|
|
Eglwys
Llangadwaladr
Eglwys hynafol gyda mwy nag un trysor
Ebrill 2003 |
Nid carreg Cadfan yw'r unig beth sy'n gwneud Eglwys Llangadwaladr
yn hynod.
Y
mae yn yr eglwys hon, sy'n pontio tair canrif ar ddeg, hefyd un o'r
ffenestri lliw sy'n cael ei cyfrif gyda'r hynotaf a'r harddaf yng
Nghymru - rhywbeth braidd yn anghyffredin mewn eglwys ddiarffordd
ym mherfeddion cefn gwlad Mon
Credir i'r ffenestr gael ei gosod yn ei lle fel arwydd o ddiolch am
ddychweliad uchelwr lleol yn ddianaf o frwydr Bosworth yn 1485.
Yn gywrain o ran ei harlunwaith nid oes gan neb amcan, fodd bynnag,
pwy oedd yr arlunydd a fu wrthi mor ddiwyd ym mherfeddion y Fam Ynys
yr un adeg ag yr oedd da Vinci a Michael Angelo wrth eu gwaith yn
yr Eidal.
Wrth gwrs doedd yr eglwys ddim mor ddiarffordd ar un adeg - dim ond
ychydig filltiroedd i ffwrdd yr oedd llys brenhinoedd Gwynedd yn Aberffraw
a thebyg mai hwy a gododd addoldy yma yn y seithfed ganrif.
Ar werth yn yr eglwys y mae llyfryn dwyieithog yn rhoi ei holl hanes
wedi ei sgrifennu gan Morfudd Jones, gweddw y Parch Robert Eifion
Jonesa oedd yn rheithor yno rhwng 1964 a 1977.
"Y mae hanes diddorol a thrysorau amhrisiadwy yn perthyn i Eglwys
Sant Cadwaladr, yn pontio tair canrif ar ddeg," meddai hi - er
na fyddai'r sawl sy'n prysuro yn ei gar drwy'r pentref bychan yn sylweddoli
hynnyu.
Mae'r eglwys ger croesffordd lle mae'r B4422 o'r A5 yn ymuno a'r A4080
o Falltraeth i Aberffraw ond hawdd fyddai mynd drwy'r pentref heb
sylwi arni a hithau rywfaint o'r golwg mewn coed.
Darganfyddwyd
carreg Cadfan yn nhir yr eglwys ond y mae bellach wedi ei hymgorffori
yn y mur gogleddol oddi mewn i'r adeilad gyda'r ysgrifen yn dal yn
ddarllenadwy o graffu arni.
Mae'n ddiddorol nid yn unig oherwydd ei hoed a'r ysgrifen arni ond
hefyd am mai hi yw'r garreg gynharaf y gwyddom amdani sy'n dwyn y
groes Gristnogol.
Erbyn hyn mae yna gopi o Whispering Reeds ar gael yno ond nid
yw hwnnw ar werth nac yn yr eglwys ei hun ond yn y cyntedd ar gael
i ymwelwyr edrych arno.
Mae
awyrgylch arbennig i'r lle oddi mewn ac oddi allan lle mae'r fynwent
yn gyforiog o friallu a llygaid y dydd yn mwynhau haul y gwanwyn i
gyfeiliant brain eithriadol o swnllyd sy'n nythu yn y coed gerllaw.
Hanes Eglwys Sant Cadwaladr, Llangadwaladr gan Morffudd Jones. Ar
werth yn yr eglwys am £3.
|
|
|