大象传媒


Explore the 大象传媒

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y nofel
Merch mewn
corff bachgen

Penbleth a thro yn nofel ddiweddaraf Mihangel Morgan


Pan Oeddwn Fachgen gan Mihangel Morgan. Y Lolfa. 拢5.95.
Adolygiad gan Elin Wyn Davies


Rwyf wedi bod yn dipyn o ffan o waith Mihangel Morgan ers sawl blwyddyn. Ers imi fod yn un o'i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth am wn i.

Felly fe wyddwn yn iawn, wrth eistedd i lawr i ddarllen ei nofel diweddara' Pan Oeddwn Fachgen, nad o'n i am gael amser rhwydd.

Disgwyl yr annisgwyl

Pori trwy'r tudalennau gyda meddwl agored yn disgwyl tipyn o grafu pen, a dod wyneb yn wyneb 芒'r annisgwyl - dyna, dybiaf i yw'r ffordd orau i fynd ati i ddarllen nofelau'r awdur hwn.

Dydi Pan Oeddwn Fachgen ddim yn eithriad. "Hanes magwraeth bachgen yn ne-ddwyrain Cymru'r chwedegau?" yw'r disgrifiad a geir yn y broliant ar gefn y llyfr gyda'r marc cwestiwn yn codi penbleth i ddechrau.

Nage stori bachgen yn ne-ddwyrain Cymru yn y chwedegau sydd yma? Nage .. ac fe ddaeth hyn yn gliriach wrth imi ddechrau darllen.

Mewn gwirionedd, hanes merch fach wedi ei geni mewn corff bachgen sydd yma (wedi'r cwbwl "...yr unig beth sy'n neud i ti fod yn fachgen yw'r cwt rhwng dy goesau.")

Mae'n teimlo'n wahanol, ac mae pawb yn ei drin (neu ei thrin?) yn wahanol. Mae'n dyheu i gael chwarae gyda'r merched, ond mae'r crwt yn gwybod y caiff ei fwlio yn waeth am wneud hynny...

"Ti'n lico ambell un o'r merched a licet ti whare 'da nhw ond 'set ti'n neud hynny 'sa'r bechgyn yn d'alw di'n sisi ... 'set ti'n whare da'r merched bob dydd 'sa dy fywyd ddim gwerth ei fyw ... felly ti'n sefyll mewn cornel ... yn gobeithio na fydd neb yn sylwi arnat ti." Creulondeb

Creulondeb a diniweidrwydd

Mae creulondeb yn amlygu ei hun yn aml yn y nofel .. bwlio ymysg y plant a chreulondeb cymdeithas. Ond mae yma ddiniweidrwydd annwyl hefyd, sy'n cadw gw锚n fach gynnil ar wyneb y darllenydd ond ar yr un pryd yn teimlo siom dros y prif gymeriad.

Mae'r prif gymeriad yn brwydro gyda'i rywioldeb yn Pan Oeddwn Fachgen.

Mae'n gwybod mai merch y dylai fod .. mae hyd yn oed wedi clywed ei fam ei hun yn dweud hyn droeon ... ac mae'n teimlo'n gyfforddus pan mae'n gwisgo dillad ei chwaer fawr ar y slei ...

"... am unwaith dyw pethau ddim yn teimlo'n rong o gwbwl. Rwy't ti'n gwisgo'r bais am ryw ddeng munud ac am bob eiliad ohonyn nhw tydi dy hun wyt ti ..."

Cael ei fwlio

Mae yma stori drist, caiff y 'bachgen' ei fwlio gan ei gyfoedion, am fod yn sisi ond mae yma wrthdaro rhwng y Cymry a'r di-Gymraeg hefyd. Yma, mae'r bachgen bach yn cael ei fwlio yn yr ysgol am fod yn "Welshie" .

"...amser whare neth y bechgyn hwyl ar dy ben di a rheteg ar dy 么l di rownd yr iard yn d'alw di'n little Welsh poncey pansy ac yn jocan siarad Cymrag: Ychi-wychi-pyll-pyll-chpwt, ac yn pwyri arnat ti."

Ond, does neb yn deall, ac mae'r unigrwydd a'r arwahanrwydd yn ei fwyta'n fyw. Mae'n well gan y bachgen bach orwedd o dan wely ei fam, heb symud trwy'r dydd, na mynd yn 么l i'r ysgol.

Sgrifennu medrus

Mae'r nofel wedi cael ei hysgrifennu yn fedrus iawn yn yr ail berson, yn bennaf, fel llif meddwl y plentyn ac heb benodau pendant ond yn llifo i mewn i'w gilydd gan fy atgoffa o un o fy hoff nofelau Cymraeg, Un Nos Ola' Leuad. Roedd hyn yn gweithio'n reit dda, yn fy marn i.

Tafodiaith anghyfarwydd

Mae'r nofel wedi ei hysgrifennu yn nhafodiaith y de Ddwyrain, ac mae Mihangel Morgan ei hun yn dweud yn ei ragair ei fod yn ceisio atgynhyrchu yr iaith fel yr oedd hi yn ei ieuenctid.

Ond er i'r awdur ddweud iddo geisio peidio 芒 defnyddio iaith sy'n rhy ddieithr i'r darllenwr, mae'n siwr gen i y gall y 'caletu' parhaus o eiriau beri pen tost i rai sy'n anghyfarwydd 芒'r dafodiaith.

Fe ddown ar draws geiriau fel "cwnnu", "yn nhre", a "nisied" yn gyson trwy'r nofel.

Mae yma ddisgrifiadau sy'n aros yn y cof - er enghraifft, y bachgen yn cyd-gerdded i'r ysgol gyda Paul sydd wedi pasio ei eleven plusond y prif gymeriad wedi methu ...

Mae'n nhw'n cerdded "fel arfer, ochor yn ochor. Ond mae cyfandir wedi codi rhyngoch."

Disgwyl am y tro

Wrth feddwl n么l am y nofel, cofiaf deimlo ei bod ychydig yn undonog a'r stori'n llusgo wrth imi ddisgwyl y tro yn y gynffon sy'n nodweddiadol o Mihangel Morgan

Ac yna fe ddaeth y tro hwnnw .. a chydag ef y crafu pen.

Mae yma nifer o gwestiynau yn dod i'r meddwl:
Gyda pwy y mae'r awdur yn siarad yn y diwedd?
Beth sydd wedi digwydd go iawn i'r bachgen bach?
Beth yn union yw'r berthynas rhyngddo ef a Linda sy'n byw gyferbyn?
Yn sicr mae'r diwedd yn tanseilio popeth oedd yn mynd trwy'r meddwl yn ystod y nofel.
Tybed a yw'r awdur yn ceisio bod yn rhy glyfar, er mwyn bod yn wahanol?

Yn anffodus dydi'r diwedd ddim yn taro deuddeg i mi.

Nid ei hanes ef

Mihangel MorganMae Mihangel Morgan, (mewn erthygl yn Golwg) wedi disgrifio'r nofel fel 'un hunangofiannol', ac eto mae'n gwadu mai ei stori ef sydd ynddi.

Mae'r teitl yn sicr yn awgrymu hynny, ac mae'r awdur yn gwbwl agored ei fod yn hoyw ac yn dod o dde Ddwyrain Cymru.

Ond stori pwy bynnag yw hi, mae'n un drist ac yn un deimladwy.

Darllenwch hi ar bob cyfri, ond cymerwch fy nghyngor a disgwyl yr annisgwyl, Chewch chi mo'ch siomi.

Ond os ydych chi'n ffan o waith Mihangel Morgan .. byddwch chi'n disgwyl hyn beth bynnag!

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 大象传媒 Cymru'r Byd






About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy