大象传媒


Explore the 大象传媒

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb



Cym
Bwyl

Beirdd Cymru
yng Ngwlad Pwyl

Mawrth 2003

'Potrzebna zar贸wka', meddai bardd 'Golau yn y Gwyll'
(Gwyl Gymraeg Lublin, Gwlad Pwyl: Mai 6 - 22, 2003)

"Dwi angen bylb golau!" - oedd geiriau cyntaf y prifardd Ifor ap Glyn wrth gyrraedd maes awyr Warszawa.

O hynny ymlaen, nid oedd dianc rhag y brawddegau hap-farddol a dynnwyd o fwydlen, arwydd ffordd neu graffiti, ac unwaith i Mei Mac ddysgu mai 'piers z kurczaka' yw 'brest cyw i芒r' yn y Bwyleg, a bod modd creu cynghanedd Lusg wrth ddefnyddio ei enw ei hun, dechreuodd y ras i lunio'r englyn cyntaf mewn iaith Slafeg.

Blas o Gymru

Roedd gan y prifeirdd waith difrifol i'w wneud, hefyd, sef darlithio ym Mhrifysgol Gatholig Lublin er mwyn dod 芒 blas o Gymru a'i diwylliant i fyfyrwyr yr Adran Astudiaethau Celtaidd.

Ifor ap Glyn yn darlithioGyda Mei ac Ifor 'roedd Arwyn Davies, y bardd carismatig 芒 llais hudolus o Ddolanog, ac yn ystod dau ddiwrnod o ddarlithoedd, cyflwynwyd gan y tri rychwant eang iawn o destunau, syniadau, cerddi a chaneuon, yn eu dulliau ffraeth, unigryw eu hunain.

Doedd dim diffyg Cymraeg rhwng y beirdd a'u cynulleidfa ac roedd nifer fawr o'r myfyrwyr yn awyddus iawn i sgwrsio - yn iaith y Cymry.

Mil o filltiroedd

Mynegwyd tipyn o syndod gan y teithwyr fod myfyrwyr ifainc o Lublin mor rhugl, ar 么l blwyddyn neu ddwy yn unig o gyrsiau iaith.

Roedd ymateb Mei Mac yn arwyddocaol:
"Hyn oll ar 么l dwy flynedd o waith dysgu - a hynny fil o filltiroedd o Gymru! - mae rhai wedi bod yng Nghymru ei hun ers mil o flynyddoedd, ac yn methu creu dwy frawddeg!"

Nos Iau, y gyrchfan oedd yr hen ddinas ganoloesol i gynnal noson o gerdd a ch芒n yn nhafarn 'U Szewca' (Tafarn y Crydd). Noson o wladwriaethu gwrthdroadol' oedd hi, a'r dafarn, fu unwaith yn 'British Pub' heno'n atseinio'n Gymraeg.

Go brin i unrhyw dafarn yng Nghymru weld gwell noson Gymraeg erioed: o'r braidd y gwelwyd pall ar berfformio'r beirdd, ac ar y caneuon Cymraeg a Gwyddeleg a ganwyd gan y Pwyliaid i gyfeiliant git芒r ac organ geg.

Peint yn ddiweddarach

Erbyn hyn roedd y beirdd yn dechrau cael tipyn o hwyl ar yr iaith Bwyleg, a newidwyd teitl sawl cerdd a ch芒n er mwyn medru ymarfer:
'Ja jestem facetem z brzuchem' wrth gwrs oedd 'Y fi yw'r boi efo'r bol', ond peint neu ddau yn ddiweddarach cafwyd 'Wiew贸rka jest w lod贸wce!', sef 'Mae gwiwer yn yr oergell!'

Hwn oedd y trydydd tro o fewn blwyddyn i feirdd o Gymru ymweld 芒'r Brifysgol yn Lublin a'r ail dro i Mei Mac ddiddanu'r dinasyddion - flwyddyn yn 么l fe'i gwahoddwyd ef a'r Prifardd Iwan Llwyd i'r ddinas ac i Kazimierz, tref hanesyddol gerllaw; ac ym mis Hydref cafwyd ymweliad gan Grahame Davies a David Greenslade, yn ogystal 芒'r Athro M. Wynn Thomas o Brifysgol Cymru, Abertawe, i gynnal amryw weithgareddau llenyddol a chelfyddydol.

