|
|
Argyfwng
llyfrau Eingl Gymreig?
Llyfrau Saesneg am Gymru yn gwerthu cyn lleied a chan copi
Ebrill 2003 |
Y mae un o ffigurau amlycaf llenyddiaeth Eingl Gymreig wedi cyhuddo
cyhoeddwyr yng Nghymru o beidio a gwneud digon o ymdrech i werthu'r
llyfrau Saesneg am Gymru y maen nhw'n eu cyhoeddi.
Mewn
ymosodiad hallt dywedodd Meic Stephens, a oedd ar un adeg yn swyddog
llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ac sy'n awdur nifer o lyfrau
Saesneg yn ymwneud 芒 Chymru, fod rhai llyfrau Eingl Gymreig yn gwerthu
cyn lleied a 100 copi oherwydd esgeulustod cyhoeddwyr.
'Yn druenus o sâl'
Taniodd ei ergydion cyntaf mewn erthygl yn y Western Mail a
rhoddodd ail gynnig arni ar Raglen Gwilym Owen ar 大象传媒 Radio
Cymru, Mawrth 31.
Gydag ef ar y rhaglen yr oedd Gwerfyl Pierce Jones, pennaeth Cyngor
Llyfrau Cymru, y corff sy'n hyrwyddo gwerthiant llyfrau Cymraeg ac
Eingl Gymreig.
Er nad oedd hi am wadu fod sail i gyhuddiadau Meic Stephens dywedodd
fod cynlluniau ar y gweill i wella pethau a chroesawyd hynny gan Mr
Stephens.
Dywedodd Mr Stephens iddo lunio ei erthygl pan ofynnwyd iddo egluro
pam nad yw awduron o Gymru yn adnabyddus y tu hwnt i Glawdd Offa.
"Ac yn fy marn i, un rheswm yw nad yw ein cyhoeddwyr yn marchnata
eu llyfrau yn ddigon da - yng Nghymru a'r tu allan i'n gwlad," meddai
gan ychwanegu fod gwerthiant rhai llyfrau Saesneg am Gymru "yn
druenus o sal" o'r herwydd.
Dim ond tri chyhoeddwr a ganmolwyd ganddo, Ashley Drake, Partheon
a Gwasg Carreg Gwalch.
Grantiau'n gwneud drwg?
Wrth ymhelaethu awgrymodd mai un rheswm pam y mae cyhoeddwyr yn gorffwys
ar eu rhwyfau yw fod y drefn o grantiau cyhoeddi yng Nghymru yn golygu
nad ydyn nhw'n debyg o wneud colled waeth pa mor ychydig o lyfrau
a werthir.
Yn wyneb hynny, dywedodd: "Mae yna le i ofyn y cwestiwn a ydi grantiau
yn beth da - mae grantiau yn talu costau cynhyrchu felly does yna
ddim incentive wedyn i farchnata a gwerthu - dyna'r argraff
yr ydych chi'n ei gael wrth edrych ar y ffigurau," meddai.
Ychwanegodd fod llyfrau a gyhoeddir gan weisg nad ydynt yn derbyn
grantiau yn tueddu i werthu'n well.
"Y gwir yw," meddai wrth Gwilym Owen, "fod gan y gweisg gymhorthdal
enfawr gan y Cyngor Llyfrau a chan Gyngor y Celfyddydau ac maen nhw
i fod i farchnata eu llyfrau yn well a dydw i ddim yn gweld eu bod
nhw'n gwneud hynny - dyna ddagrau pethau yn fy marn i," meddai.
Mynd ar goll
Tra'n
cydnabod nad yw llyfrau Saesneg am Gymru "yn cyrraedd y farchnad maen
nhw'n ei haeddu" dywedodd Gwerfyl Pierce Jones fod nifer o resymau
yn gyfrifol am hynny gan gynnwys y ffaith fod y nifer fechan o lyfrau
Cymreig sy'n cael eu cyhoeddi "yn mynd ar goll yng nghanol y dorraeth
Saesneg sydd ar gael yn gyffredinol."
Y canlyniad yw fod llyfrau Eingl Gymreig yn ei chael yn anodd ennill
eu lle ar silffoedd siopau sy'n gorfod dewis beth i'w stocio o blith
rhyw 100,000 o lyfrau newydd Saesneg sy'n cael eu cyhoeddi bob blwyddyn.
"Mae gennych chi broblem creu y galw am y deunydd yma yr ydym ni yn
teimlo'n gryf iawn drosto fo," meddai.
Dywedodd fod y sefyllfa yn fwy cymhleth nag a awgrymai Mr Stephens.
Beio'r system addysg
"Mae'r darlun yn llawer mwy cymhleth ac yn ymwneud 芒'r angen i greu
galw am y deunydd sydd ar gael a dydi hi ddim yn deg rhoi y bai ar
y cyhoeddwyr yn unig am hynny," meddai.
Rhaid, meddai hi, i'r gyfundrefn addysg hefyd ysgwyddo peth o'r bai
am y diffyg diddordeb sydd yna mewn sgrifennu Eingl Gymreig a holodd
faint o bobl ifainc sy'n mynd trwy'n hysgolion a'n colegau heb wybod
dim byd am yr awduron hyn.
"Ym Mhrifysgol Cymru hyd yn oed heddiw mae'n bosib ichi astudio Saesneg
a gwneud gradd yn y Saesneg heb wybod dim am y llenorion (Eingl Gymreig)
yma," meddai.
Llunio strategaeth
Yr oedd ganddi hi hefyd lygedyn o obaith y gallai pethau wella gan
ddweud fod "y diwydiant drwyddo draw" erbyn hyn yn trafod sut mae
symud ymlaen i wella pethau a llunio yr hun a alwodd yn "strategaeth
marchnata gytun".
"Mae hwnna yn gam ymlaen yn fy marn i," meddai.
"Mae'r ffaith eu bod nhw'n fodlon dod at ei gilydd a thrafod yn beth
da," meddai. "Mae'n amlwg fod angen llawer mwy o adnoddau ond dydio
ddim jyst yn fater o adnoddau mae'n rhaid i bob sector gydweithio
yn well," meddai gyan gyfeirio at gyhoeddwyr, llyfrwerthwyr, llyfrgelloedd
a chymdeithasau awduron.
Ond ychwanegodd mai'r hyn sy'n hanfodol allweddol yw creu diwydiant
cyhoeddi llawer iawn cryfach yng Nghymru.
"Rwy'n credu mai'r sialens fawr i ni fydd trio cryfhau y diwydiant
- a dyna'r nod," meddai.
|
|
|