|
|
Tua'r
Gorllewin
Mentro yn y Merica
Mai 2003
|
Gwladychu'r Cymry yn yr American West gan Eirug Davies. Gwasg Carreg
Gwalch. 拢4.50
Adolygiad Dafydd Meirion
Llyfr ydy hwn ar hanes y Cymry a ymsefydlodd yn y Gorllewin Gwyllt,
er i'r cyfeiriadau yn bennaf fod ar daleithiau Minessota, Kansas,
Missouri, Oregon.
Beth am y Dakotas, Montana, Wyoming, Texas, Arizona?
Ond mae yna gyfeiriadau tuag at Batagonia, a thrwy'r llyfr mae s么n
am ymdrechion i sefydlu Gwladfa yn y fan honno.
Cymunedau Cymraeg
Penderfynu aros yn America wnaeth y rhan fwyaf o'r Cymry er bod yna
gryn bwysau arnyn nhw i fynd i'r de i sefydlu cymunedau Cymraeg.
Ac, yn wir, hyn a gwella safon byw oedd y cymhelliad i symud tua'r
gorllewin.
"Er bod llawer o'r ardaloedd [yn y dwyrain] mor Gymreigaidd ag unrhyw
le yng Nghymru, sylweddolwyd yn raddol na fedrai'r fath sefyllfa barhau
ac mai rhywbeth dros dro ydoedd. Yr ... oedd cymysgedd o bobl o bob
cenedl a dd么i i fyw'n gyson yn eu mysg ... a daeth awydd cynyddol
ar y Cymry i aros gyda'i gilydd."
Ac meddai y Cenhadwr Americanaidd: "Oni fyddai ... cael gafael
mewn dosran o ddaear dda ... i genedl y Cymry i'w gwladychu, lle cadwent
eu haith ... heb fod mewn tlodi a than y fath orthrwm ag y maent yng
Nghymru."
Pwy oedd yn iawn?
Ond tybed mai'r rhai ymfudodd i Batagonia oedd yn iawn? O leiaf, mae'r
iaith wedi para yn fan'no er nad yw'r trigolion mor gyfoethog yn faterol.
Ond, fel yn ein dyddiau ni, mi roedd yna ramant yn perthyn i'r America,
ac yn arbennig y gorllewin. Yn 么l D Humphrey a ymfudodd o Gymru i
Vermont:
"Da y cofiwn pan eto ond bachgenyn am y siarad mawr yng Nghymru am
ddyffryn anferth y Mississippi a'r awydd mawr a feddai y bobl am fyned
yno, yn enwedig i diriogaeth Wisconsin. Ifan Sion ... a ddywedai,
'Mi fysswn ina' yn leicio mynd i'r Wunsunconsun hwnnw'."
Tair ffordd o deithio
Ffermwyr oedd y rhan fwyaf a symudodd tua'r gorllewin. Ond nid pawb
allai fynd gan fod angen cryn dipyn o arian.
Roedd tair ffordd o deithio - Rownd yr Horn, ar draws wddf Panama
neu'r ffordd y cysylltwn ni 芒'r ymfudwyr - ar draws y peithdiroedd.
Roedd pob un o'r rhain yn costio rhwng $200 a $550 y pen! Roedd rhaid
cychwyn "mor gynnar yn y gwanwyn ag y byddo'r glaswellt wedi tyfu
digon i'r anifeiliaid ei bori" sef rhwng Ebrill 1 a Mai 1.
'Yn finteioedd'
"Gellir cymryd gwedd o ychain, o fulod neu geffylau. Dylid trafaelu'n
finteiodd o amgylch ugain o wagenni... Cymered gydag ef ddigon o ymborth
i bara ei holl daith, a hefyd baratoi ar gyfer damweiniau ac angen,
a gwneud ei lwyth mor ysgafn ag y byddo modd."