Yng nghanol y gweithgareddau bob tro hefyd bu Sabine Heinz o Ferlin, yr academydd a'r cennad Cymreig syfrdanol o ymroddgar, a'r British Council yn cynorthwyo'n ariannol.

Dyfodol i'r heniaith yn Lublin

A fydd yr heniaith yn parhau yn Lublin? Barn Aled Llion, darlithydd yn y Brifysgol a threfnydd y Gwyliau, yw y bydd.

"Gyda chymaint o waith arbennig o dda wedi ei wneud gan ein gwesteion, mae proffeil yr iaith yn uwch nag erioed, a does dim rheswm pam na ddylai'r Adran Astudiaethau Celtaidd hon, sy'n unigryw yng nghanolbarth Ewrop, fedru parhau i fod yn gyfrwng i hybu ymwybyddiaeth o Gymru, ei hiaith a'i diwylliant.

Llofnodi i edmygwyr"Mae'r gwaith yma yn dangos fod pobl yn awyddus iawn i ddysgu am Gymru, ac yn hapus iawn i fanteisio ar gyfleon i wneud hynny. Mae'n ardderchog sylwi bod diwylliant Cymru yn dechrau dylanwadu ar lenorion ac artistiaid eraill yn yr ardal, ac felly'n ymgyfoethogi'r amrywiaeth sydd yma.

"Mae'r cyfnewidiadau yn fodd hefyd i gyfoethogi diwylliant Cymru hefyd - mae'n braf fod cerddi Pwylaidd eu naws eisoes wedi dechrau ymddangos gartref, yn dilyn teithiau cynharach.

"Er mai Iwerddon yw 'brawd mawr' y gwledydd Celtaidd o ran proffeil rhyngwladol, mae gan Gymru hithau lawn cymaint i'w rannu 芒 diwylliannau eraill, ac mae gennym yr adnoddau celfyddydol a dynol i wneud hynny gystal 芒 neb.

"Wrth i Wlad Pwyl baratoi i ymuno 芒'r Uneb Ewropeaidd, mae'n amser arbennig o dda i geisio ehangu'r cysylltiadau rhwng ein gwledydd. Hyfryd meddwl fod y Brifysgol yn Lublin ar flaen y gad yn hynny o beth, a gobeithiaf y gallwn ddatblygu'r gweithgareddau a'r cysylltiadau yn y dyfodol."

Ffilmiau Cymraeg

Yn dilyn llwyddiant yr w^yl farddol, cafwyd cyfle i fwynhau wythnos o ffilmiau Cymraeg yn sinema 'Chatka Zaka' yn y ddinas, ac 'roedd yr ymateb i honno'n fendigedig, meddai Aled:
"O 'Hedd Wyn' i 'Solomon a Gaenor', ac o 'Un Nos Ola Leuad' i 'Oed yr Addewid', heb s么n am 'Gogs', cafodd y gynulleidfaoedd eu synnu gan y ffilmiau sydd wedi dod allan o Gymru, a sinema Cymru ymhlith y rhai lleiaf adnabyddus yn Ewrop.

"Mynegwyd syndod wrthyf sawl tro fod cymuned ieithyddol o hanner miliwn yn medru creu ffilmiau o'r fath safon. Mae'n bleser mawr gen i - gyda chydweithrediad S4C - fedru dangos y ffilmiau hynod hyn yn Lublin yn ogystal 芒 mewn lleoliadau eraill yng Ngwlad Pwyl."

A do, mi lwyddodd Aled ac Ifor i lunio englyn yn y Bwyleg, heb fod ynddo s么n am na bylb golau na gwiwer:

Jak w Lublinie Jest

Jak zar dla mnie, jak zurek - jak piwo,
Jak powiem, jak w贸dek;
Jak 'gyros', jak og贸rek,
M贸j los to tutaj m贸j lek.





Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 大象传媒 Cymru'r Byd






About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy