|
|
Rhyw,
lager a rhaffau
Digon o iaith liwgar wrth i ferched dynnu rhaf
Gorffennaf 2003
|
Nofel 'liwgar' ei hiaith am d卯m o ferched sy'n tynnu rhaff ydi Nofel
y Mis ar gyfer Gorffennaf.
Mae Dal Hi! gan Caryl Lewis sy'n cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa
yn cael ei disgrifio fel "portread bywiog a benywaidd" o gefn gwlad
y Gymru gyfoes.
"Mae hi'n yn nofel sy'n torri sawl record ym myd ffuglen Gymraeg,
ymysg rhain y record am y swmp ac amrywiaeth mwyaf o iaith 'liwgar'
ac am fod yn un o'r nofelau prin hynny i gael ei sgwennu yn nhafodiaith
Ceredigion," meddai llefarydd ar ran y wasg.
Ychwanegodd mai aelodau t卯m tynnu rhaff merched Tafarn y Rhos yw'r
prif gymeriadau.
Lot o sbort
"Maent yn paratoi at y twrnament tynnu rhaff cenedlaethol ac yn byw
bywydau llawn iawn: 'Dim sex, drugs and rock 'n roll, ond yn hytrach:
rhyw, lager a rhaffau!" meddai Mared Roberts o'r Lolfa.
"Mae'r nofel yma yn lot o sbort i'w darllen," ychwanegodd, "ond dim
jest chic-lit ydi hi. Mae 'na them芒u dwys yn cael eu trafod hefyd,
fel profedigaeth, perthynas yn chwalu a thyndra cymuned glos."
Cystadleuaeth yn y Steddfod
Er yn nofel y mis ar gyfer Gorffennaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol
yn Meifod y bydd y gyfrol yn cael ei chyhoeddi'n swyddogol a hynny
mewn twrnament tynnu rhaff y bydd Y Lolfa yn ei drefnu ar y maes.
Daw Caryl Lewis o Ddihewyd ger Aberaeron. Y mae'n gweithio i'r cwmni
cysylltiadau cyhoeddus Strata Matrix ac yn wyneb cyfarwydd ar raglenni
celfyddydol Cymreig.
Graddiodd o Brifysgol Durham ac mae nofel i'r arddegau ganddi, Iawn
Boi? yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa ym mis Medi yn rhan o gyfres
Pen Dafad.
|
|
|