|
|
Cymry'n
rheibio'r cefnforoedd
Llyfr newydd am f么r-ladron o Gymru
Ebrill 2003 |
The Book of Welsh Pirates and Buccaneers gan Terry Breverton Glyndwr
Publishing
Adolygiad gan Dafydd Meirion
Beth yn union ydy m么r-leidr?
Mae gynnon ni'n syniadau yn ein pennau am ddynion milain, meddw, lliwgar
a pharot ar eu hysgwyddau yn ysbeilio llongau ym M么r y Caribi.
Mae The Book of Welsh Pirates and Buccaneers yn cytuno 芒'r
darlun yma i raddau ac mae'r manylion am ddwsinau o f么r-ladron Cymreig
yn cadarnhau llawer o hyn. Ond ai rhai Cymreig ydyn nhw?
Yn y rhan fwyaf o achosion nodir mai o Gymry y d么nt, ond nid o ble'n
union na phwy'n union oedden nhw. Mae yma gapteiniaid a m么r-ladron
cyffredin, yn seiri ac yn llawfeddygon.
Dywedodd rhywun wrthyf rywbryd i Gymru gynhyrchu mwy o f么r-ladron
i bob milltir o arfordir nac unrhyw wlad arall yn y byd.
Cant o longau
Mae'r llyfr yma'n cadarnhau hyn. O'r pedwar m么r-leidr enwocaf, roedd
tri yn Gymry.
Harri
Morgan (y mwyaf llwyddiannus), Barti Ddu ("the most famous pirate
in history") a Howell Davies (The Cavalier Prince of Pirates).
A dywedir bod hanner mintai enfawr Barti Ddu unai'n Gymry neu'n dod
o orllewin Lloegr (ac ar un amser roedd ganddo gymaint 芒 chant o longau).
Ac mae yna s么n am y tri yn Treasure Island, Robert Louis Stevenson.
Galwodd un o gapteiniaid Llynges Lloegr Gymru yn "the nursery and
store-house of pirates".
Yn 么l un gwefan Americanaidd; yn y 1700au roedd tua hanner y m么r-ladron
o dras Gymreig, er mae un arall yn nodi mai ond 7% ohonyn nhw oedd
o'i gymharu 芒 35% yn Saeson.
Defnyddio Ynys Enlli
Ond pwy oedd y m么r-ladron hyn? Roedd y ffin rhwng y mor-ladr么n a'r
rhai mewn awdurdod yn un denau iawn. Roedd llawer o'r bonedd, os nad
yn f么r-ladron eu hunain fel y Buckleys o Fiwmaris a'r Myddletons o
Ddinbych, yn prynu oddi wrth ac yn gwerthu nwyddau i'r m么r-ladron.
Un o'r rhain oedd Syr Wyn ap Hugh o Fodfel, Ll媒n, gyda chanolfan ar
Ynys Enlli i werthu cig a grawn i'r m么r-ladron ac yn ei dro yn prynu'r
nwyddau yr oedden nhw wedi'u dwyn cyn belled 芒 Chaer.
Un arall oedd yn defnyddio Ynys Enlli oedd y m么r-leidr Thomas Prys
o Blas Iolyn, Eifionydd.
Ychydig iawn o hwyl g芒i'r awdurdodau ar ddal y m么r-ladron gan fod
eu 'cwsmeriaid' yn aml yn ustusiaid heddwch!
Dim dewis gan rai
Trachwant wnai i'r bonedd fynd yn f么r-ladron gan amlaf ond doedd gan
eraill ddim cymaint o ddewis.
Pan gipiai'r m么r-ladron longau ar y m么r mawr, roedd gan y criw ddewis;
unai fynd dros yr ochr neu ymuno 芒'r m么r-ladron er y dywedid na fu
i Barti Ddu erioed orfodi neb i ddod yn f么r-leidr.
Doedd hi ddim yn waith anodd perswadio llongwr cyffredin i ddod yn
f么r-leidr, bygwth neu beidio. Roedd amgylchaidau'n ddrwg iawn ar longau
masnachol a llongau'r llynges gyda'r bwyd a'r cyflog yn wael a chwipio
am nemor ddim.
Rhamant ac arian
Cynigiai'r m么r-ladron fywyd rhamantus a chyfle i ennill arian mawr
(byddai'r arian a ddygwyd yn cael ei rannu'n deg rhwng pawb) a digon
o rwm a merched!
Ac roedd llawer wedi cael eu gorfodi gan y press-gangs i fynd
i'r m么r beth bynnag.
Ond
mae yna s么n yn y llyfr am un llongwr o'r enw Richard Jones a wrthododd
ymuno 芒 Howell Davies yn India'r Gorllewin. Trawyd o 芒 chleddyf yn
ei goes cyn clymu rhaff am ei ganol a'i ollwng i'r m么r llawn siarcod.
Fu o fawr o dro cyn cytuno i ymuno 芒'r m么r-ladron.
