|
|
Hen
gyfaredd -
ac R S Thomas yn chwarae coets!
Profiadau awdur a ddychwelodd i fro ei dadau
Dydd Iau, Ionawr 9, 2003
|
Llain yn Llyn gan Arfon Huws. Gwasg carreg gwalch. 拢4.95.
Adolygiad gan Ioan Mai Evans
Llais pensaer wedi ymddeol i Fwlchtocyn ar benrhyn Llyn, cynefin ei
hynafiaid sydd yma. Llais a'm sgytwodd o ddarllen un o'i sonedau,
Llyn 2050, lle mae'n proffwydo
estron gyn yn sgythru ar lechen las
The last to speak Welsh dwelt in this house
Pa ryfedd fod yr halen ar fy moch
Wrth loetran ym Mhen Cei yn Abersoch
Llinellau a roddodd imi hergwd ymhell yn 么l i Gernyw lle gweir bedd
yr olaf i siarad y Gernyweg. Fy atgoffa hefyd o ddarllen Y Wers
Ola gan Daudet a'r pnawn y rhois fy nhroed ar Ynys Clare yn ne
Iwerddon a chael fy nghyfri'n estron nes iddynt synhwyro mai Cymro
oeddwn.
Dychwelyd i dir ei dadau
Er i'r awdur, Arfon Huws, gael ei eni yn Lerpwl a graddio gydag anrhydedd
mewn Pensaerniaeth yng Nghaerdydd, rhoes ei fryd ar ddychwelyd i wlad
ei dadau yn Llyn.
Ymddeolodd yn 1988. Trodd at farddoni ac ysgrifennu ac hefyd ymdaflu
i waith fel ysgrifennydd Cyfeillion Llyn, aelod o Ymddiriedolaeth
Ynys Enlli a hefyd o lys a chyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ac o
Orsedd y Beirdd.
Does ryfedd felly fod ei gyfrol yn cynnwys cant o gyfansoddiadau yn
amrywio o englynion i limrigau a rhyddiaith.
Teimla, weithiau, ei fod yn alltud yn ei wlad ei hun:
Er hynny, ar fyr ennyd
Af yn 么l i'r fan o hyd
oedd ei ddeisyfiad.
Dro arall teimlwn ei fod, fel Saunders Lewis, yn galw ei gyfeillion
- y Prifardd o Gilan, Alan Llwyd, a'i ddwyster o golli cenedlaetholwr
fel Herbert Thomas, Ficer Llannor, Gladys Williams, Riffli
O wirfodd, ei hoes hirfaith - a dreuliodd
Yn drylwyr i'w mamiaith,
neu gofio Anita Griffith
yn estyn ei dwyster
dros weundir Rhoshirwaun
hyd niwlen Anelog
a sawl un arall.
Di-dderbyn wyneb
Cawn ambell deitl fel Eto Fyth yn ddadlennol a di-dderbyn wyneb:
Yn Abersoch bu rhyw s么n - am rinwedd
Marina i Saeson
Gwyliwn swyn y cynllwynion
I elwa'n yr hafan hon.
Mor annwyl fydd Marina - i'r rhai
Sy'n rhydd i segura
Daw anobaith diweithdra
Ar y d么l ar 么l yr ha.
Llwyddodd dro arall i fod yn ddigon digrif wrth stwffio pedair C i
un limrig:
Dwy LL yn Llanelli - dim trafferth,
Dwy A yn Y Bala - dim penbleth
Dwy S yn Caersws
Ond o'r ffasiwn ffws
I ganfod sawl C sydd yn Cricccieth.
Seigiau o ryddiaith
Trowch at y seigiau o ryddiaith sydd yn y gyfrol.
A oedd y bardd R. S. Thomas, yn deithiwr mor aflonydd 芒'r brenin Arthur?
Feddyliais i erioed am y peth nes darllen y darn Chwarae Coets
lle mae s么n am Goeten Arthur nid nepell o gartre'r bardd
ar un adeg, islaw llethrau Mynydd y Rhiw.
Ond beth a symbylodd RS i gychwyn Cynghrair Chwarae Coets yn
Llyn?
Dyma agwedd cwbl newydd ar fywyd R. S. Thomas a chof da gan yr awdur
am y noson yn chwarae coets ar gae ysgol yn Llyn.
"I sicrwydd bu RS yn taflu coets cyn y noson ond ni chawsom wybod
ymhle na pha bryd.
"Cododd fymryn ar ei 锚n a chyffyrddodd awel ysgafn ei wallt am
eiliad. Cadwodd ei fraich yn syth ac fe ysgythrwyd yr eiliad ar fy
nghof am byth.
"Nid ydyw darlun olew Thomas Jones, Pencerrig, sy'n crogi ar
fur yr Amgueddfa Genedlaethol yn gwneud cyfiawnder o gwbl 芒'r ddelwedd
o'r bardd Cymreig. Yno, ar gae chwarae'r ysgol ym Mhen Llyn y gwelwyd
hwnnw," meddai.
Cyfrol ddiffuant
Dyma gyfrol ddiffuant na allaf i ond ategu cyflwyniad y diweddar Gruffudd
Parry iddi:
"Mae'n gweld arwyddoc芒d ehangach y cynefin cyffredin ac yn, a thrwy'r
cyfan, yn crisialu ei Gymreictod a'i Fyw, yn sicr ei grefft ac yn
glir ei welediad.
"Cyn hyn doedd Sgubor Ddegwm yn ddim ond enw ar gartref
y teulu ym Mwlchtocyn. Bellach, mae holl bryderon ac ofnau y bygythiad
am ddifodiant cenedl ynddo. A dyna gamp celfyddyd.
"
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|