|
|
Sir
a'i cherddi
Detholiad o gerddi am Bowys
Gorffennaf 2003
|
Cerddi Powys. Golygwyd gan Dafydd Morgan Lewis. Cyfres Cerddi Fan
Hyn. Gwasg Gomer. 拢6.95.
Gyda'r "darn gwlad rhwng y Berwyn a Bannau Brycheiniog" yn cynnwys
lleoedd fel Cilmeri, Clywedog, Epynt, Efyrnwy a Sycharth ni fu beirdd
y canrifoedd yn brin o bethau i'w cyffroi i gyfansoddi ym Mhowys.
Ar ben hynny, bu Powys yn fagwrfa i nifer o feirdd amlwg y Gymraeg.
Rhai fel Iorwerth Cyfeiliog Peate a Gwyn Erfyl wedi eu codi yno -
eraill fel Emrys Roberts wedi ymsefydlu yno.
Rhwng hyn i gyd doedd gwaith Dafydd Morgan Lewis ddim mo'r anoddaf
ac y mae'n cychwyn ei gasgliad o gerddi gyda rhai o linellau mwyaf
adnabyddus barddoniaeth Gymraeg;
Stafell Gynddylan ys tywyll heno
Heb d芒n, heb wely,
Wylaf dro, tawaf wedyn
Nid yn unig mae diweddariad Gwyn Thomas o ganu hunllefol Heledd yn
gwneud i ddarllenydd deimlo ei fod yn camu i diriogaeth gyfarwydd
ond hefyd yn gosod cywair ar gyfer y casgliad sydd ag ymwybyddiaeth
ddofn o fawredd a gollwyd, brwydrau i'w adfer a dyfodol sy'n her.
Cilmeri Gerallt
Ac nid yw hynny'n cael ei gyfuno'n well yn unman nag yn Cilmeri
Gerallt Lloyd Owen:
Fin nos fan hyn
Lladdwyd Llywelyn.
Fyth nid anghofiwn hyn.
Y nant a welaf fan hyn
A welodd Llywelyn,
Camodd ar y cerrig hyn.
Fin nos, fan hyn
O'r golwg nes芒i'r gelyn.
Fe wnaed y cyfan fan hyn.
Rwyf fi'n awr fan hyn
Lle bu'i wallt ar welltyn,
A dafnau o'i waed fan hyn.
Fan hyn yw ein cof ni,
Fan hyn sy'n anadl inni,
Fan hyn gynnau fu'n geni.
Y pumed casgliad
Cerddi Powys ydi'r bumed gyfrol yn y gyfres ragorol hon o gerddi gan
Wasg Gomer. Erbyn y bydd Cerddi Ynys M么n, Caerdydd, Shir G芒r (nid
Sir, gyda llaw), Clwyd, Sir Gaernarfon, Y Cymoedd, Meirionnydd
ac Y Byd wedi ymuno 芒 Cherddi Powys a Cherddi Llyn ac Eifionydd,
Abertawe, Sir Benfro a Ceredigion, a gyhoeddwyd yn barod, bydd hon
yn gyfres wirioneddol werth chweil o flodeugerddi.
Er nad ydw i'n rhy siwr ynglyn 芒 phenderfyniad y wasg i gael golygyddion
gwahanol ar gyfer y cyfrolau mae rhywun yn gweld rhinwedd mewn
cael rhai gydag adnabyddiaeth leol i ddethol cerddi ar gyfer eu broydd
eu hunain.
Yr hyn ydych chi'n ei golli, wrth gwrs, yw undod chwaeth, er bod yna
un golygydd cyffredinol, R. Arwel Jones.
Ta beth, i un o gogle Sir Drefaldwyn y rhoddwyd y gwaith o ddewis
cerddi am Bowys, Dafydd Morgan Lewis o Garthbeibio, a hyfryd yw gweld
y gyfrol yn cael ei chyhoeddi i gydfynd ag ymweliad yr Eisteddfod
Genedlaethol â bro y gadawodd y frwydr genedlaethol gymaint
o'i h么l arni dros y canrifoedd gyda chysylltiadau amlwg 芒'r ddau arwr
cenedlaethol mwyaf, Llywelyn a Glyndwr.
Dim Iolo
Er bod tair cerdd i Gilmeri (Gerallt Lloyd Owen, Gwynn ap Gwilym ac
Iwan Llwyd) mae rhywun yn synnu braidd nad oes o leiaf ddetholiad
o gywydd Iolo Goch i Sycharth ymhlith y cant o gerddi - er bod un
o'i linellau, Lle d么i beirdd aml, lle da byd, yn cael ei dyfynnu
ar gychwyn Llosgi Sycharth gan Myrddin ap Dafydd.