Ond doedd dim gwaith perswadio trinwyr pysgod Newfoundland i ymuno
芒 Barti Ddu. Roedden nhw wedi cael eu cludo yno o orllewin Lloegr
gydag addewidion o well cyflog, ond wedi cyrraedd bu'n rhaid prynu
rwm i gadw'r oerni draw a chan mai'r meistri oedd yn gwerthu hwnnw,
doedd ganddyn nhw ddim digon o arian i fynd yn 么l adref.
Roedd cynnig Barti Ddu o gyfoeth a thywydd cynnes y Caribi yn ormod
iddyn nhw ac mi ymunon nhw'n rhesi.
Llond bol ar ei wraig!
Dywedir bod y bonheddwr Stede Bonnet wedi mynd yn f么r-leidr am ei
fod wedi cael llond bol ar ei wraig yn swnian arno!
Geiriau'r m么r
Dechreua'r llyfr, fodd bynnag, gyda rhestr o dermau'r m么r-ladron (neu
dermau longwyr i fod yn gywirach). Rydyn ni'n gyfarwydd 芒 pieces
of eight; darnau arian o Sbaen oedd y rhain a'r ffigur wyth arnyn
nhw, gafodd ei addasu'n ddiweddarch yn arwydd y doler ($).
Ond mae yma, hefyd, darddiadau enwau a dywediadau sydd wedi dod yn
rhan o'r iaith Saesneg erbyn hyn. Er enghraifft, bamboozle
yn arferiad gan Sbaenwyr yn 17eg ganrif o ddangos baneri ffug i guddio'r
ffaith mai Sbaenwyr oedden nhw, a chock-a-block yn disgrifio
dau tackle block mor agos fel na allen nhw symud. Y chock
oedd yn dal nwyddau'n sownd i'r dec pan oedd y m么r yn arw.
Ond o feddwl mai llyfr am f么r-ladron Cymreig yw hwn ac mae'n sicr
bod nifer ohonyn nhw'n siarad Cymraeg (mae s么n am rhyw Gapten Owen
yn "called to Phillip the Welshman and to the other Welshmen, speaking
in Welsh..." wrth ymosod ar long o Lydaw ger Ynysoedd Sili), does
yna'r un term Cymraeg yma.
Yr agosaf yw gammy sy'n dod o'r gair Cymraeg cam yn
么l yr awdur.
Cywyddau Cymraeg
Ond mae yna ddyfyniadau o gywyddau Cymraeg sgrifenwyd gan Tomos Prys,
Plas Iolyn, ac eraill.
Yna cawn restr o'r m么r-ladron Cymreig gan ddechrau gyda'r rhai cyntaf,
yn bennaf yn y 15fed ganrif, er mae'n nodi mai William Marsh oedd
y cyntaf yn 13eg.
Er mai Gwyddel oedd o, roedd ei ganolfan ar Ynys Wair ym M么r Hafren.
Tenau iawn yw'r manylion am rai - ychydig frawddegau'n unig, - ond
mae'r pwysicaf yn cael tudalennau lu. Caiff Harri Morgan 53 tudalen,
Barti Ddu 67 a Howell Davies 47, a dyna o bosib yw un o wendidau'r
llyfr gan y buasai golygu llymach wedi'i wneud yn llyfr llawer mwy
darllenadwy.
Ar hyn o bryd, dydy o ond catalog a thair pennod hir.
Ond rhaid dweud bod darnau a ffeithiau difyr iawn yma. Gwyddom am
orchestion yfed y m么r-ladron, ond mae'n debyg mai Barti Ddu oedd yr
unig lwyrymwrthodwr yn eu plith; roedd yn well ganddo baned o de!
Ac mae'r awdur yn honni mai'r Cymry oedd a ddyfeisiodd strip-tease
wedi i un o ddynion Harri Morgan, y Capten John Morris, dalu 500
pieces of eight i ferch dynnu amdani o flaen ei gyd-forwyr!
Byddai wedi ei chael iddo'i hun am ddegfed rhan y swm yma!
Gwneud cryn argraff
Mae'n amlwg i'r Cymry wneud cryn argraff fel m么r-ladron, yn gapteiniaid,
yn gefnogwyr ac yn f么r-ladron cyffredin (os oes yna'r fath beth yn
bod), a da bod yr awdur wedi mynd ati i gofnodi hyn. Ar y cyfan mae'n
llyfr difyr iawn, ond rwy'n siwr y gellid crynhoi'r ffeithiau perthnasol
i lyfr llawer llai o.
Ac am y clawr? Mae gyda'r salaf a welais ers blynyddoedd, er yn amlwg
iddo gostio gryn dipyn i'r cyhoeddwyr. Mae'n debycach i rywbeth o'r
saithdegau. Y 1970au nid y 1770au yn anffodus.
A beth yw'r gwahaniaeth rhwng pirate a buccaneer? Rhaid
ichi brynu'r llyfr i ddarganfod hynny.
Llyfr i'w bori yn hytrach nag un i'w ddarllen o glawr i glawr. Ond
i unrhyw un 芒 diddordeb mewn m么r-ladron, mae'n llyfr gwerth ei gael.
|
|
|