyn "sy’n
gyfranwyr cyson i raglenni plant S4C", ymhlith y rhai sy'n cyfrannu
i'r llyfr.
Daniel yw awdur y gyfres – "hynod boblogaidd" wrth gwrs - Hotel
Eddie ac mae Mathew, yntau, yn actio ac yn ysgrifennu sgetsus
ar gyfer Y Rhaglen Wirion ‘Na.
"Ac mae eu hiwmor dihafal nhw i’w ganfod blith-draphlith rhwng y tudalennau,"
meddai’r cyhoeddwr.
Ac meddai Matthew Glyn:
"Dw i’n meddwl ei fod yn wych fod Blwyddlyfr o’r safon yma ar gael
yn y Gymraeg, yn enwedig gan fod cymaint ar gael yn y Saesneg a dw
i’n meddwl y bydd yn gwneud i’r plant deimlo’n falch iawn eu bod yn
siarad Cymraeg.
"Er bod yna nifer o lyfrau ar gael i blant yn y Gymraeg, mae yna brinder
llyfrau fel hyn sy’n cynnig amrywiaeth o ddeunydd rhwng dau glawr.
Dw i’n meddwl ei fod yn hollol ffantastig a dylai pob plentyn holi
Siôn Corn am gopi!"
Pris y Blwyddlyfr ydi £5.99
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig
a'r Calan
|
|
|