|
|
Dod
a'r Llyfr Du i'r golau
Llyfr hynaf Cymru ar y We
Dydd Iau, Rhagfyr 26, 2002
|
Cysylltir Abertawe鈥檔Un o ddigwyddiadau mwyaf diddorol y flwyddyn hon
oedd gosod Llyfr Du caerfyrddin ar y we gan y llyfrgell genedlaethol.
Go brin fod angen ysgolhaig i ddweud wrthyf i'r llyfr hanesyddol hwn
gael ei enwi oherwydd lliw ei rwymiad - ond rhaid troi at yr arbenigwyr
a gwefan y Llyfrgell am fwy o'i hanes.
Eu barn hwy yw fod iddo gysylltiad 芒 Phriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog,
Caerfyrddin ac yn waith un cop茂ydd a luniodd y gyfrol ar wahanol gyfnodau
yn ei fywyd.
Un o'r rhai cynharaf
Yr oedd hyn o gwmpas y flwyddyn 1250 sy'n golygu fod y Llyfr Du yn
un o'r llawysgrifau Cymraeg cynharaf sydd ar gael.
Daeth y llawysgrif i feddiant Syr John Price, Aberhonddu yn yr unfed
ganrif ar bymtheg.
Yr oedd o'n ddyn gyda diddordebau llenyddol a hynafiaethol a benodwyd
yn brif gofrestrydd y goron mewn materion eglwysig, ac yn rhinwedd
y swydd honno fe aeth ati i archwilio'r mynachlogydd a ddiddymwyd
gan Harri'r VIII.
Daeth o hyd i'r Llyfr Du, yn 么l yr hanes, ym meddiant trysorydd Eglwys
Gadeiriol Tyddewi, a dywedid ar y pryd fod y llawysgrif wedi dod o
Briordy Caerfyrddin.
Ychydig a wyr yr arbenigwyr hyd yn oed am hanes y gyfrol ar 么l iddi
gael ei hachub gan Syr John hyd yr ail ganrif ar bymtheg pan ddaeth
i feddiant hynafiaethydd o'r enw Robert Vaughan a fu farw yn 1666).
Llyfrgell helaeth
Mi gasglodd o lyfrgell helaeth o lyfrau a llawysgrifau o'r pwysigrwydd
mwyaf yn Gymraeg ac ieithoedd eraill, yn ei gartref, Hengwrt, ger
Dolgellau, Meirionnydd.
"Fodd bynnag, ar gyfnod cynharach, ymddengys i'r llawysgrif fod ym
meddiant ysgolhaig a chasglwr llyfrau arall, sef Jasper Gryffyth (bu
farw 1614), warden Ysbyty Rhuthun, a ysgrifennodd ei enw mewn llythrennau
Hebraeg yn y Llyfr Du yn ogystal 芒 llunio nodyn ar y cynnwys," meddaai
gwefan y Llyfrgell genedlaethol.
Ysgrifennodd William Salesbury (c. 1520-1584?), cyfieithydd
y Testament Newydd i'r Gymraeg, nodyn ar waelod un o'r tudalennau
hefyd.
Yn 么l Robert Vaughan bu'r bardd Si么n Tudur a fu farw yn 1602 yn berchen
ar y llawysgrif ar un adeg.
Mynd i Beniarth
Pan fu farw gor-gor-gor-gor-wyr Robert Vaughan, Syr Robert Williames
Vaughan, yn 1859, pasiodd llyfrau a llawysgrifau Hengwrt trwy gymynrodd
i'w gyfaill William Watkin Edward Wynne (1801-80) o Beniarth ger Tywyn,
Meirionnydd.
Tra yr oeddent ym Mheniarth, fe gatalogwyd y llawysgrifau Cymraeg
gan J. Gwenogvryn Evans ar gyfer ei Report on Manuscripts in the
Welsh Language, a gyhoeddwyd yn 1899.
Rhoddodd Gwenogvryn Evans amlygrwydd i'r Llyfr Du drwy ei glustnodi
yn llawysgrif Peniarth 1.
Mae Llyfr Du Caerfyrddin ynghyd 芒 gweddill casgliad llawysgrifau Peniarth
bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Pum mil a hanner
Talodd Syr John Williams, barwnig (1840-1926) a meddyg i Dduges Caerefrog
拢5,500 am y casgliad, gyda Llyfr Du Caerfyrddin wedi ei brisio am
拢400 er mwyn ei gael i'r Llyfrgell.
Lluniwyd y llawysgrif o wyth cydiad o femrwn cryf wedi eu gwn茂o ynghyd
i ffurfio cyfrol o 108 tudalen.
Ond dydi'r gyfrol ddim yn gyfan.
Newid ei sgrifen
"Yr hyn sy'n taro llygad darllennydd fwyaf yw diffyg cysondeb y llaw
a'i hysgrifennodd, yn y ffordd y tynnwyd y llinellau ar bob tudalen
cyn ysgrifennu ac yn y llawysgrifen ei hunan lle ceir anghysondebau
na cheir fel arfer mewn llawysgrifau a luniwyd gan gop茂wyr proffesiynol
o'r cyfnod hwn," meddir ar wefan y Llyfrgell.
"Mae hyn i gyd yn ategu'r farn fod y cop茂ydd yn gweithio ar wahanol
gyfnodau yn ei fywyd. Hwyrach y bwriadai lunio mwy nag un gyfrol,
ond yn lle hynny daethpwyd 芒'r cydiadau memrwn gwahanol at ei gilydd
ar ryw adeg a'u rhwymo ynghyd ar ffurf y gyfrol a adwaenwn ni yn Llyfr
Du Caerfyrddin."
Ar
wah芒n i drioedd sy'n cyfeirio at geffylau chwedlonol yr arwyr Cymreig
barddoniaeth ydi'r cynnwys.
" Ceir cerddi gyda phynciau crefyddol fel yr 'Ymddiddan rhwng y Corff
a'r Enaid', ac awdlau moliant a marwnad fel 'Marwnad Madog ap Maredudd'
(bu farw 1160), sy'n ddienw yn y Llyfr Du ond, yn 么l llawysgrif arall,
a luniwyd gan y bardd llys, Cynddelw Brydydd Mawr (bl. 1155-1200).
"Ond hwyrach mai'r cerddi mwyaf trawiadol yw'r rheiny sy'n cynnwys
stor茂au yn ymwneud o ran thema ag arwyr Prydain yn yr Oesoedd Tywyll,
ac yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig 芒 chwedl Myrddin," meddir
Siarad gyda choeden
Mewn dwy gerdd mae dyn dienw sy'n byw ar ei ben ei hun yn y goedwig
yn cyfarch coeden afalau a mochyn gan broffwydo llwyddiant neu fethiant
y Cymry yn y brwydrau sydd i ddod yn erbyn y Normaniaid yn Ne Cymru.
"Mae'n amlwg bod y llinellau sy'n cynnwys y proffwydoliaethau hyn
wedi eu cyfansoddi ar 么l y digwyddiadau y maent yn honni eu rhagweld,"
meddir!
Ymhlith y cerddi chwedlonol yn y Llyfr Du y mae cerdd am borthor o'r
enw Glewlwyd Gafaelfawr yn gwrthwynebu'r Brenin Arthur a'i gydymaith
Cai gydag Arthur yn cael ei ddarlunio "yn fwy o arwr chwedlonol nag
o ymerawdwr brenhinol mawr yn null Sieffre o Fynwy."
Y Llyfr Du ar Wefan
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig
a'r Calan
|
|
|