大象传媒


Explore the 大象传媒

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Cofio Tecwyn
Dyddiau gynt a'r dyddiau ddaw

Ddoe ac yfory mewn crefydd

Mai 2003

Cofio Tecwyn gan Tudor Davies, Gwasg Pantycelyn.

Ffordd Bywyd - Llawlyfr i Gristnogion Ifanc gan Glyn Tudwal Jones. Gwasg Pantycelyn.


Huw Tegid yn adolygu dau lyfr

Mae Cristnogaeth ar groesffordd y dyddiau hyn - os nad ydi hi wedi bod yno ers tro byd a dweud y gwir, yn rhyw bendroni pa drywydd i'w gymryd.

Ar y naill law mae bron i ugain canrif o draddodiad cyfoethog ymhleth 芒 diwylliannau mawr y gorllewin ac, ar y llaw arall, y mae'r her fwyaf un, sef cario'r ffydd i'r oes bresennol, ac ailddarganfod egni rhyfeddol bywyd ac atgyfodiad Crist.

Os dywedodd Iesu rhyw dro fod Teyrnas Nefoedd yn debyg i ddyn yn arddangos storfa o'r hen a'r newydd, mae'r un yn wir dybiwn i am Gristnogaeth heddiw - peidio colli golwg ar draddodiad, ond yn sicr edrych ymlaen tua'r dyfodol gydag awch i genhadu.

Disgyn i'r categori cyntaf mae Cofio Tecwyn sy'n cofio'r dyddiau da gynt, ac yn fwy penodol, hanes D. Tecwyn Evans, un o weinidogion amlycaf y Wesleaid yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Mae'r cofiant sylweddol a theilwng hwn yn olrhain hanes Tecwyn o fore ei oes yn Llandecwyn, ac ar hyd llwybr ei yrfa o ofalaeth i ofalaeth, gan lenwi'r bwlch yn sgil diffyg unrhyw gofiant penodol iddo ers ei farw yn 1957.

Nefoedd ar y ddaear
Mae'r darlun a gawn o gymuned glos a thrwyadl Gymraeg Llandecwyn yn y bennod gyntaf bron yn un rhy berffaith i'w gredu - plant yn ffyddlon i'r capel, yn parablu mewn Cymraeg rhywiog, a Christnogaeth yn elfen amlwg o'r bwrlwm a'r hwyl hwnnw.

Does fawr o syndod i Tecwyn ddod yn Gymro a Christion mor gadarn wedi magwraeth gystal, a datblygu mor enwog fel y gwyddai pawb pwy oedd o trwy gyfrwng un enw'n unig - yn union fel 'Tegla' - E. Tegla Davies - un o gymheiriaid Tecwyn, neu'r chwaraewyr p锚l-droed o Frasil y bydd mwy ohonom yn gyfarwydd 芒 nhw!

Rwy'n oedi rhag dweud 'enw bedydd' testun y cofiant, gan mai David Evans oedd 'Tecwyn' yn gyntaf oll - yn ddiweddarach y daeth yr enw canol gwneud a anfarwolodd yn rhan o'i enw.

Yn y tair pennod ganlynol, cawn ein tywys yn sydyn iawn o un garreg filltir i'r nesaf ym mywyd prysur Tecwyn - dim ond yn y penodau wedi hynny y cawn ddarlun llawnach ohono ar ffurf ysgrifau unigol arno fel ieithydd ac awdur, cyfieithydd ac emynydd, golygydd, darlithydd, pregethwr, ac yn olaf fel unigolyn.

Wedi pennod gyntaf gystal, ychydig o siom oedd fod adroddiad y dair bennod ganlynol braidd yn esgyrnog, a bod yn rhaid aros hyd y penodau olaf nes gallu closio at y 'Tecwyn go iawn' os mynnwch chi.

Ysywaeth, dyna un gur pen mawr cofiannydd dybiwn i - ceisio ffurfio cofiant taclus, ac mae hynny'n drybeilig o anodd gyda rhywun amryddawn oedd a nifer o heyrn gwahanol yn y t芒n ar un pryd, fel y gwn i o brofiad fel cyw myfyriwr ymchwil.

Pe bai'r awdur heb rannu'r llyfr fel y gwnaeth, mae'n siwr y byddai rhywun arall wedi gweld bai arno, felly wna i ddim bod yn rhy llym fy meirniadaeth. Yr unig gyngor a gynigiwn i ddarpar ddarllenwyr y llyfr ydi iddyn nhw ddyfalbarhau drwy benodau 2, 3 a 4, gan gofio fod seigiau go flasus i'w cael wedi hynny.

