´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
´óÏó´«Ã½ Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Adloniant
Ffilm
Llais Llên
Radio Cymru
C2
Theatr
Ffeil

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cymeriad Wil Sam yn Hen Win Doniolwch a sylwedd

Profi nad oes angen i ddoniolwch fod yn sothach nac i sylwedd fod yn dywyll

Dydd Iau, Hydref 17, 2002
• Adolygiad Ioan Roberts o gynhyrchiad Bara caws o Fel Hen Win

Neuadd lawn, difyrrwch pur, a chwyno ar y diwedd fod y sioe’n rhy fyr.

Dau Wil Sam - hwnna ydio!Profiad anghyfarwydd, meddan nhw i mi, yn hanes y theatr Gymreg y dyddiau hyn, ond fel yna’r oedd pethau yn Neuadd Cricieth pan berfformiodd Theatr Bara Caws Fel Hen Win, rhaglen deyrnged i Wil Sam wedi ei sgwennu a’i chyfarwyddo gan Valmai Jones.

Felly y dylai pethau fod, wrth gwrs, yn y dre lle bu W.S.Jones yn bwrw’i brentisiaeth fel dramodydd a lle ganwyd Ifas y Tryc.

Y fwyaf beirniadol

Roedd y ffaith fod pawb yn gyfarwydd â’r dafodiaith a’r hiwmor, ac ambell gyfeiriad at gymeriadau lleol, i gyd yn help ond hon hefyd oedd y gynulleidfa fwyaf beirniadol.

Gyda Wil Sam ei hun yn y gynulleidfa roedd hi’n anodd peidio barnu perfformiad Maldwyn John yn ôl ei debygrwydd i’r gwrthrych, ar draul popeth arall. Anos fyth oedd cau perfformiadau taranllyd Stewart Jones allan o’r meddwl wrth i Jonathan Nefydd geisio gwneud cyfiawnder ag un o sgriptiau mwyaf adnabyddus John Ifas Drefain.

Tramp, Dynas, Person a Phlisman

Roedd sgript Valmai Jones yn wead crefftus o ddarnau o ddramau Wil Sam gyda’u cymeriadau di-enw fel Tramp, Cyrnol, Person a Plisman; darnau ‘hunangofiannol’ wrth i fersiwn Maldwyn John ohono sgwrsio efo Dynas (Mari Wyn Roberts) oedd â’i bryd ar fod yn sgwenwraig; a sgetsus yn darlunio penodau yn ei fywyd.

Roedd y gynulleidfa wedi dechrau rhyfeddu cyn i’r un actor ymddangos, gan fod y model cardbord o W.S ar ganol y llwyfan mor anhygoel o ‘fyw’. Technoleg, hwnna ydio.

Awen ar fotobeic

Roedd yr un gamp yn y golygfeydd ffilm ar sgrin, a’r olygfa pan ymddangosodd ‘Awen’ fel duwies ar foto beic, a diflannu mewn cwmwl o fwg.

Ond cryfder Wil Sam ydi geiriau, ac er i ambell un o’r rheini fynd ar goll yn y llefaru, ar y cyfan mi lwyddiodd yr actorion a enwyd, ynghyd â Dyfrig Wyn Evans, i wnaed cyfiawnder â’r llinellau byrlymus.

Y darnau cryfaf oedd y rhai hunangofiannol lle llwyddodd Valmai Jones i greu cameos gafaelgar trwy ychwanegu’r mymryn lleiaf o liw at brofiadau Wil Sam.

Doniolwch heb sothach

Dwyster ei argyhoeddiad yw sail llawer o’r profiadau doniolaf, fel yr adeg pan gafodd ei arestio am lifio arwydd, a’r heddlu’n meddwl iddyn nhw ddal yr enwog Sam Jones o’r ´óÏó´«Ã½.

Dyma noson oedd yn dangos nad oes oes raid i ddoniolwch fod yn sothach disylwedd, nac i sylwedd fod yn dywyll ac uchel ael.

Mae ‘na wers yn fanna, ac nid i’r theatr yn unig.

• Beth ydi'ch barn chi?

Ebostiwch
i ddweud

Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy