|
|
Bardd
y Bae
Cymru newydd - gwerthoedd oesol
Mehefin 2003
|
Y Bae, gan John Emyr (Gwasg Gomer, 拢7.50. tt119).
Adolygiad gan Grahame Davies
Tan yn ddiweddar iawn, tiriogaeth ddigon anghyfarwydd fyddai Bae Caerdydd
i lenorion Cymraeg.
Ond gyda dyfodiad datganoli, dyma'r Bae a'i dirnodau - adeilad y Pier
Head, yr Eglwys Norwyaidd, y Cynulliad ei hun - yn sydyn reit yn dod
yn gymaint rhan o'n tirlun cenedlaethol ag yw Pont Hafren neu gopa'r
Wyddfa.
Rhan o'r symudiad hwnnw yw'r gyfrol newydd hon o gerddi gan John Emyr,
gyda'i theitl Y Bae, yn ei lleoli yn gadarn yng Nghymru newydd y flwyddyn
2003.
Mae'r clawr, gyda'r llun o adeilad y Pier Head, yn tanlinellu cyfoesedd
y lleoliad, lleoliad sydd yn gyfarwydd iawn i John Emyr, ac yntau
yn olygydd Y Cofnod, sef y record o weithgareddau ein fforwm democrataidd
newydd.
Serch hynny, nifer gymharol fach - saith allan o ryw 80 o gerddi -
sydd yn cael eu corlannu yn neilltuol i'r adran arbennig o'r llyfr
sy'n rhannu teitl y gyfrol. Presenoldeb llawer mwy sylweddol yn y
llyfr yw'r adrannau ar Gorthrwm, Teulu, Natur, Ffydd a Cherddi Eraill,
er bod lleoliad y brifddinas yn amlwg yn rhai o'r rheiny hefyd.
Yr
hyn sy'n taro rhywun yng ngherddi'r gyfrol hon yw bod yma feddwl a
ffurfiwyd gan rai o brif ffrydiau y traddodiad Cymraeg - llengarwch,
brogarwch a chrefydd efengylaidd - yn delio gydag amodau Cymru'r mileniwm
newydd lle mae cyfoeth newydd ar un llaw yn bodoli ochr-yn-ochr â
thlodi.
Ceir awgrym o hyn yn y gerdd 'Dewch Adre i'r Bae' lle dywedir:
Brysiwn i siarad 芒'n cyf-fforddolion
Ar yr uwch-draffordd gwybodaeth,
Ond ofnwn gymdogion y trothwy
yn nieithrwch clos eu hen fyd.
Cyfeiriad yw hwnnw at y cymunedau o frodorion y Bae y mae eu hen gynefin
bellach yn cyfochri gyda byd dipyn yn fwy llewyrchus pobl y Cynulliad.
Ceir cerdd hefyd yn nes ymlaen yn y gyfrol, 'Pobl y Stryd', lle mae
cydwybod gymdeithasol y bardd yn cael ei phigo wrth iddo helpu i fwydo'r
digartref mewn festri capel yng nghanol y ddinas. Hen reddf gymwynasgar
yn delio 芒 hen broblem sy'n bodoli yng nghanol newydd-deb "Prifddinas
ieuengaf Ewrop".
O ran cywair, ni all rhywun ond cynhesu at y diffuantrwydd hoffus
a'r didwylledd amlwg drwy'r gyfrol gyfan.
O ran arddull, y mae'r bardd yn codi i'r tir uchaf ym myd y canu caeth.
Dyma berl o englyn, 'Mwyara:
Er mor dew yw'r mwyar duon - yn hedd,
Eu llonyddwch ffrwythlon;
O fewn tir y fynwent hon,
Mwyara ni wna'r meirwon.
Ac mae eraill llawn cystal.
Peth braf yw gweld yn y gyfrol hon fod traddodiadau a chyneddfau cymdeithasol
a chrefyddol yr hen Gymru yn dal yn ffrwythlon yn nhir y Gymru newydd.
|
|
|