大象传媒


Explore the 大象传媒

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Hogyn Syrcas
Dihangfa mewn syrcas

Nofel gyntaf yn creu awydd am fwy

Awst 2003


Hogyn Syrcas, gan Mary Annes Payne, Gwasg Gomer, 2003, 82 tt. 拢4.95.
Adolygiad gan Grahame Davies.

Mae rhywbeth anfarwol am atgofion plentyndod. Yn aml iawn, nid y pethau arwyddocaol a gofir ond, yn hytrach, y manylion ymddangosiadol ddibwys - blas, arogl, swn.

Camp Mary Annes Payne yn Hogyn Syrcas yw iddi gyplysu ymwybyddiaeth plentyn gyda chrebwyll a dirnadaeth oedolyn wrth iddi ddarlunio plentyndod digon garw ei phrif gymeriad.

Nid yw broliant y clawr, na chwaith dudalen agoriadol y gyfrol, yn gadael ichi gredu mai rhyw fagwraeth Enid Blytonaidd y mae Geraint yn ei chael: "Y bastad bach" yw o i'w rieni.

Ac yntau'n blentyn cyfreithlon iddyn nhw! Dyn a wyr beth fyddan nhw wedi ei alw pe bai'n blentyn llwyn a pherth go iawn.

Alcoholig a breuddwydiwr

Mae mam Geraint yn alcoholig a'i dad yn freuddwydiwr mawr ei gynlluniau ond bach ei lwyddiant. Ac ar ben hynny, mae'r teulu i gyd yn cael eu hystyried yn garidyms gan weddill trigolion parchus Llwyn Berth, sy'n bentref dychmygol rhywle yng ngogledd orllewin Cymru, rywbryd, mi dybiaf, yn y chwedegau.

Darlunir profiadau Geraint yn gynnil iawn: "Be dw i'n gofio? Ogla saim chips a huddug, y fflamau'n dawnsio yn y gr芒t, fel fi'n dawnsio wrth beltan fy mam."

Caiff Geraint druan sawl peltan, yn llythrennol ac yn ffigurol, wrth i'r naratif symud yn ei flaen

. A rhaid yw canmol crefft yr awdures, sydd yn llwyddo i osgoi sentimentaleiddiwch a gormodedd ill dau wrth iddi lynu at bersbectif y plentyn yn effeithiol ac yn awgrymog o gryno drwy gydol troeon ei stori.

Celfydd ac argyhoeddiadol iawn hefyd yw ei defnydd o'r iaith lafar.

Gobaith mewn adfyd

Yr hyn a rydd obaith i Geraint yn ei adfyd yw'r syrcas a ddaw i'w gymuned bob hyn a hyn gyda sbloet o liw a rhamant, ac a ddaw'n symbol o ddihangfa ac o ryddid iddo.

Yr hyn a amharodd ryw ychydig ar fy mwynhad o'r nofel fach hon oedd y diweddglo, oedd, ar yr un pryd, braidd yn frysiog ei ddigwyddiadau ac yn rhy amhendant ei gynnwys emosiynol.

Gobeithio gweld mwy

Nofel gynta Mary Annes Payne yw hon, ac un a ddaeth yn agos at y brig yng Nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Nhyddewi yn 2003.

Rwy'n mawr obeithio y gwelwn fwy ganddi. Does dim dwywaith am ei chynildeb a sicrwydd ei gafael ar yr iaith lafar ac ar y grefft o ddarlunio awyrgylch, cymeriad a golygfa.

Wedi'r rhagflas hwn, edrychwn ymlaen at weld gwaith mwy estynedig a mwy uchelgeisiol fyth.

Cyfle i chi drafod llyfrau ebostiwch
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 大象传媒 Cymru'r Byd






About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy