Troi ffeithiau caled yn ddrama
Adolygiad Glyn Jones o Porth y Byddar gan Manon Eames.
Mae hanes boddi Capel Celyn yn ddigwyddiad mor gyfarwydd fel y gall Cymru gyfan adrodd yr hanes yn ei chwsg.
Deallodd Manon Eames hyn a deallodd hefyd fod yn rhaid iddi gyflwyno'r stori ar newydd wedd - gan wneud mwy na dweud stori. Yn ei geiriau ei hun:
" . . . dydi ffeithiau caled ddim yn creu drama."
Hepgor dim
Aeth y ddramodwraig i'r afael a'r broblem hon mewn tair ffordd.
Yn gyntaf, tanio ffeithiau diddorol i gadw sylw'r gynulleidfa gan fynd a ni ar wibdaith drwy ddegawd mwyaf cythryblus ac arwyddocaol ein cenedl.
Nid oes dim yn cael ei hepgor: Plaid Cymru, Tynged yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith, Byddin Rhyddid Cymru, maent yma, bob un.
Ac yn bwysicach, efallai, mae'r ffeithiau nad yw pawb yn gwybod yma hefyd.
Er enghraifft, ni wyddwn fod Lerpwl eisiau d诺r Tryweryn, nid i ddisychedu ei phobl ond i'w werthu.
Ni wyddwn ychwaith fod Y Bala mor ddi-hid a bod y cynghorau yr un mor anghefnogol ac mai ateb haearnaidd Plaid Cymru i'r mater oedd "ffurfio is-bwyllgor!"
Nid du a gwyn
Yn ail, cyflwynodd y ddramodwraig stori nad oedd yn ddu nac ychwaith yn wyn. Meddai John Webster yn The Duchess of Malfi
"Man stands amazed to see his deformity in any other animal but himself."
Mae'r ymadrodd hwn yn gwbl berthnasol i'r ddrama hon. Codwyd drych o flaen y gynulleidfa, ac ar brydiau, poen enaid oedd edrych ynddo.
Gwelais hen genedl eiddil yn gweiddi lladron ar Lerpwl ond yn gadael i'w thir gael ei gipio oddi arni. Meddai un o'r actorion:
"Dyna fydd beddargraff Plaid Cymru. Nid Gwyddelod yda ni."
Rhoddwyd llais gweddol deg i Lerpwl hyd yn oed a hynny'n cael ei amlygu orau yn yr achos llys yn Llundain.
Fe'n hatgoffwyd y byddai trigolion y pentref yn cael eu hail gartrefu rhyw dair milltir i lawr y cwm. Cadwent eu hiaith a'u diwylliant. Caent arian da am eu heiddo. O safbwyt Lerpwl, onid yw'n ddadl resymol?
Er hyn, ni welsom ochr dda y ddinas. Cofier bod 79 allan o 175 o drigolion Lerpwl wedi pleidleisio yn erbyn y mesur a chwythwyd eu lleisiau hwy ymaith ar awelon cenedlaetholdeb, gan dynghedu Lerpwl i wneud "gwaith y diafol."
Er, mae'n rhaid cyfaddef, nad oedd Lerpwl yn gwneud dim llai na hynny.
Stori'r bobl
Yn drydydd, llwyddodd y ddramodwraig i lacio'r llyffetheiriau hanes oedd am draed y cymeriadau a'r ddrama ar ei gorau pan gamai adroddwyr y stori yn 么l gan adael i'r pentrefwyr ddweud yr hanes eu hunain.
Un darn arbennig o effeithiol oedd hanes y fam a gollodd ei mab, Huw, ac na all wynebu ei ail gladdu na'i adael yn y cwm i'w foddi.
Yn fwy trasig fyth, ar ddiwedd y ddrama, mae'r fam yn gweld un o'i chyfeillesau ysgol sy'n gweithio bellach i gorfforaeth Lerpwl. Gofyn iddi os yw'n cofio ei Chymraeg ac ateb honno yw, "Dipyn bach."
Serch hyn, nid oes ffraeo rhyngddynt a gadawant y llwyfan ffrindiau nid yn elynion.
