大象传媒

Cardiau, Coeden a Si么n Corn

Si么n Corn

Pam ein bod yn gosod coeden Nadolig, yn anfon cardiau ac yn canu carolau? Y Parch Howel Mudd sydd gyda'r atebion.

"Treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl" meddai'r Salmydd, ac rwy'n siwr fod hynny yn wir yn hanes pob yr un ohonom wrth sylweddoli fod Nadolig arall bron a dod ar ein traws.

Ond y cwestiwn mawr i'w ofyn, "Sut Nadolig fydd e yn ein hanes?" Y g诺yn yn aml gan lawer un yw ei fod wedi colli ei wir ystyr. Wrth edrych ar ein dathliadau y mae lle i gredu mai mynd yn 么l i'w ystyr gwreiddiol a wnawn. Yr oedd g诺yl yn cael ei chynnal, sef g诺yl baganaidd yr Iddewon ar 25ain o Ragfyr cyn i Iesu gael ei eni ym Methlehem.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Er mwyn peidio troseddu'r ddwy garfan o bobol a oedd yn bodoli ar y pryd, ac ansicrwydd am ddyddiad ei eni, a hefyd am y credai rhai na ddaeth dim byd da allan o Nasareth erioed, sefydlwyd dydd ei eni ar ddydd g诺yl Saturnalia, sef yr 诺yl baganaidd a oedd eisoes mewn bod. Felly, fe welwn yn ein dathlu lawer o bethau nad oes ganddynt ddim i wneud 芒 g诺yl y geni.

Cardiau Nadolig
Wrth sylwi yn un o siopau ar gardiau Nadolig, fe glywais sylw wrth i ddwy fenyw edrych drwy'r cardiau, "Na rhyfedd mae'r cardiau yma fel pe baent i gyd yn grefyddol." O ble daeth y syniad o ddanfon cardiau Nadolig? Adeg Nadolig 1843 roedd gan Henry Cole broblem. Roedd e'n ddyn poblogaidd iawn, ac fe sylweddolodd nad oedd ganddo amser i ysgrifennu llythyr at bawb oedd yn ei adnabod. Fe alwodd ffrind i'w weld, sef John Catticote Horsley. Tarodd ef ar y syniad ar greu y cerdyn Nadolig cyntaf.

Fe dyfodd y traddodiad drwy help "Penny Post" Rowland Hill yn 1860. Mae'r arferiad wedi tyfu er bod y postio yn llawer uwch y dyddiau hyn; dal i gyrraedd mae'r cardiau 芒'r mwyafrif ohonynt heb unrhyw s么n am y baban Iesu.

Y goeden Nadolig
Eto dyma'r goeden Nadolig sydd yn addurno pob aelwyd, ac yn boblogaidd iawn. Traddodiad cymharol ddiweddar yw hwn ym Mhrydain. Daeth y goeden gyntaf i Gastell Balmoral yn 1840 gan y Frenhines Fictoria a'i g诺r Tywysog Albert o'r Almaen. Roedd yr arferiad yn yr Almaen ers tro byd.

Canrifoedd cyn geni Crist byddai pobl yn defnyddio dail bythwyrdd i addurno'u tai yn ystod dyddiau tywyll a marw'r gaeaf i'w hatgoffa fod bywyd o hyd yn para'n y coed bythwyrdd.

Celyn, uchelwydd a'r iorwg
Tri phlanhigyn sydd yn dwyn ffrwyth adeg y Nadolig, sef yr uchelwydd, y celyn, a'r iorwg. Y gelynnen yn nodi Coron ddrain yr Iesu, yr iorwg yn cynrychioli Mair mam yr Iesu. Roedd y derwyddon Celtaidd yn addoli dan y dderwen ac yn hawlio cusan oddi wrth unrhyw un sy'n sefyll o dan yr uchelwydd.

Canu Carolau
Fel canwyr carolau heddiw yr oedd y gwaseilwyr yn mynd o d欧 i d欧 gan ddymuno hwyl yr 诺yl gan obeithio cael rhodd o arian neu ddiod. Byddent yn cario cwpan gwasail gyda hwy ar eu taith. Roedd deuddeg dolen i'r cwpan yn cynrychioli deuddeg dydd Nadolig ac wedi ei addurno 芒 modelau o adar, aeron a dail y dderwen. Y mae'r caneuon a'r cwpanau hyn i'w gweld yn yr Amgueddfa'n Sain Ffagan. Dyna'r plygain sydd yn deillio o "Ganiad y Ceiliog" y Pullicantio.

Roedd y gwasanaeth cyntaf Nadolig yn bwysig iawn yng Nghymru slawer dydd. Fel arfer, caent eu cynnal mor gynnar 芒 thri o'r gloch y bore yn Eglwys y Plwyf, ac yn dychwelyd i'w cartrefi pan fyddai'r wawr yn torri. Y mae rhai Eglwysi fel cynt yn cynnal eu plygain wrth olau cannwyll. Y mae rhai ardaloedd yn dal at yr arferiad o hyd.

Santa Cl么s
Ffefryn y plant yw Santa Cl么s. Yn 么l y traddodiad ganwyd Esgob yn Asia Leiaf yn y bedwaredd ganrif a'i enw Nicholas. Yn raddol daeth ei enw yn Sant Nicholas, ac felly yn Santa Cl么s, hen 诺r a'i farf yn wyn a'i got goch. Cot werdd oedd ganddo ar y cychwyn hyd nes i gwmni Coca Cola newid ei lliw i goch er mwyn iddi fod yn hawsach i fasnachu eu cynnyrch mewn coch.

Y mae traddodiad yn dweud wrthym ei fod yn garedig iawn drwy fynd yn y tywyllwch i roi anrhegion i'w gyfeillion a'i gydnabod. Dyna pam ei fod yn dod pan fydd pawb yn cysgu. Si么n Corn enw arall gan mai drwy gorn y simdde y daw atom. Er nad oes simneiau i'w gweld y mae Santa Cl么s yn cyrraedd pob aelwyd noswyl y Nadolig.

Ymddangosodd yr erthygl hon gan Y Parch Howel Mudd yn rhifyn Rhagfyr 2005 o bapur bro Clebran.

  • Mwy am yr arferiad o osod y goeden Nadolig

  • Llyfrnodi gyda:

    Digwyddiadur

    Beth sy' mlaen

    Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

    大象传媒 iD

    Llywio drwy鈥檙 大象传媒

    大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.