Dro yn 么l mi ges i'r her o ymateb mewn geiriau i lun o'r m么r mewn terfysg, a'r gwynt yn chwipio'r creigiau ym mis Ionawr - llun nodweddiadol o'r mis hwn gan Thomasin Toohie oedd o.
Ac er yr holl wrthdaro a'r gaeafau a oedd yn y llun, y llinell a oedd yn dod yn 么l ata i dro ar 么l tro wrth syllu arno oedd, "Cadwn y syniad ohono Fo yn fyw".
Yr her
A dyna'r her i ni mewn cyfnod wedi g诺yl a mis a all ymddangos yn ddi-gyfeiriad - cadw'r syniad ohono Fo yn fyw.
Newydd gyrraedd y Crud mae'r Doethion.
Dieithriaid oedd brenhinoedd hanes y Geni y tybiwyd nad oeddent 芒 rhan yn addewidion Duw. Ond fel y dangosir ymhob oes does neb y tu allan i gylch ei Gariad.
Ynddynt mae pawb y gwyddon ni amdanynt sydd ar daith, yn chwilio am ystyr i'w bywydau ganol gaeaf fel hyn.
Er bod y m么r yn tasgu'r creigiau yn y llun, a'r cerrynt yn dwyllodrus, ac yn rhy ddyrys i rai ohonom, dim ond sbel fach yn 么l y clywsom angylion yn cyhoeddi, "Peidiwch ag ofni" - un o frawddegau mwyaf poblogaidd y Beibl.
Fe ddywedodd un beirniad yn drawiadol fod "Peidiwch ag ofni" yn ymddangos 365 o weithiau - unwaith ar gyfer bob dydd o'r flwyddyn. Ac mae angylion yn dal i gadw'r syniad ohono Fo yn fyw yn eich bywyd chi a minnau.
Angylion o bobl sy'n goleuo tywyllwch dechrau blwyddyn fel seren, ac yn tawelu'r storm enbyd, ac yn dod 芒 gobaith i ganol ein nos a'n hofnau ninnau.
Drama fawr
Mae drama fawr yr 糯yl ar ben am flwyddyn arall, mae Ionawr eisoes yn sefydlu ei batrwm - ond mae neges angylion a doethion pob oes yn parhau - peidiwch ag ofni a daliwch i deithio at y nod.
Ac fel y llun hwnnw o Ionawr oer ger y m么r, ynghanol terfysg yr elfennau, y waedd o'r darlun sy'n ein tawelu a'n herio ydy, "Cadwn y syniad ohono Fo yn fyw"' heddiw, ac yfory.