Yr her i ni heddiw
Ond dyma ddod at brif ffyn mesur unrhyw gofiant gwerth ei halen - ydi rhywun elwach o'i ddarllen, ac ydi o'n ysbrydoli'r darllenydd?

Mae'n hawdd meddwl fod oes Tecwyn yn oes well i Gristnogaeth yng Nghymru nag ydi hi heddiw, ond rhaid cofio nad oedd moethusrwydd ein hoes ni'n rhan ohoni.

Bu Tecwyn fyw trwy ddau ryfel byd a dirwasgiad rhwng y rheiny ond parhaodd ei ffydd gydol yr amser, ac mae hynny'n nodedig.

I Gristnogion heddiw sy'n pryderu ynghylch cynulleidfaoedd ar drai, mae Cofio Tecwyn yn sicr yn cynnig her.

Doedd dim pall ar deithio Tecwyn o un pen y wlad i'r llall, a thu hwnt i Glawdd Offa hefyd. Fel John Wesley gynt i raddau, gwelai'r cyfanfyd (neu Gymru o leiaf) fel ei blwyf, a gwelodd fod ganddo neges i'w chyflwyno i'r bobl.

Efallai mai'r argraff ddyfnaf a adawyd arnaf wedi darllen y gyfrol ganmoladwy hon oedd mor ddienaid ydym ni heddiw, a rhyfeddu mor ddihysbydd oedd ffynonellau egni Tecwyn a'i debyg.

Ffordd Bywyd -
Llawlyfr i Gristnogion Ifanc

A dyna ddod at yr ail lyfr, Ffordd Bywyd - Llawlyfr i Gristnogion Ifanc gan Glyn Tudwal Jones. Ffordd Bywyd - Llawlyfr i Gristnogion Ifanc Ffordd Bywyd - Llawlyfr i Gristnogion Ifanc

Clawr Ffordd Bywyd Canllaw ar gyfer Cristnogion ifanc yw'r llyfr hwylus hwn, wedi ei lunio ar gyfer dosbarth sy'n paratoi ar gyfer Bedydd Esgob neu ar gyfer cael eu derbyn yn aelodau cyflawn o gapel.

Yn hynny o beth, rhaid i mi gamu 'nol flwyddyn neu ddwy i geisio gweld a fyddwn i wedi croesawu llyfr o'r fath pe bawn i'n rhan o gynulleidfa darged y llyfr hwn - (peth garw ydi mynd yn hen yn de!).

'Cwl' heb fod yn 'naff'
Un o'r pethau sy'n mynd dan groen pobl ifanc ydi llyfrau gan oedolion sy'n ymdrechu'n ormodol i fod yn 'cwl'. Mi fyddai ymdrechion felly er enghraifft yn cynnwys lluniau o bobl ar sgrialfwrdd mewn siorts bermiwda, ac ymadroddion fel 'cwl' a 'smart' a 'hip' fesul paragraff.

Yn hynny o beth, mae Glyn Tudwal yn iawn yn y ffordd y mae'n cyflwyno'r llyfr. Mewn gair, tydi o ddim yn baglu wrth fod yn lliwgar a deniadol - tydi o ddim yn 'naff', fel roedd fy nghenhedlaeth i yn ei ddweud (a dyna i chi esiampl arall o air aeth allan o ffasiwn).

Mae pobl ifanc yn gweld trwy ymgeision gormodol i roi delwedd 'ifanc' i rywbeth yn hawdd iawn, felly rwy'n siwr y caiff yr arweiniad syml a chryno hwn groeso mawr gan lawer.

Un awgrym fyddai gen i cyn gorffen s么n am arddull - efallai fod ymadrodd fel 'Dyna fyd rhyfedd fyddai hwnnw, ynte?', gyda'r 'ynte' tadol yna ar ei ddiwedd, yn swnio'n rhy debyg i lais athro neu riant, ac y byddai arddull fel 'Mi fyddai'n rhyfedd petai'r byd felly heddiw' yn taro'n well ar glustiau'r darllenwyr ifanc.

Gwn i mai hollti blew ydi hynny, ac er mai ar ffin denau y mae ieithwedd addas (a chywir) ar gyfer ieuenctid yn disgyn, mae modd cael cydbwysedd trwy lacio'r mymryn lleiaf ar yr iaith lenyddol arferol - ond, fel y dywedais, heb grwydro mor bell oddi wrthi fel bod hynny'n boenus o amlwg.

Y Llwybr iawn
Y gwyn a glywir yn gyson y dyddiau yma yw fod pobl ifanc wedi colli eu ffordd, ac yn hynny o beth mae teitl y llyfr yn addas iawn.

