´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


clawr
Beirdd a'u cerddi

Cyfrol sy'n tafoli beirdd - a chyfle i'w clywed ar CD hefyd

Dydd Iau, Rhagfyr 5, 2002

Mae’n Gêm o Ddau Fileniwm - Cyflwyno beirdd a barddoniaeth. Gol. Iwan Llwyd a Myrddin ap Dafydd. (Gwasg Carreg Gwalch, £12.00)
Pedair seren
Adolygiad: Eiry Miles

Trwy gyfrwng sioeau hwyliog megis ‘Cicio Ciwcymbers’ a ‘Thaith y Saith Sant’, mae Iwan Llwyd a Myrddin ap Dafydd wedi ymdrechu’n ddiflino ers blynyddoedd i’n hargyhoeddi nad peth sych i ddeallusion yw barddoniaeth.

Gellid gweld y gyfrol hon fel estyniad o’u gwaith cenhadol.

Cyflwynir ynddi amrywiaeth eang o farddoniaeth, o ganu gwerinol, hiraethus Twm Morys i ddelweddau cignoeth a modern Bryan Martin Davies – rhywbeth at ddant pawb.

Beirdd newydd

Y mae’r gyfrol hefyd yn rhoi sylw haeddiannol i feirdd ‘newydd’ megis Elinor Wyn Reynolds a Grahame Davies. Prin yw’r astudiaethau arnynt, er eu bod wedi cyfrannu’n fawr at fwrlwm y sîn farddonol Gymraeg yn ddiweddar.

Felly, bydd y gyfrol hon yn eu cyflwyno i gynulleidfa ehangach, ac yn gymorth i bobl werthfawrogi eu gwaith.

Er mwyn cael gwir ddealltwriaeth o waith y beirdd, cyflwynir hwy mewn parau.

Mae deg bardd cyfoes yn cyflwyno’u cerddi, ac yn trafod bardd arbennig a gafodd ddylanwad arnynt. Cawn hefyd ddadansoddiad gan y golygyddion o’u gwaith, ynghyd â geirfa, dyfyniadau a phwyntiau i’w hystyried, a chlywn y beirdd yn darllen eu cerddi eu hunain mewn CD a amgëir yn y llyfr.

Clywed clec a rhythm

Hyfryd yw clywed clec y gynghanedd a rhythm hypnotig cerddi megis ‘Far Rockaway’ Iwan Llwyd, ac mae’r cerddi vers libre yn gweithio lawn cystal a’r cerddi caeth o gael eu perfformio.

Mae’r hiwmor sych yn llais Grahame Davies a sioncrwydd afieithus Elinor Wyn Reynolds yn sicr ychwanegu at ein mwynhâd o’r cerddi.

Wrth gwrs, nid yw’r CD yn cyfleu’r wefr o glywed bardd yn perfformio’n fyw, ac ni all CD gyfleu’r stumiau a’r egni corfforol aruthrol a ddefnyddia Ifor ap Glyn yn ei berfformiadau. Ond mae’n atodiad gwych i’r gyfrol, a rhyfedd nad yw’n beth llawer mwy cyffredin.

Traddodiad llafar oedd y traddodiad barddol Cymraeg am ganrifoedd, wedi’r cyfan, ac er mor wahanol yw’r beirdd i’w gilydd, dengys y CD eu bod oll wedi ffoli ar swn yr iaith Gymraeg.

Esgeulus weithiau

Hoffais ddull y golygyddion o drin a thrafod y cerddi, er iddynt fod braidd yn esgeulus ar brydiau.

Ail-adroddus yw’r drafodaeth ar ‘Y Trip’ gan T.H. Parry-Williams, er enghraifft, a gellid cymoni llawer o wallau teipio. Serch hynny, mae eu dadansoddiadau yn dreiddgar, heb fod yn rhy ysgolheigaidd, a’u mynegiant sgwrsiol, agos-atoch yn fy atgoffa o ryddiaith Gwyn Thomas.

Go brin y byddai’n beirniaid llên mwyaf traddodiadol yn defnyddio geiriau megis ‘zoom-io’ wrth drafod cerddi, ond llwydda’r ddau olygydd i ddod a’r cerddi yn fyw, a’u hesbonio’n glir ac yn drylwyr heb fod yn nawddoglyd.

Hawdd ei ddeall

Bydd y llyfr felly yn ddealladwy i bobl nad ydynt wedi darllen llawer o farddoniaeth Gymraeg, ac yn anhepgor i athrawon a darlithwyr.

Bydd y gwaith o baratoi gwersi yn sicr yn rhwyddach o droi at y llyfr hwn, a’r dyfyniadau yn fanna o’r nefoedd i fyfyrwyr diog sydd am lenwi tipyn ar eu traethodau!

Dysgwn gryn dipyn am ddigwyddiadau’r ugeinfed ganrif o ddarllen y gyfrol.

Yng ngeiriau’r golygyddion, "Anodd yw cyfeirio at yr un bardd Cymraeg yn ystod y ganrif heb gyfeirio at ddigwyddiadau a thueddiadau gwleidyddol cyfnod ei ganu".

Felly, clywn am gysgod y ddau ryfel byd ar y beirdd cynharaf a drafodir, dylanwad y mudiad iaith ar y don nesaf o feirdd, ac ymateb Myrddin ap Dafydd i ddigwyddiadau Medi’r unfed ar ddeg 2001.

Rhyfeddod y goroesi

Rhyfeddwn wrth feddwl sut y bu i farddoniaeth Gymraeg oroesi ac esblygu trwy gyfnodau mor gythryblus yn y mileniwm diwethaf.

Cloir y gyfrol gyda gwaith Meirion MacIntyre Huws a Gerallt Lloyd Owen – beirdd sydd yn pontio’r gorffennol a’r presennol, trwy ganu am ddigwyddiadau cyfoes o fewn ffiniau’r canu caeth hynafol.

Diweddglo priodol iawn i’r gyfrol ddifyr hon. Fe’n hargyhoeddir yn llwyr fod barddoniaeth Gymraeg yn berthnasol i’r oes fodern, ac y bydd yn parhau i’n gwefreiddio yn yr ail fileniwm hefyd.


Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig a'r Calan








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ´óÏó´«Ã½ Cymru'r Byd






About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy