|
|
Pobl
T Llew
Asbri a dyneiddiwch hen ffordd o fyw
Ebrill 2003
|
Fy Mhobl I gan T. Llew Jones. Gomer. £5.95
Prin yw'r llyfrau Cymraeg hynny sy'n mynd i ail argraffiad ond mae'n
rhywbeth y mae T. Llew Jones wedi hen arfer ag ef.
Wele, o fewn ychydig fisoedd o gael ei gyhoeddi mae ei lyfr diwethaf
- ac olaf, medda fo - yn 么l yn y siartiau llyfrau yn dilyn ei ailargraffu.
Digwyddiad trist ar y teledu ychydig yn 么l oedd clywed yr arch-storiwr
plant hwn yn datgan na fyddai'n sgrifennu eto gan fod ffynnon yr awen
wedi sychu meddai.
Atgofion
Cyfrol o atgofion hunangofiannol, Fy Mhobol I, a ddewisodd
i gau pen mwdwl o lafur rhyfeddolac mae'n gyfrol sy'n adlewyrchu holl
afiaeth a holl ddyneiddiaeth y llenor a bardd tra chynhyrchiol hwn.
Hyd yn oed os gwireddir ei ddarogan na ddaw llyfr arall o'i law bu
ei gynhaeaf yn un toreithiog odiaeth a hynny dros gyfnod pan fu'n
rhaid iddo gyflawni swmp o'i lenydda yn ystod ei amser hamdden.
Dros y blynyddoedd cyhoeddodd ymhell dros hanner cant o lyfrau, y
rhan fwyaf ohonyn nhw yn llyfrau plant yn amrwyio o gyfrolau barddoniaeth
i nofelau antur.
Sgrifennodd ar gyfer oedolion hefyd ac enillodd gadair y Genedlaethol
ddwywaith a chael ei gydnabod yn un o'n pennaf meistri canu caeth.
Teulu, cydnabod, cynefin
Mae Fy Mhobol I yn gyfrol hyfryd sy'n rhoi cyfle iddo hel atgofion
nid yn unig am ei fywyd ei hun ond am ei deulu, ei gyfoedion, ei gydnabod
a'i hen gynefin..
Mae'r
llun ohono ar y clawr a dynnwyd yn sgubor y Cilie gydag eneidiau eraill
hoff gytun yn cyfleu i'r dim afiaith a llawenydd y gyfrol hon.
Er bod yr atgofion yn ymddangos fel pe byddent yn mynd a dod fel gloynnod
byw drwy'r gyfrol y mae ffurf a chynllun i bob ysgrif gyda chymysgedd
o'r dwys a'r digrif o lawenydd ac o siom.
Newid ddaeth
Cychwyn gydag atgofion melys am aelwyd ei blentyndod.
"Dyw'r bwthyn ddim yn bod bellach, wrth gwrs. Fe'i tynnwyd i lawr
i wneud lle i fyngalo newydd, crand, i ryw Sais na wn i mo'i enw,"
meddai mewn ychydig eiriau sy'n cyfleu cyfrolau.
Disgrifia ef a briod yn ymweld 芒'r hen gartref:
"Unwaith, flynyddoedd maith yn 么l fe euthum 芒'r wraig i Iet Wen i
ddangos iddi'r cartre oedd gen i . . . fe ges i syndod i weld nad
oedd yr hen le wedi newid rhyw lawer yn ystod y deugain mlynedd a
mwy ers imi fyw yno'n blentyn.
"Pwysais ar y latsh - roedd y drws ynghlo fel y disgwyliwn. Ond pan
oedden ni ar fin cerdded ymaith, dyma ni'n clywed rhyw swn, rhyw gyffro
tu fewn.
"Euthum at y ffenest wedyn . . . Cefais dipyn o sioc wrth weld yr
olygfa tu fewn. Yno, ar lawr ein parlwr ni gynt, gorweddai hwch fagu
fawr, yn ei hyd, a thorraid o foch bach yn ei sugno. Roedd y peth
yn ddigon naturiol wrth gwrs. Roedd ffermwr cyfagos, gan wybod fod
yr hen dy yn w芒g ac yn dadfeilio wedi manteisio ar y cyfle i roi hwch
fagu a'i pherchyll i mewn yno.
"Wrth edrych ar yr olygfa drwy'r ffenest y diwrnod hwnnw, ni allwn
lai na chofio Mam a'i gofal fod popeth yn l芒n ac yn ei le yn y parlwr
gynt. A dyma ei pharlwr hi wedi mynd yn dwlc mochyn."
Ni all rhywun beidio a meddwl bod yma ddameg o Gymru . . .
