Mae'n draddodiad bob Pasg i wneud y gacen Simnel. Mae'r gacen yn hawdd i'w gwneud ac yn blasu yn dda. Popty ymlaen ar wres Nwy 4 350潞F 180潞C. Seimio tun crwn maint 8 modfedd, cylch o bapur saim ar waelod y tun ac o amgylch, yna seimio eto.
Rysait
10 owns o flawd codi
3 owns o almwn m芒n
5 owns o fenyn
5 owns o siwgwr caster
1 1/2 pwys o ffrwyth cymysg resins, cyrens a syltanas
Croen oren a lemwn wedi gratio yn f芒n.
Dull
1. Rhowch y blawd a'r almwn mewn desgil. Rhwbio'r menyn yn ysgafn i mewn nes y bydd fel briwsion.
2. Rhoi'r ffrwyth mewn desgil arall, rhoi croen, y ffrwyth a'r sudd am ben, a 3 llwy fwrdd o sieri sych a'i fwydo am ryw hanner awr.
3. Yna trowch am ben y blawd gan droi a llwy bren.
4. Curo'r wyau gyda'r siwgr.
5. Tywallt hyn i mewn eto, cymysgu yn dda. Os na fydd y gymysgedd yn disgyn yn rhwydd o'r llwy ychwanegwch ychydig o lefrith.
6. Tywallt hanner y gymysgedd i'r tun. Rhoi cylch 8 modfedd o bast almwn am ei ben ac yna gweddill y gymysgedd. Lefelu a chyllell.
7. Yn syth i mewn i bopty poeth a'i choginio am 1 1/4 - 1 1/2 awr nes bydd gweillen yn dod o'i chanol yn berffaith l芒n.
8. Gadael iddi oeri yn iawn cyn ei throi allan i'w haddurno. Rowlio cylch arall maint wyth modfedd o bast almwn. Toddi jam bricyll a'i daenu dros ben y gacen, ac yna rhoi y past almwn wedyn. Yn draddodiadol mae un ar ddeg pelen i fod o amgylch y gacen hon yn cynrychioli disgyblion yr Iesu gan adael Judas allan.
Gan Gwyneth Mair o bapur bro Yr Wylan (Mawrth 2005).