"Daeth i Sycharth," medda fo, "ac arno syched."
Dim ond un anrhaith oedd llosgi llys Owain gan fab brenin Lloegr yn
1403. Yn nes ymlaen daeth dwr i ddifa yng Nghlywedog ac Efyrnwy a
gwres bwledi dros Epynt - oll yn cael eu cofio yn y casgliad hwn.
Trist oedd yr awr, y gymdogaeth ar chw芒l,
Bugeiliaid Epynt yn ffarwelio'n friw,
Heb gael ond briwsion llywodraeth yn d芒l
Am ildio'u treftadaeth 芒'u ffordd o fyw
Meddai Tom Davies wrth gychwyn soned sy'n galaru am Epynt.
Yn sg卯l y newid, a'r byddarol ru
Aeth Epynt mebyd i mi'n fynydd du.
Milwyr Owain ar droed yn Hyddgen ddyddiau fu yn ysbrydoli Gwynn ap
Gwilym a'i elyn yn ymarfer ar diroedd Powys y cyfnod hwn - dyna'r
rhychwantu sydd o fewn Cerddi Powys.
Uno Powys
Dywed Dafydd Morgan Lewis iddo ef fynd ati'n fwriadol i wau undod
hanesyddol.
"Wrth lunio'r casgliad hwn, chwiliwn am y pethau oedd yn uno'r Bowys
newydd honno a ddaeth i fodolaeth lai na deng mlynedd ar hugain yn
么l. Wrth ddarllen y cerddi, daeth thema i'r amlwg nad oeddwn wedi
meddwl amdani cynt.
"Mae yna beth wmbredd o gyfeiriadau yn y cerddi a gesglais at foddi
cymoedd. Mae Llyn Llanwddyn, Cwm Elan a Chlywedog yn adnabyddus i
bawb, wrth gwrs, ond mae llu o gyfeiriadau i'w cael at fygwth cymoedd
eraill hefyd . . . Mae'n wir mai Tryweryn yw'r symbol mawr . . . ond
o fewn ffiniau Powys y digwyddodd llawer o'r bygwth a'r boddi. Ychwaneger
at hyn y driniaeth a gafodd trigolion Epynt yn ystod yr Ail Ryfel
Byd ac fe welir ein bod yn bobl sy'n hen gyfarwydd 芒 gormes."
Hyfrydwch telynegaidd
Casgliad felly a digon i gnoi cil arno ond casgliad hefyd nad yw'n
amddifad o hyfrydwch telynegaidd cerddi fel Wrth Fynd efo Deio
i Dywyn gan Iago Mochnant a Pennant Melangell gan Nansi
Richards.
Ac mae hi, Nansi, yn haeddu cywydd ac englynion coffa mewn cyfrol
nad yw'n swil o fawrygu 'gwyr enwog' gydag Yr Esgob William Morgan
gan Gwenallt hefyd ymhlith y cerddi.
Rhwng y myrtrwydd hefyd, fel petai, nid yn unig y mae Ann Griffiths
ond mae englyn i Laura Ashley gan Idris Reynolds:
Daeth niwlen dros yr hendref - yn orchudd
O barch, ac o dangnef
Powys, ei thywys wnaeth Ef
Adre yn lliwiau'r Hydref.
Wrth gwrs, mae nifer o gerddi tlws i leoedd ac yn eu plith gywyddau
mawl a chroeso a gyhoeddwyd yn gysylltiedig ag ymweliadau yr Eisteddfod
Genedlaethol â gwahanol froydd ym Mhowys fel y Cywydd Mawl
i Faldwyn a gyfansoddodd T. Llew Jones adeg ymwelid y Brifwyl
芒'r Drenewydd:
Y mae sir ym Mhowys hen,
Sydd ddedwydd fel gardd Eden,
Godidog gan goed ydyw,
Hardda un o'r siroedd yw;
A rhyw fwynder a erys
Ers cyn co drwy'r fro ddi-frys.
Ond mae lle i ofni i Ddafydd Morgan Lewis bwyso'n ormodol ar y farddoniaeth
'eisteddfodl' hwylus hon gan nad ydyn nhw, bob amwser, yn dangos y
beirdd a'u cyfansoddodd ar eu gorau ond yn gwneud job o waith!
gan Glyn Evans
Holi Dafydd Morgan Lewis
Gwefan Eisteddfod
|
|
|