|
|
Sgwrsio
difyr
Beti George yn holi, tywys a chornelu
Chwefror 2003
|
Beti a'i Phobol - 1. Addasiad llyfr o'r sgyrsiau radio. Golygydd,
Ioan Roberts. Gwasg Carreg Gwalch. 拢6.50.
Un peth a'm synnai i byth a hefyd tra'n newyddiadura oedd parodrwydd
pobl cwbl ddieithr i rannu cynnwys eu ciarpad bag â chwi.
O fewn munudau, weithiau, yn barod i rannu cyfrinachau personol efo
person na welson nhw mohono erioed o'r blaen nes iddo gnocio ar eu
drws y diwrnod hwnnw.
Er nad ydw i fy hun felly o gwbl cefais achos i ddiolch fwy nag unwaith
mai felly y mae cymaint o bobl.
Un arall sy'n siwr o fod yn ddiolchgar am y gynneddf ryfeddol hon
mewn pobl ydi Beti George.
Digon o'r difyr
Tyfodd ei chyfres radio hi, Beti a'i Phobol, yn rhyw fath o
sefydliad cenedlaethol erbyn hyn ac y mae'n gyfres a all ymffrostio
yn y ffaith i'r sgyrsiau difyr fod yn llawer iawn mwy niferus na'r
rhai - wel ddwedwn ni ddim anniddorol ond cyffredin.
Dros y blynyddoedd bu rhai sgyrsiau mor ddadlennol nes bod yn ysgytwol
ac ni ellir ond rhyfeddu at barodrwydd pobl i ymgymryd 芒'r math yma
o ysgarthiad cyhoeddus.
Ni ellir anwybyddu rhan yr holwraig yn yr alcemi hwn ac yn y gyfrol
hon mae hamdden i sylwi cyn lleied y mae Beti George ei hun yn ei
ddweud yn ystod y sgyrsiau. Gan amlaf, porthwraig ydi hi yn hytrach
na holwraig gyda dawn ddihafal i hudo'r gwrthrych i ddatgelu'r peth
yma a'r peth arall.
脗'r gyfres yn mynd ers cymaint o flynyddoedd mae'n rhywfaint o syndod
na fyddai cyfrol fel hon wedi ei chyhoeddi cyn hyn.
Dewis deg
Y deg sy'n cael yr anrhydedd o gychwyn yr hyn a fydd, does bosib,
yn gyfres, yw:
Clive Rowlands y dyn rygbi;
Mel Williams, dyn camera a oedd yn dyst i Fedi 11;
Eldra Jarman, sipsi;
R. S. Thomas, y bardd, offeiriad a chenedlaetholwr;
Wynford Jones, dyfarnwr bocsio a cherddor;
Mel F么n, swyddog gyda'r Urdd;
Orig Williams, reslar;
Meima Morse, gweinidog;
Ali Yassine, actor a
T. Llew Jones y bardd a'r llenor.
Ymgomwyr difyr
Wrth gwrs byddai rhywun yn disgwyl i rai fel Orig a T. Llew fod yn
ymgomwyr difyr ond y mae gan y lleill eu straeon hefyd.
Clive Rowlands wedi brwydro yn erbyn canser, Wynford Jones nid yn
unig yn gallu cyfuno y cain a'r hyn sy'n ymddangos yn ffyrnigrwydd
gyda'i gariad angerddol tuag at gerddoriaeth a bocsio ond yn asio'r
ddau.
Ni allai rhywun a oedd yn Efrog Newydd ar y Medi'r unfedarddeg ofnadwy
yna ond bod a rhywbeth diddorol i'w ddweud ond yr un mor ddiddorol
yw profiad Mel F么n a fu ar riniog ei farwolaeth ei hun yn dilyn damwain
car ddifrifol.
Allan o'i gorff
Mae ei sgwrs yn gymysgedd o'r iasol, yr ysgytwol a'r rhyfeddol wrth
iddo edrych yn 么l a chofio'r teimlad o fod wedi colli'r frwydr am
ei fywyd ei hun.
