大象传媒


Explore the 大象传媒

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb



Straeon
chwaraeon

Pum stori gyda blas mwy arnyn nhw


Mehefin 2003

Tipyn o Gamp 1. Golygydd, Delyth George. Gwasg Gomer. 拢4.50

Adolygiad gan Dylan Puw Rees.

Casgliad o bum stori am chwaraeon i rai rhwng naw a 13 gan bum awdur gwahanol, Elin Meek, Mair Wynn Hughes, Helen Emanuel Davies, Emily Huws a Meleri Wyn James.

Yn Diwrnod Ola'r Rali cawn hanes Carwyn a'i dad yn mynd i Bencampwriaeth Ral茂o'r Byd.

Tydi ei dad fawr o isho mynd ac mae'n fwy cyndyn o fwynhau pan yn sylweddoli fod un o'r gyrwyr, Paul Roberts, yn gyn ddisgybl iddo yn yr ysgol, ac yn un drwg hefyd.

Yn y rali mae Paul yn curo o bell ffordd ond mae'n cael damwain ac mae'r car yn mynd i ffos.

Mae Carwyn a'i dad yn gweld hyn ac yn helpu ac mae Paul yn mynd ymlaen i ennill y ras. Ond wrth ddreifio i ffwrdd mae car Paul yn taflu mwd dros dad Carwyn ac mae'n gwylltio ac yn mynd adref.

Y noson honno mae Paul yn s么n am ei fuddugoliaeth ar y teledu ac mae'n diolch yn gyhoeddus i Carwyn a'i dad. Mae hyn yn plesio tad Carwyn yn ofnadwy ac mae'n ail feddwl am Paul yn enwedig pan yw'n cael llythyr o ddiolch ganddo a gwahoddiad i weld y ffatri geir!

Yn Pwy yw'r Gorau? mae Meic yn caru beicio cefn gwlad ac mae ei dad yn cael beic ail law iddo. Ond mae pawb arall hefo beic modern newydd sbon a neith y beic ail law ddim mo'r tro, neu felly mae Cai yn feddwl,

'Does ganddo fo ddim gobaith efo'r rhacsyn yna, yn nac oes, bois?'. Ond ar waetha y beic ail law, a sbeit Cai, mae'r ddau yn gorffen hefo'i gilydd ond Meic sy'n ennill y ras!
Gewch chi ddyfalu pam.

Hanes Anna sydd yn Y Cochion am Byth! Mae Anna yn aelod o d卯m p锚l droed sy'n cael cyfle i fynd i chwarae i Stadiwm y Mileniwm. Ond mae'r dyddiad yn croesi efo dyddiad g锚m arall mae hi wedi addo mynd i edrych arni gyda'i thaid.

Gan fod ei thaid yn ddall Anna sydd yn sylwebu iddo. Mae Anna yn siomedig nad yw hi'n gallu mynd ond yn gorfod mynd efo'i thaid. Ond yn y g锚m honno mae sylwebydd proffesiynol yn clywed Anna ac yn cynnig iddi hi sylwebu ar g锚m Cymru.

Mae Anna wrth ei bodd ac mae hi, ei thaid a Ceri ei ffrind yn cael mynd i Stadiwm y Mileniwm wedi'r cyfan.

Yn Pilipala yn y Bola mae Jodi yn dda yn nofio str么c pili pala ac mae'n ennill y gala. Mae ei thad yn gweld fod ganddi dalent ac mae'n gwneud iddi godi yn gynnar i fynd i nofio ond ar 么l ychydig o wythnosau mae Jodi wedi blino ar hyn ond mae ei thad yn ei gorfodi.

Un diwrnod mae'n dweud wrth ei thad ac mae o'n sylweddoli ei fod wedi bod yn ei gwthio ac yn dweud fod ddrwg ganddo.' Dy fywyd di ydi o, wedi'r cyfan.'

Yn y stori olaf, Chwarae Teg!, mae Mici a Laura yn dadlau pwy yw'r p锚l-droedwyr gorau, bechgyn yntau merched. Oes modd cytuno?

Y stori wnes i fwynhau fwyaf oedd Y Cochion am Byth!
Dwi'n chwarae p锚l droed fy hun ac yn gwybod pa mor bwysig ydi medru chwarae efo'ch t卯m chi bob tro.

Roeddwn i yn gweld Anna yn dda iawn wrth ei thaid, ac wrth gwrs mae hi'n cael gwobr am hynny yn y diwedd.

Mae yna rywfaint o'r da yn ennill y dydd ym mhob un o'r straeon a dwi'n meddwl fod y ffordd mae'r awduron yn defnyddio digwyddiadau chwaraeon i ddangos hynny yn llwyddiannus.

Y stori wnes i ei mwynhau leiaf oedd yr olaf, Chwarae Teg! - stori ryfedd a braidd yn anodd i'w deall wrth i'r amser yn newid a mynd yn 么l ac ymlaen.

Mi wnes i fwynhau darllen y llyfr yma. Roedd o'n apelio at rywun fel fi sydd ddim yn darllen llawer am fod y straeon yn fyr ac wedi eu lleoli ym myd chwaraeon.

Gan mai Tipyn o Gamp 1 ydi'r teitl dwi'n gobeithio y bydd yna un arall reit fuan.



Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 大象传媒 Cymru'r Byd






About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy