|
Gwaun Cwm Garw Lleoli 'drama bwerus' yng ngorllewin Cymru
Addasiad Cymraeg gan Sharon Morgan o'r ddrama The Laramie Project gan Moises Kaufman yw cynhyrchiad diweddaraf cwmni Bara Caws.
Bydd Gwaun Cwm Garw yn cychwyn ar daith o amgylch Cymru yng Nghlwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, nos Fawrth, Mawrth 20, 2007 ac yn dirwyn i ben yng Nghanolfan Chapter, Caerdydd, nos Sadwrn Mawrth 31.
Llofruddio llanc hoyw Yn ddrama bwerus sy'n mynd i'r afael ag agwedd pobl tuag bobl hoyw mae'n dilyn criw o actorion sydd yn cyfweld trigolion Gwaun Cwm Garw wedi i lanc ifanc hoyw gael ei lofruddio'n ffiaidd yn eu plith.
"Yn seiliedig ar dystiolaeth y trigolion a thrwy bortreadu dros hanner cant o wahanol gymeriadau, mae'r chwe actor yn ein tywys i gorneli tywyllaf y gymuned i geisio dadansoddi sut mae pobl tref fechan yng ngorllewin Cymru yn dod i dermau gyda byw o dan gysgod hunan amheuaeth a chywilydd," meddai Linda Brown o'r cwmni.
Unrhyw dref Ychwanegodd y gallai'r hyn a ddarlunnir ddigwydd mewn unrhyw dref yng Nghymru.
"Mae'r ddrama bwysig hon, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn ceisio cyflwyno'r sefyllfa gymhleth oedd y tu hwnt i wirebau gwag y cyfryngau.
"Ceisir dangos pa mor ddwfn i'r tywyllwch y gall y ddynoliaeth suddo, wrth gyflwyno darlun hollol gadarnhaol o'r gobaith ysblennydd all ddeillio o'r tywyllwch hwnnw," meddai.
Yr actorion fydd yn cymryd rhan yw; Rhodri Evan,
Jonathan Nefydd a phedwar actor sy'n ymddangos am y tro cyntaf gyda Bara Caws, Ifan Huw Dafydd, Geraint Pickard, Maria Pride a Delyth Wyn.
Cyfarwyddir y ddrama gan Catrin Edwards, un o'r criw a sefydlodd Bara Caws yn 么l yn l977.
Llawer o berfformio Mae'r ddrama wreiddiol, The Laramie Project, yn un o'r dram芒u y mae'r mwyaf o berfformio arni yn yr Unol Daleithiau er i'r digwyddiad y'i sylfaenwyd arno ddigwydd n么l yn 1998.
Fis Hydref y flwyddyn honno y cipiwyd myfyriwr ifanc hoyw o'r enw Matthew Shepard yn Laramie, ei guro gyda phistol a'i rwymo wedyn yn sownd wrth ffens lle'i gadawyd i farw.
Bum wythnos wedyn ymwelodd Mois茅s Kaufman ac aelodau eraill o'r Tectonic Theatre Project 芒 Laramie gan gynnal dros 200 o gyfweliadau gyda'r trigolion
Y cyfweliadau hynny fu'n sail i'w ddrama The Laramie Project sy'n yn croniclo bywyd yn Laramie wedi llofruddiaeth mor frwnt ac erchyll.
Profodd y ddrama a berfformiwd gyntaf yn Denver fis Chwefror 2000 yn un ysgytwol yn adlewyrchu cymysgedd o ragfarn, casineb, goddefgarwch, ofn, dewrder a gobaith.
Mewn ysgolion Ers hynny bu'r ddrama yn cael ei defnyddio yn ysgolion yr Unol Daleithiau i addysgu plant yngl欧n 芒 rhagfarn ac anoddefgarwch. Bu hefyd yn rhan o'r cwricwlwm TGAU yng ngwledydd Prydain.
Heb os, bydd diddordeb arbennig yn nhrosiad Sharon Morgan i'r Gymraeg ac yn enwedig yn y ffaith iddi drawsblannu'r digwyddiad i gefn gwlad Cymru.
Y daith: Mawrth 20 - Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug. 01352 755114 Mawrth 21 - Neuadd Goffa Amlwch. Ian: 07919205217 neu Haf Wyn: 07766703362 Mawrth 22 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli. 01758 704088 Mawrth 23 - 24 - Theatr Gwynedd, Bangor. 01248 351708 Mawrth 27 - Neuadd Talybont, Aberystwyth. Falyri Jenkins: 01970 832560 Mawrth 28 - Theatr Felinfach, Felinfach. 01570 470697 Mawrth 29 Theatr Y Gromlech, Crymych. Kevins Davies: 01239 831455 Mawrth 30-31 - Canolfan Chapter, Caerdydd. 02920 304400
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|