Y cwmn茂au tirol a gynorthwyai'r Cymry i symud tua'r gorllewin gan
drefnu iddyn nhw brynu tir wedi cyrraedd. Ac unwaith eto roedd angen
gryn dipyn o gelc (er yn sicr yn llai na fyddai ei angen yng Nghymru).
Byddai tai yn costio rhwng $130 a $260 i'w codi a ffensys $192 y filltir
a hyn yn ychwanegol i bris y tir. Roedd y cwmn茂au tirol hyn yn "cynghori
darpar ymsefydlwyr oedd yn brin o arian i beidio myned yn union ...
ond aros i weithio yn y Taleithiau Dwyreiniol nes ennill digon o arian
i gychwyn yn gysurus gyda'u ffermydd yn y Gorllewin".
Tir a thywydd
Ond nid arian yn unig oedd yn rhwystr. Roedd, hefyd, y tirwedd a'r
tywydd. Ceir cyfeiriad at "underbrush mor dew fel y buasai yn ofynol
i wnigen gael spectol cyn gweled ffordd trwodd". Ceir cyfeiriad at
gorwyntoedd a sychder a thywydd oer. Ond prin iawn yw'r rhain, a dyna
o bosib yw gwendid y llyfr. Does yna fawr o brofiadau personol o'r
anhawsterau oedd yn wynebu'r rhai oedd am "wladychu'r" Gorllewin Gwyllt.
Cyfeirio at ffermio yn bennaf y mae'r llyfr, ynghyd ag at ambell fasnachwr
wnaeth wella'i fyd yn sylweddol. Does ond un cyfeiriad at y ranchers,
a hwnnw oedd Walter Jones neu Cattle Jones, The Cattle Baron of Texas.
Does dim s么n am y Cymry 'cyffredin'.
Y rhai nad oedd ganddynt arian i ddechrau ffermydd, y cowbois nodweddiadol.
Does ond un cyfeiriad at Indiaid, a hynny:
"Nid yw bobl yn gallu dyrnu am fod yr Indiaid wedi dwyn eu ceffylau"
a hynny yn Minnesota ble cafodd rhai cannoedd o Gymry eu lladd a'u
hanafu yn ystod gwrthryfel y Sioux!
Un
cyfeiriad sydd yna, hefyd, at yr ymladd nodweddiadol o'r Gorllewin.
Does dim s么n am y Range Wars rhwng y gwahanol ffermydd mawrion, ac
mae'r unig gyfeiriad at ymladd yn dod o gyfnod cyn y Rhyfel Cartref
pan oedd dwy farn yngl媒n 芒 chaethwasiaeth yn Kansas.
"... yn gwylio y ffordd o'r gorllewin, y sefydlai ein gw媒r ein hunain
... Y bwledi a chwyrnellid o'u hamgylch fel cenllysg," ac mae'n debyg
bod unarddeg o ddynion oedd yn gwrthwynebu caethwasiaeth (fel oedd
y rhan fwyaf o'r Cymry) wedi cael eu lladd.
Dihirod Cymreig
Does yna ddim s么n chwaith am y dihirod Cymreig ar wah芒n i fwynwyr
Califfornia.
"Drwg gennyf ddweud fod llawer yn ymollwng i demtasiynau wedi dyfod
i'r wlad yma, rhai oeddynt yn aelodau heirdd mewn eglwysi pan gartref,
ond yma yn afradlonaidd; rhai pan gartref, oeddynt yn pregethu yr
efengyl, ond yma yn ymborth ym mhlith y moch a'r cibau." Braf fyddai
wedi clywed rhagor am y dynion 'diddorol' hyn!
Ond mae yma doreth o wybodaeth ddifyr a da eu bod wedi'u cofnodi.
Llyfr 92 tudalen ydy hwn ond dwi'n siwr fod yna lawer o wybodaeth
mewn dyddiaduron a chyhoeddiadau am anturiaethau a phrofiadau'r bobol
fentrus hyn. Dalied ati gan obeithio y cawn ragor gan Eirug Davies
ar y pwnc difyr hwn.
|
|
|