"Dwi'n cofio meddwl amdanaf fi'n codi o 'nghorff ac o'n i tua ugain
i dri deg troedfedd uwchben y fan yn sb茂o'n 么l i lawr, yn sb茂o ar
siacedi melyn y paramedics yn gweithio arnaf fi. Cofio gweld y dail
yn wyrdd ac yn llachar, llachar, ac yn gweld fod yr awyr yn las, las,las
. . ."
Gwaith hela
O bosib mai'r mwyaf gwahanol os nad anoddaf o'r holedig rai
yw R. S. Thomas gyda Beti yn gorfod gwneud mwy i gwrso a chornelu
yn wyneb atebion sy'n ymylu weithiau ar fod yn unsill.
Yma, nid yn unig mae digon i fyfyrio drosto a chymeriad digon gwahanol
a chymhleth i'w ddadansoddi ond hefyd mae'r broses o'i hela yn un
ddiddorol ynddi'i hun.
Pleser peltan
Ni ellid cael mwy o wrthgyferbyniad o safbwynt parodrwydd i siarad
a mynd i hwyl ac ysbryd yr achlysur nag Orig Williams gyda'i ddawn
ddihafal i dynnu ac i bryfocio a dweud pethau mawr.
"Ydach chi 'di cael y teimlad rioed o roid peltan go iawn i rywun
ar 'i drwyn?" medda fo gan fynd rhagddo i ymhelaethu am
y gwir bleser y mae hynny'n ei roi;
"Mae o'n deimlad da, Beti . . . cerwch chi allan ar y stryd a rhowch
chi gelpan iawn i rywun ar 'i drwyn, fyddwch chi wrth eich bodd .
. . Saff o fod," meddai.
Gan ychwanegu:
"Dos gin i'm llawar o ymennydd fy hun, wedyn dydio'm yn effeithio
dim arna' i wrth gael peltan yn 么l."
A does yna'r un pwnc nad oes ganddo farn arno:
"Pwrpas llyfr ydi neud o'n ddealladwy. A 鈥檓a pobol y Celfyddydau
'ma a phobol yr Eisteddfod, ma nhw fatha Moses yn dod i lawr hefo'r
Deg Gorchymyn o fynydd Sinai. Roedd Moses yn bwysig yr amser honno,
oedd y gyfraith gynno fo, yn cael i darlledu yn fyd-eang. Oedd hi'n
iawn i Moses fod yn bwysig, ond ma'r rhain i gyd mor bwysig ag oedd
Moses."
Beti: Ie ond ma鈥檔 rhaid cael'l pobol fel hyn hefyd does e?
"I be? I be ma' nhw'n da?"
Labelu pobol
Y mae'r sgwrs gydag Ali Yassin yn mynd 芒 ni i dir arall eto ac yn
un sydd mor berthnasol heddiw a phan ddarlledwyd y sgwrs yn Ebrill
1993.
Wedi ei eni yng Nghaerdydd mae Ali Yassin yn Gymro ond a'i wreiddiau
yn sicr yn "ddwfwn yn yr Aifft a Somalia".
Gall ef edrych ar leiafrif diwylliannol mewn ffordd wahanol i'r rhelyw
ohonom.
Mae'n ymwybodol iawn o'r labelu sy'n bod ar bobl:
"Faswn i byth yn deud bod John Major (y prif weinidog ar y
pryd) er enghraifft yn cynrychioli y Cristnogion ym Mhrydain. Wel,
mae'n od iawn i weld rhywun fel Gaddahafi ar y newyddion, y peth cyntaf
ti'n clywed yw i fod e'n Foslem . . . a Saddam Hussein hefyd."
Na, mae'r duedd barod i bardduo rhai yn 么l eu crefydd yn un sinistr
a dweud y lleiaf.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|