Gobeithio i chwi dderbyn bendith tros y 'Dolig.
Yr wythnos hon yr ydym yn paratoi rhagor o ddathlu, sef, diwedd a dechrau blwyddyn.
Tydi degawd cyntaf y ganrif hon wedi pasio'n gyflym? Ein tuedd ni wrth fynd yn h欧n yw edrych yn 么l yn hiraethus a gofidus am yr hyn a fu - y ddoe na ddaw byth yn 么l, a phoeni am y dyfodol.
Mae pob blwyddyn yn gymysgfa o'r melys a'r chwerw a'r hapus a'r trist. Eto, mae galw arnom ni y bobl h欧n i edrych ymlaen i'r dyfodol, nid er ein mwyn ein hunain, ond er mwyn ein plant a'n hwyrion.
Wrth nesu at flwyddyn arall gobeithiwn a gwedd茂wn am iddynt hwy lwyddo lle yr ydym ni wedi methu, y bydd y bywyd fydd ganddynt yn y byd yn gweld newyn a thlodi yn lleihau os nad yn diflannu, a mwy o s么n am heddwch yn lle rhyfel a therfysg, a'u bod yn parchu dyfodol y cread, yn fwy ac yn well nag a wnaethom ni ei wneud.
Tra gallwn, rhown ein bryd ar eu cefnogi a'u helpu - mae bywyd yn llawer hapusach wrth annog a helpu y rhai sydd yn ein dilyn.
Mae angen amynedd i dderbyn newid, oes, mae angen gwyleidd-dra ac onestrwydd i hybu newid sy'n well. Dim iws twt-twtian yn erbyn pob newid rhaid wrtho i dyfu a datblygu.
Pwrpas etifeddiaeth ddoe yw adeiladu at yfory. Diflastod yw treulio'n hamser yn poeni am y dyfodol, fel mae'r Bregeth ar y Mynydd yn dweud, "Peidiwch a phryderu am yfory, oherwydd bydd gan yfory ei bryder ei hun. Digon i'r diwrnod ei drafferth ei hun."
Dywed llyfr y Pregethwr, "Mae amser i bob peth" ac aralleiriwn un gosodiad - llai o amser i ryfel a mwy i heddwch a chyfiawnder, a'r amser i gyd i fyw cariad yn esiampl Crist.
Blwyddyn Newydd Dda iawn i bawb ohonoch.