大象传媒

Sioe Frenhinol Cymru

Un o'r Cobiau Cymreig yn y Sioe

Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt yn ystod yr haf bob mis Gorffennaf. Mae'n sioe amaethyddol fwyaf yn Ewrop, ac yn denu miloedd o bobl bob blwyddyn. Dros bedwar diwrnod mae dros 200,000 o ymwelwyr yn dod i faes y sioe fel arfer.

Yn ogystal 芒 chystadlaethau am fridiau anifeiliaid amaethyddol a chneifio, mae'r arddangosfeydd amrywiol, bwyd, diod a chrefftau'n rhan annatod o'r sioe sydd yn sicr yn denu ymwelwyr.

Sefydlodd y Gymdeithas Amaethyddol Genedlaethol Gymreig yn gyntaf yn Aberystwyth yn Chwefror 1904. Y ddau brif sylfaenydd oedd Lewes T. Lovedon Pryse, teulu Gogerddan, Ceredigion a Daniel Davies Williams (D.D.) mab i ffermwr cefnog o Dregaron.

Cynhaliwyd y sioe gyntaf ar y 3ydd a 4ydd o Awst 1904 yn Aberystwyth a phum sioe arall rhwng 1905 a 1909. Oherwydd problemau cyllidol, a'r teimlad y dylai'r sioe fod yn fwy cenedlaethol ac yn un ymfudol, penderfynwyd symud y sioe o Aberystwyth yn 1910 a chynhaliwyd y sioe ymfudol gyntaf yn Llanelli yn yr haf y flwyddyn honno. Parhaodd y sioe i grwydro Cymru tan 1962 - pan gynhaliwyd yr un olaf yn Wrecsam.

Bu dirwasgiad mawr ym myd ffermio yn y blynyddoedd rhwng y ddau Ryfel Byd, a chafodd yr Arglwydd Davies o Landinam ddylanwad mawr ar y byd ffermio yn y cyfnod hwnnw. Cynhaliwyd y sioe gyntaf wedi'r Ail Ryfel Byd yng Nghaerfyrddin yn 1947, a chafwyd ymweliad gan y Dywysoges Elisabeth.

Dros gyfnod o 3 diwrnod oedd hyd y sioe rhwng 1914 a 1981, pan ychwanegwyd pedwerydd diwrnod i'r amserlen.

O'r flwyddyn 1947 ymlaen, ychwanegwyd tractorau a chyfarpar eraill i faes y sioe, a oedd yn adlewyrchu'r mecaneiddio ar gaeau'r ffermydd yng Nghymru yn y cyfnod. Ar ddiwedd y 1950au, penderfynwyd ar safle parhaol i'r sioe. Roedd hyn o ganlyniad i nifer o broblemau a oedd ynghlwm 芒'r sioe ymfudol, gan gynnwys meysydd anaddas, problemau mwd wedi cawodydd trwm o law a thoiledau anaddas.

Profodd maes Llanelwedd i fod yn drawsnewidiad anodd ar y cychwyn. Doedd y tyrfaoedd arferol ddim yn ymweld 芒'r sioe yn y ddegawd rhwng '63 a '73. Ond profodd y bobl benderfynol oedd wrth y llyw fod modd llwyddo a dod trwy'r dyddiau duon.

Ers 1973 mae'r sioe yn Llanelwedd wedi gweld mwy a mwy o dorfeydd yn dod i'r maes yn flynyddol.

Cofiwch bydd Radio Cymru yn darlledu yn fyw o'r Sioe yng Ngorffennaf 2012.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.