|
|
Rhyfeddodau
dan y gwely ac ar y fferm
Dau lyfr i blant
Mawrth 2003 |
Beth sydd o dan y gwely? gan Mick Manning a Brita Granstorm
- addasiad Cymraeg gan Elin Meek. Gasg Gomer a'r Cyd-bwyllgor Addysg,
拢4.99.
Guto a Gwyn ar y Fferm gan Adrian Reynolds . Addasiad Cymraeg
gan Helen Emanuel Davies. Gwasg Gomer. 拢4.95.
Adolygiadau Gwyn Griffiths ac Alaw
Beth sydd o dan y gwely?
Mae'n
swnio ychydig fel y g芒n honno am "y pren ar y bryn a'r bryn ar y ddaear
a'r ddaear ar ddi-im ..."
Dim ond mai tuag at i fyny mae'r g芒n honno yn mynd.
Tuag i lawr mae'r llyfr i blant Beth sydd o dan y gwely? yn
mynd.
Taith i'r byd dirgel o dan ein traed - neu o dan y gwely gan ddibynnu
ble rydych chi'n byw, wrth gwrs.
Nid pawb sydd a'r fath gyfoeth o ryfeddodau o dan eu cartrefi.
Mae'n dechrau gyda'r llwch o dan y gwely a'r creaduriaid pitw annifyr
sydd yn byw yn y fflwff a'r croen sych. Yna o dan y llawr lle mae'r
gwifrau trydan a'r pibellau dwr - a nyth llygoden!
Lawr dan y ty wedyn at wreiddiau'r coed, y mwydod a thrychfilod, morgrug,
ffosiliau, trenau tanddaearol, ogofau ac ynddyn nhw ddarluniau dyn
cyntefig ar eu muriau ...
Wn i ddim at ba oed yn union mae'r llyfr wedi ei anelu. Mae'r clawr
yn awgrymu plant oddeutu pump ond y cynnwys yn amlwg ar gyfer plant
ychydig yn hynach na hynny.
Mae'n llyfr deniadol, ardderchog i riant i'w ddarllen i blentyn rhwng
pump ac wyth oed - mewn sefyllfa un i un.
Tebyg y bydd plant ychydig yn hynach yn ei fwynhau - dim ond eu darbwyllo
nhw i'w agor.
Mae'r syniadau a'r eirfa yn eithaf soffistigedig er y clawr plentynnaidd
- ond nid oes ynddo ddigon o wybodaeth i fod yn gyfeirlyfr mewn llyfrgell
dosbarth. .
Guto a Gwyn ar y Fferm
Gofynnais
i Alaw, bump oed, am help gyda Guto a Gwyn ar y Fferm a dyma
ei barn:
"Mae'r clawr yn dda achos rwy'n hoffi chwiaid bach. Mae'r pwll chwiaid
wedi sychu yn yr haul a mae'r chwiaid yn mynd i chwilio am ddwr ac
mae Guto, Gwyn a Tad-cu yn gorfod mynd i chwilio amdanyn nhw.
"Roeddwn i'n poeni bod y chwiaid bach ar goll ond yn hapus pan ddaeth
Gwyn a Guto o hyd iddyn nhw. Fel rwy'n teimlo pan mae fy nhedi melyn
yn mynd ar goll a wedyn rwy'n ffeindio fe a rhoi cwtsh iddo fe.
"Roedd yn hwyl cyfrif y chwiaid bach i weld a oedd y bechgyn wedi
ffeindio nhw bob un.
"Rwy'n teimlo bo fi eisie byw yn y wlad nawr.
"Mae'r llyfr yn ffantastig a bydda i'n dweud wrth Olive a Georgia
ac Owain, fy ffrindiau yn yr ysgol amdano fe."
|
|
|