大象传媒


Explore the 大象传媒

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Canu o'i
hochr hi

Ymchwil ddifyr i emynau Diwygiad '04-'05

Gorffennaf 2003

Caniadau'r Diwygiad - Noel Gibbard. Gwasg Bryntirion.
Adolygiad gan Huw Tegid.


Rhwng rwan a'r amser yma y flwyddyn nesaf, mi fydda i wrthi'n brysur yn cynorthwyo 芒 threfniadau cynhadledd ryngwladol a gynhelir ym Mhrifysgol Cymru, Bangor fydd yn nodi canmlwyddiant diwygiad 1904-05.

Eisoes braenarwyd y tir ar sawl gwedd gogyfer 芒 dathlu'r achlysur hwn ac i rywun fel fi nad oedd yn rhyw gyfarwydd iawn 芒 hanes y Diwygiad tan yn ddiweddar, roedd y llyfryn hwn gan Noel Gibbard yn fodd imi ddysgu mwy am ran ganolog canu yn y Diwygiad.

Hynt y canu

Wrth feddwl am ymadroddion fel "mynd i hwyl" sy'n cael eu cysylltu 芒 diwygiadau caiff rhywun ddarlun o bobl yn canu'n ddirwystr.

Mae'n debyg fod canu yn un o sgil effeithiau pob diwygiad ac mae'r llyfr hwn yn dechrau trwy olrhain hynt canu cynulleidfaol rhwng y diwygiad mawr blaenorol afaelodd yng Nghymru yn 1859, a digwyddiadau 1904/05.

Mae'n s么n bod llyfrau emynau wedi dod yn bethau mwy cyfarwydd, a chyfeirio hefyd at ddylanwad yr Efengylwyr - gantorion Americanaidd Sankey a Moody, wrth i ddiwygiad 1904-05 (neu 'Ddiwygiad Evan Roberts' fel y'i gelwid ef hefyd) ddod yn nes.

Yna, wrth i ddylanwad yr Ysbryd Gl芒n ddechrau gafael ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, fe welwn ni rai fel Elfed, Dyfrig ac emynwyr eraill yn medi o gynhaeaf ysbrydol y Diwygiad.

Cerddoriaeth gyfoes

Ceir s么n sut yr asiwyd cerddoriaeth gyfoes 芒 geiriau emynau enwog Cymru a sut yr enillodd emynau newydd eu plwyf, gyda fersiynau ychydig yn wahanol i'w gilydd yn boblogaidd mewn gwahanol fannau.

Mae gan yr awdur synnwyr digrifwch wrth gyflwyno ei ymchwil ac mi chwarddais wrth ddarllen am hanes honedig 'genedigaeth' un emyn.

Holai un pregethwr trwm ei glyw o'r pulpud yn rhethregol, 'Beth yw'r utgyrn glywa i'n seinio?', ac yna mewn ysbaid, 'Pwy sy'n cael eu gwahodd ganddo?'

Yn ysbryd y diwygiad, ymatebodd dynes yn y gynulleidfa i'r ddau gwestiwn yn eu tro, a dyna lunio pennill pedair llinell ar hap, a hwnnw mwya'r syndod yn odli, er efallai na chlywodd y pregethwr yr ail a'r bedwaredd linell!

Darlun o ddiwylliant a chymdeithas

Rhydd ddarlun hefyd o ddiwylliant a chymdeithas y cyfnod, fel y cyfeiriad at 600 o lowyr yn dod dan ddylanwad y diwygiad tra roeddent wrth eu gwaith.

Un o nodweddion y Diwygiad hwn oedd y modd y byddai merched yn cynorthwyo Evan Roberts gyda'i oedfaon arbennig, a difyr yw sylwi fod un ohonynt wedi mynd dros y ffin i Loegr i genhadu, a thra gwn芒i hynny, parhaodd i dderbyn t芒l llawn gan Fwrdd Ysgolion Gwyr er iddi fod yn absennol o'i gwaith fel athrawes.

Tybed sawl cyflogwr fyddai mor hael heddiw petai'r Ysbryd ar gerdded trwy Gymru?

Diwinyddiaeth y Gwaed

Amlygir y pwyslais a fu ar y gwaed a gollodd Iesu ar y groes yn Niwygiad Evan Roberts a hynny'n chwarae rhan amlwg yn niwinyddiaeth nifer o emynau y diwygiad arbennig hwn.

Mewn atodiad o ddeugain tudalen, cawn nifer o'r emynau hynny, ynghyd ag ugain tudalen a mwy o nodiadau manwl i'w canlyn.

Yng nghorff y llyfr hefyd, cawn ddarlun o arddulliau arwain Evan Roberts - ambell dro byddai'n ddigon bodlon i ganu byrfyfyr darfu ar ei bregethu, ond dro arall byddai'n tewi canu ar ddiwedd gwasanaeth, gan na theimlai fod hynny'n cael ei wneud yn yr ysbryd iawn.

Wedi sicrhau fod pawb o ddifrif, ac mai nid canu er mwyn swnio'n dda a wn芒i'r gynulleidfa, byddai rhwydd hynt iddynt barhau 芒'u mawl ar g芒n.

Ar d芒n eisiau dweud

Rydych yn cael y teimlad fod Noel Gibbard ar d芒n eisiau dweud y stori am y cyfnod cyffrous hwn, gan gymaint o ffeithiau a blethir i gan tudalen y stori. Os byddwn i'n bod yn feirniadol, efallai'n wir iddo fethu 芒 chrynhoi'r hanes yn gwbl foddhaol gen i.

Hyd yn oed yn y bennod olaf fer sy'n ceisio crynhoi'r hanes, ceir nifer o ffeithiau newydd, a dyna oedd un o'r pechodau mwyaf pan oeddwn i'n llunio traethodau yn yr ysgol a'r coleg. Ond dyna ni, pwy a wyr ai'n fwriadol yr ysgrifennodd Noel Gibbard fel hyn?

Nid peth trefnus yn 么l ein safonau ni fo awel yr Ysbryd Gl芒n wrth gwrs.

Efallai mai darparu ar gyfer cynulleidfa benodol wna'r gyfrol hon, sef cerddorion a diwinyddion, ond i rai o'r tu allan i'r ddau gylch yma fyddai'n hoffi ymgyfarwyddo 芒 llu o ffeithiau ynghylch y Diwygiad, fe argymhellwn chi i brynu'r llyfr a'i ddarllen.

Naws y cyfnod

I'r rhai sy'n blino ar rygnu emynau mewn gwasanaethau Cristnogol heddiw, mae golwg droeon yn y llyfr hwn ar ddigwyddiadau cyfareddol y diwygiad.

Dyma ddyfyniad o ganol y llyfr sydd efallai'n crisialu naws y cyfnod orau i mi wedi darllen y gyfrol hon.

"Bu'r teimladau yn ddilywodraeth mewn sawl cyfarfod. Eto i gyd, roedd gradd o wrthrychedd, oherwydd canu emynau oedd y gynulleidfa, emynau ac ystyr iddynt, ac wedi eu gwreiddio yn yr Ysgrythur."

Wrth edrych ymlaen at 2004 felly, diolch i Noel Gibbard am y cip gwerthfawr hwn yn 么l ar gyfnod y Diwygiad.

Mae gwaith ymchwil y llyfryn yn destun edmygedd, ac arddull y llyfr yn afaelgar a difyr.


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 大象传媒 Cymru'r Byd






About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy