|
|
Trafod
Trons
Ditectif brith ar drywydd cyfrinach trons budur
Dydd Iau, Rhagfyr 5, 2002
|
Ydy Trons yn pants?
Trons gan Dafydd Meirion.
Adolygiad: Alun Lenny
Nawr dyma lyfr lliwgar. Hiwmor du mewn iaith goch yn son am aelod
o'r glas yn canfod llofrudd drwy ddadansoddi stwff brown (wel beth
'y chi'n ddisgwyl mewn llyfr hiwmor ty bach ?).
Stori Agatha Christie
Mae'r senario'n debyg i'r hyn geir gan Agatha Christie.
Ledi Margaret Gwynne yn cael ei chanfod yn farw. Fe allai'r llofrudd
fod yn un o hanner dwsin o bobol - ond dyna lle ma'r tebygrwydd 'da'r
hen Agatha'n gorffen.
Arwr (gan ddefnyddio'r gair yn yr ystyr ehangaf bosib) y nofel (ditto)
yw Sarjant Dic Huws o Arfon CID - cymeriad sydd wedi camu'n syth o'r
hen gyfres deledu Glas y Dorlan dybiwn i.
Plisman o'r 'hen deip' yw Huws - neu Dic Bonc i'w ffrindiau. Sef un
sy ddim yn cydnabod awdurod ac yn treulio mwy o'i amser mewn tafarn
na gorsaf heddlu.
Yr unig gliw
Yno, mae'n cadw cwmni i Llew'r Hack, gohebydd o'r un anian. Gyda chymorth
Hanna Banana (peidiwch gofyn) mae'r tri'n mynd ati i geisio canfod
pwy laddodd Lady Margaret.
Yr unig gliw yw p芒r o drons oedd wedi'i wthio i geg y corff.
"Trons, myn uffar i...ac un posh hefyd. Un sidan...' edrychodd
Huws i mewn iddo ' ond dydy o ddim yn un gl芒n....ma na sgidmarc arno
fo".
Y sgidmarc hwnnw fydd yn darparu'r dystiolaeth DNA allweddol i ganfod
y llofrudd.
Ond wrth gwrs, bydd yn rhaid i Ddic a'i ffrindiau gasglu deunydd cyffelyb
gan y bobl mae nhw'n eu hamau - a hynny heb iddyn nhw wybod.
Hiwmor ty bach yn llythrennol.
Nid dros frecwast
Dyw Trons ddim yn llyfr i'w ddarllen dros frecwast !
R'oedd llyfr cyntaf Dafydd Mei - Pi Ar - yn wreiddiol ac yn
ddigri ond ofnaf nad yw'r fformiwla wedi gweithio cystal yn Trons
er bod yna ambell i gic fach gomic ynddo : "Trons jentlman ydy
hwn. Un silc. Does 'na ddim rhai fel'ma i'w cael yn Sir F么n."
Sy'n atgoffa rhywun o'r slyr enwoca erioed at bobol yr ynys gan Daniel
Owen - "Mab llwyn a pherth oedd Enoc Huws, ond nid yn Sir F么n y
ganwyd ef."
Yn anffodus, prin yw'r dychan yn Trons ac yr 鈥榦dd rhywun yn
disgwyl mwy gan gymeriadau fel Derfel Dafydd, y cyflwynydd teledu
a Deiniol Jones, yr aelod Cynulliad.
Collwyd cyfle.
Mae'r llyfr yn fyr iawn - dim ond 123 tudalen ond, ar y llaw arall,
mae gormod o bwdin yn tagu ci.
Chwilio am anrheg
Mae'n llyfr hawdd i'w ddarllen. Y brawddegau'n fyr, a geiriau'r cymeriadau'n
plethu'n rhwydd gyda geiriau'r awdur ac ar 么l chwarter canrif o Radio
Cymru ni ddylai鈥檙 un Cymro na Chymraes gael gormod o drafferth gyda鈥檙
dafodiaith.
Bwysicaf oll, fe allai Trons - o ran testun, iaith ac arddull
- apelio at bobol ifanc na fyddai byth yn darllen Cymraeg.
Os ydych chi'n chwilio am anrheg rhad i'ch nai pymtheg oed, fe allai
prynu hwn iddo ddatrys problem a rhoi tipyn o street cred i chi'r
un pryd.
Os 'y chi'n bymtheg oed - prynwch e eich hun. tair seren
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig
a'r Calan
|
|
|