|
|
Pledu
Dei efo tatws
Ond mae Maldwyn yn lle mwyn!
Gorffennaf 2003
|
Maldwyn gan Cyril Jones - Cyfres Broydd Cymru. Gwasg Carreg Gwalch.
拢4.95.
Blas ar Fwynder Maldwyn. Golygydd, Heledd Maldwyn Jones. Gwasg
Carreg Gwalch. 拢6.50.
Dei Tomos yn cael ei bledu gan datws ar ei ymweliad cyntaf ag un o
aelwydydd enwocaf yr Urdd.
Dyna un o'r straeon difyr yn Blas ar Fwynder Maldwyn - cyfrol
o ysgrifau gan ddwsin o awduron wedi eu hel at ei gilydd gan Heledd
Maldwyn Jones.
Cyfrol sydd, yn 么 lei broliant, a'i diddordeb yng nghymeriadau rhadlon,
y rhan hon o Gymru a'u hiwmor agored.
Cyrraedd ar fotobeic
Alwena Francis, wrth sgrifennu am Aelwyd Penllys, sy'n dwyn i gof
helynt Dei Tomos a'r tatws.
"Cyrhaeddodd yno ar gefn ei fotobeic ar 么l taith oer ganol gaeaf o'r
Drenewydd. Erbyn iddo gyrraedd y Llan, roedd toriad yn nhrydan yr
Hen Ysgol - tywyllwch dudew a'r anwariaid ifanc wedi diflasu.
"Ond yng nghegin yr hen ysgol roedd sachaid o datws (gyda llaw - tatws
cinio plant yr ysgol a ddefnyddiai'r ystafell fel cant卯n).
"Yn eu diflastod, roedd cogiau'r Aelwyd wedi cael y syniad o gael
ffeit datws. Agorodd Dei'r drws i'w gael ei gyfarch gan storm o datws
a'i drawai o bob cyfeiriad. Tipyn o sioc i drefnydd ifanc yr Urdd!"
meddai Alwena.
Llon, difyr a difri
Mae Blas ar Fwynder Maldwyn yn gymysgedd hyfryd o'r llon a'r
difyr a'r difri. Y cyfranwyr ydi, Gwyn Erfyl, Penri Roberts yn s么n
am Theatr Ieuenctid Maldwyn; Ioan Roberts (Eleri Mills); Arfon Gwilym
(Y Blygain); Dai Hawkins (Enwau Lleoedd); Arwyn Groes Davies (rhigymau,
englynion a phenillion); Alwyn Hughes (gofaint a thaflu coits); Tegwyn
Pughe Jones (Gwylliaid Cochion Mawddwy); Elfyn Ellis (Teulu Penantwrch);
Nest Davies (cerdd, Y Dafodiaith) a Lona Jones (Si么n Rhydderch).
Agwedd hamddenol
Wrth gyflwyno'r gyfrol dywed Heledd Maldwyn Jones mai'r hyn sy'n ei
tharo hi fwyaf am drigolion Maldwyn yw "eu hagwedd hamddenol at fywyd."
Pobl ydyn nhw meddai hi sy'n "cymryd pwyll a pheidio a chythruddo"
gyda'u siarad linc-di-lonc a'u hacen feddal yn ategu hynny.
Mae ganddi ddarlun hyfryd i gyfleu'r hamdden tangnefeddus hwn.
"Ffarmwr - cymeriad lleol yn cerdded wrth ei bwysau i fyny'r buarth
mor gynnar yn y bore; cortyn beindar wedi'i glymu'n dynn o amgylch
gwasg uchel ei drowsus, a chap stabal ar osgo ar ei ben a drawai gysgod
dros llond g锚n o wisgars. Daliai sbrigyn o flodyn melys Erwain dan
ei drwyn gan fyn nghyfarch yn llon:
"Sud wyt ti heddiw'r bore, lodes? Doooow, mae'r blodyn 'ma sydd
yn y shetin 'na'n gwynto'n gl锚n. Dwi rioed wedi sylwi arno o'r blaen.
Bendigedig Lodes, bendigedig."
Yr oedd ef, meddai, ei wefreddio cymaint gan un o ryfeddodau natur
yr oedd wedi anghofio mai yno mewn cyfyngder yr oedd o, ei bicyp wedi
rhedeg yn sych o betrol ar y ffordd!