Ymhlith Sipsiwn
Down i adnabod llu o gymeriadau - diflanedig erbyn hyn - cefn gwlad
yn y gyfrol ac o ddiddordeb arbennig i ddarllenwyr T芒n ar y Comin
y mae ei bennod am Sipsiwn a bod dau o gymeriadau'r nofel honno wedi
eu sylfaenu ar bobl go iawn.
". . . roedd yna ffin ddiadlam rhyngddom," meddai er gwaethaf pob
ymwneud.
"Pobl wahanol oeddem. Pobl tai oedden ni, a Romani oedden nhw. A nhw,
yn bennaf, fyddai'n cadw'r ffin. Er y byddai merched y sipsiwn yn
dod i ddrysau'r tai i ymgreinio ac i fegian, doedd yna rywsut, ddim
colli urddas yn y peth.
"Cefais yr argraff droeon eu bod yn eu cyfri eu hunain yn bobl
o waed purach - gwaed y Romani," meddai am y Sipsiwn.
Yn y bennod hon, hefyd, y mae ymdeimlad o gymdeithas a ddarfu - gyda
darn arall lliwgar o "dapestri prydferth ein cymdeithas bentrefol
ni" yn diflannu a'r tapestri o'r herwydd yn salach peth.
Tinc galar
Mae tinc galar yn ei eiriau: "Fy mhobol i! Maen nhw wedi mynd i gyd
bron - Cymry oedden nhw bob un - 'fy mhobl i' - a'r Gymraeg ar eu
gwefusau. Ac o ystyried y dirywiad cyson yn ansawdd yr iaith yn yr
oes sydd ohoni, mae'n siwr gen i fod tipyn o'r miwsig hwnnw wedi darfod
gyda nhw - a hynny am byth."
Ie, os yw rhywun yn ymwybodol o unrhyw beth wrth ddarllen y gyfrol
hon bod yn ymwybodol o'r effeithiau difaol hynny ar y gymdeithas Gymraeg
ydyw.
"Heddiw , yn ein hysgolion Cymraeg iaith gyntaf ni, mae'r plant o
aelwydydd Cymraeg yn y lleiafrif llethol. Dyna i chi mor bell mae'r
gorlifo wedi cerdded. Ac rwyf i wedi byw yn ddigon hen i weld y peth
yn digwydd," meddai.
Boneddigion yr Eisteddfod
Ond er yn galaru am y newid nid truth cwynfanllyd, pruddglwyfus mo'r
gyfrol hon gan ei bod yn rhwydo afiaith ac asbri y dyddiau gwell,
fel yn y bennod lle mae'n s么n am y tro ar fyd a ddaeth yn hanes cystadleuwyr
Eisteddfodol:
"A ydych wedi sylwi fel y mae eisteddfodwyr a chystadleuwyr mewn eisteddfodau
wedi mynd yn greaduriaid rhyfedd o ddof a pharchus. Y dyddiau hyn?"
hola.
"Go brin y clywn am neb yn gwrthdystio'n gyhoeddus nac yn dringo'n
herfeiddiol i'r llwyfan i brotestio, neu ymosod yn gorfforol ar y
beirniad. Yn wir, go anaml y clywn am neb 'wedi cael cam' bellach.
Mae rhyw foneddigeiddrwydd a rhyw oddefgarwch anniddorol wedi disgyn
dros holl faes cystadlu eisteddfodol," meddai gan fynd rhagddo i s么n
am ambell i ffrae a fflamiodd ar ddalennau ein papurau cenedlaethol.
Hoff o ddarllen
Hawdd gweld o'r gyfrol hon sut y daeth T. Llew yn gymaint storiwr
gan ei fod yn ddarllenwr mawr ei hun.
"Darllen a darllen a darllen degau a channoedd o lyfrau - Saesneg
yn bennaf - trwy flynyddoedd fy iengfyd a'm llencyndod, a hynny, rwy'n
meddwl, yn fy ngalluogi yn ddiweddarach i sgrifennu llyfrau fy hunan."
Gwrthodwyd iddo, fodd bynnag, fynediad i Goleg y Drindod - er i'r
Coleg hwnnw gallio drigain mlynedd yn ddiweddarach a'i ddyrchafu'n
Gymrawd.
Wedi ei wrthod, fe'i derbyniwyd yn pupil teacher mewn ysgol.
Bu wedyn yn gweithio gyda giang o nafis, yn gwympwr coed, yn weithiwr
swyddfa ac yn ddyn siwrin cyn dod maes o law wedi cyfnod yn y Dwyrain
Canol adeg y rhyfel yn brifathro ysgol.
A go brin y gellid dadlau i'r profiadau hynny fod yn well coleg nag
unrhyw sefydliad addysgol swyddogol iddo!
|
|
|