|
|
Deddf
electronig
Deddf newydd er mwyn ychwanegu at gasgliadau llyfrgell
Chwefror 2003
|
Bydd
y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn gwylio gyda diddordeb hynt
Mesur Preifat a gyflwynir yn y Senedd yn Llundain fis Mawrth.
Os yn llwyddiannus, bydd y Mesur gan Chris Mole yn galluogi'r Llyfrgell
i hawlio copiaui'r Llyfrgell o unrhyw ddefnyddiau electronig a gyhoeddir
yng Nghymru, Prydain ac Iwerddonl.
Print yn unig
Dan ddedf gwlad fel ag y mae yn awr ni all y Llyfrgell ond hawlio
copiau o ddefnyddiau printiedig. Nid oedd y fath beth a chyhoeddi
electronig yn bod pan basiwyd y ddeddf sy'n awr mewn grym yn 1911..
Gyda'r bwlch hwn yn y Ddeddf mae peryg i sefydliadau fel y Llyfrgell
Genedlaethol a'r Llyfrgell Brydeinig golli moroedd o wybodaeth bwysig
a fydd ond ar gael yn electronig.
Rhagwelir cynnydd rhyfeddol mewn cyhoeddi o'r fath rhwng hyn a 2005
- o 52,000 o gyhoeddiadau i 193,000.
Mae Mesur Mr Mole am sicrhau fod gan y Llyfrgell Genedlaethol, y Llyfrgell
Brydeinig a phedair llyfrgell arall yr hawl i gopi o bob peth cyhoeddiedig
ar bapur ac yn electronig.
Brwd iawn
"Yr ydym yn frwd iawn ynglyn â'r Mesur," meddai Non
Jenkins, pennaeth yr adran sy'n derbyn y cyhoeddiadau hyn yn y Llyfrgell.
Ond ychwanegodd y byddai'r newid yn ychwanegu at waith yr adran a
chreu'r angen am fwy o adnoddau i ddelio a'r holl ddefnyddiau newydd
a fyddai'n dod i law.
Eglurodd fod defnyddiau electronig yn amrywio o bethau fel CDs i gylchgronnau
arlein a dalennau gwe.
Canmolodd gyhoeddwyr yng Nghymru am eu cydweithrediad hwy hyd yn oed
cyn iddynt ddod dan orfodaeth deddf gwlad.
Oesoedd tywyll
Wrth bwysleisio pwysigrwydd ei fesur dywedodd Mr Mole sy'n cynrychioli
Ipswich: "Yr ydym angen deddfwriaeth yn awr i ddiogelu rhan allweddol
o dreftadaeth gyhoeddedig y genedl.
"Rhaid inni sicrhau na fydd yr unfed ganrif ar hugain yn cael
ei hadnabod yn y dyfodol fel yr oesoedd tywyll gyda chofnodion a data
arwyddocaol ar goll oherwydd nad oedd rhai ffurfiau yn cael eu casglu
a'u diogelu."
Dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru, fod y Deyrnas
Gyfunol yn llusgo ar 么l rhai gwledydd eraill yn barod a bod pawb sydd
芒 diddordeb yn y maes yn cefnogi'r hyn sydd y tu 么l i fesur Mr Mole.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|