Tafodiaith
A dyna ninnau, hefyd, gyda'r stori fach yna, ar ein pennau yn nhafodiaith
hyfryd y fro a'r dafodiaith honno yn cael ei rhoi i'w lawn ddefnydd
mewn cerdd gan Nest Davies:
Myn giam i, mae'r oes wedi altro er gwaeth
Dwi'n recno, ar 么l cial rheole mor giaeth;
Ers talwm, byw'n ddeche fyny'r wtra fach gul
Yn y ffarm fechan bropor fu'n teulu's oes mul
ac yn y blaen.
Bod yn hi ei hun
I'r arlunydd Eleri Mills, lle i fod yn hi ei hun ydi Maldwyn.
"Petawn i'n byw mewn dinas fel Manceinion neu Lundain neu Gaerdydd
mi fasa rhywun yn edrach dros i ysgwydd o hyd ac yn cymdeithasu efo
arlunwyr eraill. Dwi ddim yn credu y baswn i'n gallu bod yn fi fy
hun cweit.
"Ond oherwydd 'mod i'n byw mewn lle mor bell oddi wrth y byd
celf dwi'n gallu bod yr hyn ydw i isio bod. Mewn lle fel hyn mae rhywun
yn rhan o'r gymdeithas. Mae'n ffrindia i yn cynnwys pawb. Dwi'n mwynau
hyn'na. Dwi'n mwynhau gallu gweld 'mod i'n byw mewn lle real, yn lle
byw mewn bybl o gelfyddyd.
"Mewn dinas mi fasa rhywun yn dewis ei ffrindia ac mi fasa rheiny
i gyd rywbeth yn debyg i'w gilydd.'
Cynnyrch beirdd
Creadigrwydd o fath arall sydd i'w weld yn y rhigymau a'r penillion
mae Arwyn Gro Davies wedi eu cywain ar gyfer ei ysgrif ef. Llawer
ohonyn nhw yn ffrwyth beirdd na chofnodwyd eu henwau ac yn gynnyrch
awen naturiol y gwladwr.
Tra bo cerrig ar Foel Bentyrch
tra bo dwr yn afon Bryncyrch,
tra bo derwen ar barc Llysun,
mi garai forwyn Maesllymystyn.
Mae awdur englyn trawiadol i'r falwoden yn hysbys, fodd bynnag, Robert
Robertsd, Cwmderwen, Cwm Nant yr Eira:
Ymlusgiaid lom hawdd i'w siomi - ydyw
'R falwoden lesg, ddifri,
heb asgwrn yn ymbesgi.
drwy ei chyrn yr edrych hi.
Arweinlyfr
buddiol
Ymateb personol yr ysgrifwyr i'w byd sydd yn Blas ar Fwynder Maldwyn
ond y mae y bymthegfed cyfrol yng Nghyfres Broydd Cymru yn gyflwyniad
mwy gwrthrychol a ffeithiol i Faldwyn gan Cyril Jones.
Unig fai cyfrol fel hon yw iddi gael ei chyhoeddi yn llawer rhy agos
at ddyddiad y Steddfod. Yn wir, yn yr Eisteddfod y bydd llawer yn
ei phrynu a hynny'n ei gwneud yn rhy hwyr iddi fod o'r budd mwyaf
i ymwelwyr 芒'r ardal.
Onid, felly, yr adeg i gyhoeddi cyfrolau y gyfres hon sy'n cyd-daro
ag ymweliadau Eisteddfodau cenedlaethol yw adeg cyhoeddi yr
eisteddfodau hynny?
Hynny yw, byddai hon wedi gweld golau dydd yn y Trallwng fis Gorffennaf
y llynedd ac un Mynwy bythefnos yn 么l yng Nghasnewydd ac ar werth
ar Faes Mathrafal eleni fel bo eisteddfodwyr yn gallu cynllunio eu
hymweliad fis Awst nesaf wrth eu hamdden a chael y budd mwyaf o'r
llyfr.
Mae Maldwyn wedi ei rhannu yn ardaloedd daearyddol hwylus ac
y mae nifer o luniau a mynegai.
Am lai na phumpunt mae'n arweinlyfr gwirioneddol werth chweil i ardal
braf a difyr sy'n ymestyn o Drefaldwyn i Fachynlleth ac o Langurig
i Langynog.
Gwefan Eisteddfod
|
|
|