|
|
Llyfr
doniol - yn codi'r felan
Druan o ffermwyr - druan o ddarllenwyr
Dydd Iau, Rhagfyr 26, 2002
|
‘Sna’m llonydd i’ ga’l! (2 gan Margiad Roberts
Gwasg Carreg Gwalch £4.50
Adolygiad gan Dafydd Meirion
Does dim cof gen i imi agor llyfr doniol o’r blaen ac imi deimlo’n
drist wrth ei ddarllen. Ond dyna wnaeth ‘Sna’m llonydd i’ ga’l.
Yn wir, mi gododd o’r felan arna i.
Os ydych chi â’ch bryd ar fynd i fynd yn ffarmwr, peidiwch â’i ddarllen
o, neu ewch chi byth!
A dwn i ddim a ddylwn ei argymell i rywun sy’n ffermio'n barod; byddai
o neu hi’n teimlo’n well wedi ei ddarllen o allu cydymdeimlo efo Ifor
a Marian ynteu a fyddai o’n fwy tebyg o roi’r ffidil yn y to?
Yn erbyn y byd
Mae pawb a phopeth yn erbyn Ifor Corsydd Mawr - y tywydd, yr anifeilaidi
ac, yn bennaf, y Ministri a’i rheolau, ei rheoladau, ei thagiau a’i
ffurflenni.
A dylai’r awdur wybod cystal â neb. Dydy Margiad Roberts yn wraig
fferm ei hun.
O dan y doniol, wedi’i lledaenu’n drwchus, mae neges - yn wi,r cri
o blaid y ffermwyr. Ond a dydy’r neges yn mynd yn fwrn ar brydiau?
A fyddai’n well fod wedi cael Ifor allan o’i fferm a’i drafferthion
am dipyn? Ond fel fysa Ifor yn ei ddweud, does ganddo ddim amser.
Mae hi’n frwydr o fore tan nos, o un pen i’r flwyddyn i’r llall.
Rwy'n cofio cael yr un teimladau o ddarllen Grapes of Wrath
gan John Steinbeck. Y ffarmwr bach yn erbyn y byd.
Y trogod ar ei warthaf
Mae’r ‘trogod’ neu’r biwrocratiaid ar ei ôl, yn ei orfodi i wneud
hyn ac yn ei orfodi i beidio gwneud y llall.
"Roedd pob tag mawr melyn yn costio pumpunt yr un a phob un yn fawr
ac yn felyn er mwyn i’r dynion o’r Ministri fedru darllen y rhifa
o bell er nad oedd y rhan fwya ohonyn nhw’n gwbod y gwahaniath rhwng
buwch a hwch."
A phobol felly sy’n poeni Ifor, bobol wnaeth erioed ‘ddiwrnod go iawn
o waith’.
"Doedd yr un o’r holl fiwrocratiaid a ddaeth yno i’w cynghori hi wedi
dangos unrhyw awydd na bwriad o gwbwl i sefydlu ei fusnas ei hun,"
meddai Marian wrth iddi geisio sefydlu busnes Te Bach i ddod ag arian
ychwanegol i’r fferm.
Mae Ifor yn rhestru faint o waith sydd yna efo anifeiliaid a hynny
er mwyn ceisio gwneud elw bychan - hynny yw, os na wnaiff y Ministri
atal ei sybsidi.
"’Da ni wedi bwydo, bugeilio, dipio, cneifio, marcio, doshio, injectio,
trin traed, tendio, lapio gwlân ... porthi, bugeilio ... nes ’da ni’n
dau ar ’n glinia. A ’da chi’n dwad yma un pnawn yn ych dillad glân
a’ch dwylo meddal ac yn deud ’n bod ni’n twyllo hefo’r cyfri am nad
yda chi’n fodlon derbyn mai heddiw farwodd y ddafad ’na."
O un trafferth i'r llall
Mae Ifor o un trafferth i’r llall, ac yn rhedeg drwy’r stori mai’r
ffaith ei fod wedi cael cic gan fuwch yn ei benglin ac na all wneud
yr amser i fynd i weld y meddyg.
Heb yr hiwmor, dwi’n siwr y byswn i wedi rhoi’r llyfr i lawr cyn cyrraedd
ei hanner.
Ond dwi’n credu y dylai pawb ei ddarllen. Mi rydan ni i gyd yn bwyta
cynnyrch y ffermwr ac efallai rhoith y llyfr yma rhyw syniad na nid
allan o baced a thun y daw pob dim, ac efallai - ni bobol y dwylo
meddal a’r job naw tan bump - y bydd gennyn ni rhywfaint o gydymdeimlad
â phobol y pridd.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig
a'r Calan
|
|
|