|
|
Achub
y werin datws
Arbenigwr yn trafod arferion bwyta'r Cymry mewn llyfr newydd
Gorffennaf 2003
|
Doedd medd ddim yn un o ddiodydd cyffredin y werin Gymreig meddai
awdur cyfrol newydd ar faeth a bwyd - ond fe fu tatws yn waredigaeth
i'r genedl!
Gyda chymaint o gyfeiriadau at fedd yn ein barddoniaeth, ystyriwyd
medd yn ddiod gynhenid Gymreig bwysig ond yn 么l Dysgl Bren a Dysgl
Arian gan R. Elwyn Hughes, ymddengys mai prin iawn oedd yr yfed
ar fedd ymhlith trwch poblogaeth Cymru ar hyd y canrifoedd.
Uchelwyr yn unig
"Dim ond gan yr Uchelwyr yn y llysoedd yr oedd medd a m锚l mewn bri
- mae'n anodd credu fod medd erioed wedi bod yn ddiod gyffredin ymhlith
y werin Gymreig," meddai.
Ond dywed fod meddyglyn, sef medd gyda pherlysiau, yn ddiod
a yfid yn aml am resymau meddyginiaethol yng Nghymru.
Esbonir hefyd yn y llyfr bwysigrwydd bragod, sef cwrw wedi
ei felysu gyda m锚l, a diod griafol i hanes maeth y Cymry.
"O bosib mai diod griafol, a ddisgrifiwyd, oedd y ddiod fwyaf Cymreig
a mwyaf diddorol yn ein hanes," yn 么l yr awdur.
Astudiaeth fanwl
Dywed y Lolfa mai Dysgl Bren a Dysgl Arian yw'r astudiaeth
fwyaf manwl a chynhwysfawr erioed am hanes maeth ac arferion bwyta'r
Cymry yn cynnwys dros 300 tudalen o ffeithiau, ystadegau a dadansoddi
am arferion bwyta'r Cymry.
Mae pennod gyfan ar lyfrau coginio Cymraeg a phenodau ar fwydydd neilltuol
Gymreig, cynhaliaeth o fyd natur, arferion bwyta ac yfed y Cymry,
yn ogystal 芒 hanes y Sgyrfi yng Nghymru.
"Clefyd a gododd ei ben yn aml oherwydd undonedd y ddiet Cymreg a
diffyg fitamin C."
Diolch am datws
"Oni bai am ddyfodiad tatws rhwng 1750-1900 mae'n bur amheus pa nifer
ohonom fyddai ar 么l i drafod y materion hyn!" meddai R. Elwyn Hughes
a fu'n Ysgolor yn y gwyddorau naturiol yng Nghaergrawnt.
Daliodd swyddi biocemeg ym mhrifysgol Caergrawnt a phrifysgol Cymru
ac mae'n awdur nifer o gyhoeddiadau ar hanes maetheg a gwyddoniaeth.
Mae'n byw ym Mhentyrch. Dysgl Bren a Dysgl Arian : Nodiadau ar Hanes
Bwyd yng Nghymru gan R Elwyn Hughes. 拢14.
|
|
|