|
|
Canu
fel caneris
Cynnyrch plant a'u bardd
Mehefin 2003
|
Caneri Pinc ar Dywod Euraid gan Menna Elfyn. Cerddi Bardd Plant Cymru
2002-3 a Beirdd Ifanc Cymru. Darluniau gan Sarah Berry, Catrin Meirion
Jones a Si么n Morris. Hughes. 拢4.99.
Adolygiad gan Lowri Johnston
Llyfr sy'n cynnwys cerddi gan Fardd Plant Cymru 2002-03, Menna Elfyn,
a rhai o'r plant y bu hi'n gweithio gyda nhw dros y flwyddyn yw hwn.
Teithiodd Menna Elfyn i sawl ysgol yng Nghymru yn cynnal gweithdai
barddoni gyda'r plant a'u hannog i ysgrifennu.
Llawn dychymyg
Gwelwn o ffrwyth eu llafur i'r plant fwynhau eu hunain yn fawr iawn
- mae'n gasgliad hyfryd o gerddi creadigol ac yn llawn dychymyg.
Mae 59 o gerddi yn y gyfrol hon; deg gan Menna Elfyn a 49 gan blant.
Mae cerddi Menna Elfyn yn rhai reit hoffus a gellir dweud bod dylanwad
y plant arni yn reit amlwg yma. Mae'n adrodd chwedl y pinwydd a'r
caneri a Spike, cimwch 65 oed o Galiffornia, a llawer mwy, wrth gwrs.
Rhoi hyder
Ac wedyn down at gerddi'r beirdd ifanc. Yn sicr, mae'r gyfrol yn rhoi
hyder inni fod yna lu o feirdd ifanc dawnus yng Nghymru - rhai, efallai,
na fyddai byth wedi meddwl ysgrifennu cerdd ond wedi llwyddo'n wych.
Cawn gipolwg ar feddyliau blant Cymru a beth maen nhw'n poeni amdano.
Diddorol oedd gweld elfen o fyd natur yn ymddangos sawl gwaith yn
y cerddi megis, Y Goedwig Law, Llyn Padarn a Hydref.
Mae yna hefyd lawer o gerddi am anifeiliaid er enghraifft, Pilipala,
Y Robin Goch, Dafad, Alarch, Y Wiwer.
Yn sicr mae'n amlwg bod byd natur yn bwysig iawn i'r plant.
Gwelwn hefyd beth sy'n poeni'r plant; Anobaith, Bachgen Bach
Unig a Pam Bywyd?
Ysgrifennodd Thomas Coombe a Katie Skuse o Ysgol Gymraeg Cwm
Gwyddon, Abercarn yn Bachgen Bach Unig;
Bachgen yn eistedd ar y wal.
Meddwl am gi - heb ffrind
A phawb yn chwerthin am ei ben.
Coes yn brifo.
Eisiau Mam a Dad.
Cysglyd, breuddwydiol ac unig.
Cerdd drist ac eithaf personol yw hon ac mi oeddwn i yn ei
hoffi gan ei fod yn dangos teimladau'r plant a'r hyn y maent yn poeni
amdano. Mae'r plant yn agor eu calonnau ac yn dangos beth sy'n mynd
ymlaen yn eu meddyliau.
Ychwanegu lliw
Mae'r lluniau yn y gyfrol hefyd yn ychwanegu ychydig o liw i'r llyfr
ac yn dod 芒'r cerddi yn fyw i ni.
Un gerdd hoffais yn fawr oedd Pwy sy' na? gan
Si么n Edwards o Ysgol Cynddelw, Wrecsam. Cerdd yw hi am y w锚 ac mae'n
gorffen gyda'r linell;
A dyna wers fawr i chi -
Peidio trystio neb ar y w锚.
Mae'n debyg fod y plant wedi dysgu sut i gyflythrennu ac i
gymharu gan fod y rhan fwyaf o'r cerddi yn llawn o rhain, gan eu gwneud
yn hwylus i ddarllen.
Felly, cyfrol hwylus a diddorol, sydd bendant werth ei ddarllen. Mae'n
addas i bawb - o bob oedran. Ac rwy'n siwr mae nid dyma'r tro olaf
y byddwn ni'n clywed gan y beirdd ifanc - gobeithio eu bod wedi cael
eu hysbrydoli i ysgrifennu mwy i'r dyfodol.
|
|
|