|
|
Gwrach
gan Gwanas
Nofel feiddgar am wrach a'i bryd ar ddial ydi nofel ddiweddaraf
Bethan Gwanas - ac mae cyfle i chi ddarllen rhan ohoni yma
Mai 2003
|
Bydd
nofel newydd feiddgar gan un o awduron mwyaf blaenllaw Cymru yn cael
ei chyhoeddi ar Fehefin 2.
Bydd Gwrach y Gwyllt gan Bethan Gwanas yn herfeiddiol ac yn
rhywiol. Mae'n cael ei disgrifio fel Buffy the Vampire Slayer yn
cyfarfod y Stafell Ddirgel!
Mae'n troi o gwmpas Siwsi Owen - merch hynod ddeniadol sydd yn symud
i fyw i fwthyn o'r enw Garth Wyllt mewn ardal wledig.
Gwneud i bobl ddioddef
Buan iawn y down i sylweddoli fod llawer iawn mwy i Siwsi nag y mae
neb wedi feddwl a phen dim mae pobl sydd wedi'i phechu yn dechrau
dioddef oherwydd ei galluoedd rhyfeddol.
Mae
Bethan Gwanas yn un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru ymhlith oedolion
a phlant fel ei gilydd ac esgorodd ei chyfrol am ferched yn chwarae
rygbi, Amdani, ar gyfres deledu boblogaidd.
Magwyd Bethan yn y Brithdir, Sir Feirionnydd, a mynychodd ysgol gynradd
y pentref ac Ysgol y Gader yn Nolgellau.
Ond pan ofynnwyd iddi ymhle y cafodd ei haddysg ychwanegodd hefyd
"y tu allan i Neuadd Rhydymain ar nosweithiau'r aelwyd!"
Astudio Ffrangeg
Yr adeg honno ei huchelgais oedd bod unai yn air hostess neu
newyddiadurwraig a chyda hynny mewn golwg astudiodd Ffrangeg yn y
coleg ond ar 么l treulio blwyddyn yn Ffrainc fel rhan o'i chwrs bu'n
gwneud gwaith VSO yn Nigeria am ddwy flynedd.
Wedi hynny bu'n gweithio gyda Radio Cymru cyn dychwelyd i'r coleg
i baratoi i fod yn athrawes a bu'n dysgu Ffrangeg am dair blynedd
cyn symud i weithio yng ngwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn.
Chwarae rygbi
Yn ystod ei chyfnod gyda'r 大象传媒 y dechreuodd chwarae rygbi ond y garreg
filltir lenyddol yn ei bywyd oedd cael ysgoloriaeth i sgwennu nofel
am ferched yn chwarae rygbi.
"A dwi heb stopio sgwennu ers hynny," meddai.
Dair blynedd yn 么l symudodd yn 么l i fyw ym Meirionnydd.
"Dwi'n byw mewn hen dy cerrig gyda gardd fendigedig a llond gwlad
o fywyd gwyllt," meddai.
Lle sy'nn swnio nid yn annhebyg i gartref Siwsi Owen yn Gwrach
y Gwyllt fel mae'n digwydd!
Daeth sgrifennu yn waith amser llawn iddi. Mae'n cyfrannu colofn wythnosol
i'r Herald Cymraeg a daeth rhagor o gyfresi teledu teledu i ddilyn
yr Amdani gyntaf yn ogystal a nofelau fel Llinyn Tr么ns
a Bywyd Blodwen Jones i bobl ifainc.
Ei chyfrol ddiweddaraf ydi Byd Bethan a gyhoeddwyd y
llynedd.
Y mae'n huawdl ynglyn a lles awduron a'u hawl i dal teg am eu llafur.
Beiddgar a heriol
Cyhoeddir ei nofel ddiweddaraf, Gwrach y Gwyllt, gan wasg Gomer.
"Mae hi'n feiddgar, heriol, llawn o gomedi a thywyllwch," meddai llefarydd
ar ran y wasg. "Buffy the Vampire Slayer meets Y Stafell
Ddirgel!"
Gwrach yw'r cymeriad canolog, Siwsi Owensy'n symud i fyw i ganol cymdeithas
wledig Gymreig gyda'i bryd ar ddial yn ffyrdd mwyaf ofnadwy ar ddisgynyddion
rhai a wnaeth gam 芒 hi yn y gorffennol.
Mae'n nofel afaelgar sy'n mynd i fod yn boblogaidd gyda darllenwyr
o bob oed.
Meddai Bethan:
"Roedd y syniad o sgwennu nofel am wrachod wedi bod yn troi yn fy
mhen ers blynyddoedd. Dwi ddim yn siwr iawn pam, cofiwch. Elfen o
hud straeon plentyndod efallai, a dysgu wedyn am y ffeithiau erchyll
am yr holl ferched diniwed gafodd eu cyhuddo a'u lladd dros y canrifoedd.
"Mwya ro'n i'n darllen a dysgu am wrachod, mwy ro'n i eisiau
sgwennu'r storis,
"Mi fues i'n meddwl am y nofel hon am flwyddyn dda cyn dechrau
ei sgwennu, ac ymchwilio'n fanwl am fisoedd wedyn, cyn cymryd blwyddyn
dda arall i'w sgwennu.
"Ar adegau, roedd hi'n boenus, yn fy sigo go iawn, ac ro'n i'n
aml yn teimlo fel ei thaflu drwy'r ffenest. Ond ar adegau eraill,
roedd hi'n bleser pur i'w chreu, a'r stori yn sgwennu ei hun, bron."
i ddarllen rhan o'r nofel cyn ei chyhoeddi.
|
|
|