Trueni o'r mwyaf na fanteisid mwy ar ryddid dramatig o'r fath. Wedi'r cyfan, beth yw drama yn ei hanfod - cymeriad yn dweud, ynteu dweud trwy gymeriad?
Heb amheuaeth byddai'r ddrama wedi elwa o ddatblygu'r berthynas rhwng Elisabeth a Dafydd.
Y plismon
Yr un modd, y plismon pentref (Wyn Bowen Harries) oedd cymeriad mwyaf diddorol y ddrama oherwydd ei sefyllfa gymhleth - yn ei galon yn Gymro Cymraeg ond wrth ei alwedigaeth yn geidwad cyfraith Lloegr.
Ond dim ond i raddau y dangoswyd y gwrthdaro hwn, yn enwedig tua diwedd y ddrama, ac yntau heb fod yn sicr ar ba ochr y dylai sefyll.
Fodd bynnag, plismon oedd y plismon o hyd. Doedd o byth yn berson ac o ganlyniad, ni ddatblygwyd y gwrthdaro mewnol yn llawn.
Gellid fod wedi hepgor y ddau adroddwr gan adael i'r plismon i adrodd y stori yn eu lle gan y byddai hynny wedi cael y ddrama i droi o amgylch y person mwyaf diddorol ar y llwyfan gan greu mwy o ddrama a llai o adroddiad dramtig!
Cyfarwyddo campus
Roedd cyfarwyddo Tim Baker yn gampus. Y symud yn slic a phwrpasol a'r darnau stor茂ol heb fod yn adroddllyd a static.
Gan amlaf, dwy r锚s o gadeiriau oedd y set gan fod yn siambr cyngor, yn llys, yn gartref, yn gapel ac yn gar yn eu tro. Tystiolaeth nad oes angen ond llond braich o brops i greu drama dda.
Daeth y sgrin fawr yng nghefn y llwyfan a realiti i'r ddrama wrth inni weld y Capel Celyn go iawn. Hyd yn oed pan ddiflannodd y llun arhosai'r pentref yn llygad y meddwl.
Roedd dwy olygfa arbennig o effeithiol. Y beddrod agored ac esgyrn duon ar gynfas wen wrth ei ochr.
Hefyd, y bwldosar yn gwthio pridd at yr actorion a'r ddaear fel petai am lifo o'r sgrin a'u claddu.
Hoffais yn fawr yr olygfa honno gyda'r plant yn pysgota gyda diniweidrwydd plentyn yn cyfleu hiwmor ac eironi. Hogyn yn gobeithio cael gwialen bysgota yn anrheg, ac un o'r merched yn w锚n i gyd yn dymuno cwch " . . . a ninnau'n cael llyn newydd"!
Cerddoriaeth
Roedd y dewis o gerddoriaeth yn drawiadol. Yr emynau yn adlewyrchu'r diwylliant capelyddol Cymraeg a ffug hyder a diniweidrwydd y trigolion.
"Rhag pob brad, Nefol Dad /Ceidw di gartrefi'n gwlad." medden nhw.
Boddwyd y cwbl!
Mewn cymhariaeth, caneuon Elvis Presley a adlewyrchai enedigaeth oes newydd. Eironig braidd, a Chapel Celyn wedi ei thynghedu i farwolaeth ond credaf y byddai wedi bod yn fwy effeithiol fyth pe boddid yr emynau Cymraeg gan gerddoriaeth Saesneg y cyfnod. Wedi'r cyfan, pa bynnag s诺n a gododd Cymru, cododd Loegr fwy. Boddwyd yr hen ffordd o fyw, yn enw cynnydd.
Diwedd ffeithiol
Er mor ddiddorol y diwedd, ffeithiol ydoedd a llawn ffigurau yn hytrach na rhywbeth mwy dramatig.
Y fam a gollodd ei mab, er enghraifft, yn sgrechian 'Huw,' a dwndwr byddarol y d诺r yn ei thewi'n fud. Byddai hyn yn rhoi arwyddocad arbennig i deitl y ddrama ac i'r ddihareb a roddodd fod iddo:
"Hir erys y mud wrth borth y byddar."
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.