Doethineb hen bennau
Dridiau yn 么l roedd na erthygl olygyddol ym mhapur newydd y Times oedd yn trafod pwnc sydd o ddiddordeb i bob un ohonom ni.
Roedd yr ysgrifennu yn gadarn a di-flewyn-ar-dafod a sbardun y drafodaeth oedd syniad gan brif farnwyr Prydain, yn wyneb newidiadau posibl, na ddylai neb dros ei 70 oed gael eistedd yn y rheithgor yn ein llysoedd.
Byrdwn yr erthygl oedd na ellid cyfyngu doethineb i bobl o dan 70 oed, ac felly na ddylid derbyn safbwynt y barnwyr. Cytunir bod yna nifer o ystyriaethau a all wneud rhai pobl yn anaddas i fod ar reithgor - ond yn sicr na ddylai oed fod yn un o'r rheiny.
Gwneud cyfraniad
Eir ymlaen wedyn i gyfeirio at nifer o bobl oedrannus sydd wedi gwneud cyfraniad hynod o werthfawr i gymdeithas.
Ddaeth Nelson Mandela ddim yn Arlywydd De Affrica nes bod yn 75 oed ac y mae'r Frenhines yn 84 oed ac mor siarp ei meddwl ag y buodd hi erioed.
Ymhlith rhai oedrannus eraill sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr yn eu meysydd enwir yr athronydd Bertrand Russell, y gwyddonydd Einstein, y gwleidyddion Gladstone a Churchill a'r feddylwraig y Farwnes Warnock.
Ac y mae na un g诺r 72 oed yn bennaeth ar un o'r banciau. A fyddai un o'r rhain, am ei fod dros 70 oed, yn anaddas i fod ar reithgor? Go brin!
Pwynt arall a wneir yn y golygyddol yw bod y syniad hwn o gyfyngu yn anaddas iawn ar hyn o bryd gan mai symud i'r cyfeiriad arall y mae pethau a'r Llywodraeth y flwyddyn nesaf yn bwriadu dileu 65 fel oed ymddeol stadudol.
Dadl bwysig
Dadl ddifyr a phwysig ydi hon; y mae'n codi pwyntiau a all fod yn bwysig iawn i lawer ohonom.
Daw'r barnwyr o dani yn llym iawn. Ond cofiwn mai hen, hen, ddadl ydi hon. Mae na bobl ym mhob cymdeithas sydd am gadw'n gaeth at y llythyren, heb ddangos unrhyw ystwythder a pharodrwydd i wneud yr hyn sy'n rhesymol.
Maen nhw wedi eu disgrifio fel rhai sy'n degymu'r mintys a'r anis a'r cwmin ac yn anwybyddu pethau mawr a phwysig.