Rwy'n siwr y byddai pwy bynnag fyddai'n darllen 16 uned gryno y llyfr hwn yn cael cymorth mawr i ganfod y ffordd iawn honno drostynt eu hunain.

Mae hwn yn lyfr sy'n peri i'r darllenwr holi ei hunan yn gyson. Mae o'n rhoi awgrymiadau, ond tydi o ddim yn stwffio propaganda Cristnogol i lawr corn gwddw rhywun chwaith.

Mae o'n fodd i lanc neu lances ifanc holi eu hunain, ystyried beth ydi prif egwyddorion Cristnogaeth, a dewis y llwybr sy'n gwneud synnwyr iddyn nhw. Yn fyr, mae o'n rhywbeth fyddai'n cryfhau cymeriad rhywun ifanc trwy gymell yn hytrach na gorfodi.

Ffydd, gobaith a Chariad
Mae hwn yn fyd lle mae 'cariad' yn fater amwys - ar un gwedd mae mwy o s么n am ryw a chyfeillachu yn llenyddiaeth pobl ifanc nac erioed, er mai ychydig iawn o sylw sydd 'na i gariad, ac ymrwymiadau yn rhinwedd y cariad hwnnw.

Ydi, mae'n hawdd felly colli 'gobaith' trwy weld hyn, a sylwi dro ar 么l tro mai'r cyfan y mae'r cyfryngau yn ei drafod yw anlladrwydd wrth iddyn nhw geisio denu cynulleidfa.

Ond tybed ai'r elfen bwysig iawn sy'n cael ei anghofio yn y byd sydd ohoni ydi 'ffydd'? 'Cofiwch mai ffydd ydi'r hyn sydd yn rhoi ystyr i fywyd' ydi un o negesau amlycaf Glyn Tudwal Jones yn y llyfr hwn. Rwy'n ei ailadrodd yma gan sylweddoli mod i'n annerch cynulleidfa hyn yn ogystal.

Tybed a oes angen i'r rhai hyn sy'n ymwneud 芒 Christnogaeth ddangos mwy o ffydd, a hynny ar ddwy wedd?

Oni ddylai eu ffydd ddisgleirio mor llachar trwyddynt fel ei bod hi'n anodd i bobl eraill ei anwybyddu? Oni ddylent arwain trwy esiampl yn hytrach na bytheirio o hyd fod pobl ifanc wedi colli eu ffordd?

Hynny'n un peth, ac yn ail, oni ddylent gael mwy o ffydd mewn pobl ifanc trwy ymddiried mwy o gyfrifoldebau iddyn nhw yn yr eglwysi a'r capel? Dwi'n holi nifer o gwestiynau mi wn, ond fiw i'r un Cristion gwerth ei halen fod yn fodlon ei fod yn gwneud digon yn barod i yrru cenhadaeth y ffydd yn ei blaen.

Efallai mai'r neges sy'n crisialu amcan cyfrol Glyn Tudwal i mi yw adnod o 1 Timotheus 4, a ailadroddir yn y llyfr.
"Paid 芒 gadael i neb dy ddiystyru am dy fod yn ifanc.

Yn hytrach, bydd di'n batrwm i'r credinwyr mewn gair a gweithred, mewn cariad a ffydd a phurdeb."

Tybed felly a yw'n bryd i Gristnogion sylweddoli o ddifrif nad oes modd cynnal yr eglwysi a'r capeli sydd gennym gyda'r person茅l sydd ynddi ar hyn o bryd yn unig?

Os ydi pobl ifanc wedi colli eu ffordd, oni ddylem fynd allan i'r priffyrdd a'r caeau o bryd i'w gilydd i chwilio amdanynt? Efallai nad drwg o beth fyddai mynd 芒 chopi o'r llyfr hwn ar eu cyfer gyda chi, os ewch chi.

Wedi eu hennill, efallai y byddai'r gyfrol sy'n 'Cofio Tecwyn' yn ysbrydoliaeth i ambell un yn ogystal i sylweddoli mai gwarth o beth fyddai gadael i Gristnogaeth farw wedi ymdrechion rhai fel Tecwyn, yn enwedig o gofio'r holl adnoddau y mae'r byd modern yn ei gynnig.

Rhaid i Gristnogaeth gofio ei thraddodiadau felly, ond rhaid dilyn esiampl Glyn Tudwal yn ogystal, a chael rhai newydd i ganfod 'ffordd bywyd'.


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 大象传媒 Cymru'r Byd






About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy