Yn y byd sydd ohoni, rydan ni'n dibynnu llawer iawn ar ymchwil gwyddonol. Heb unrhyw amheuaeth, mae hyd ac ansawdd bywyd sawl un ohonon ni wedi gwella'n sylweddol wrth i ni fedi casgliadau yr ymchwil yma.
Casgliadau anghywir
Dipyn o sioc, felly, os dywedir wrthon ni fod yr ymchwilwyr wedi gwneud camgymeriad a thynnu casgliadau anghywir. Mae hynny wedi digwydd ddwywaith yn ystod y dyddiau diwetha' yma.
Camgymeriad mewn ymchwil meddygol ddaeth i'r amlwg gynta'. Ers rhai blynyddoedd bellach, mae plant ifanc wedi bod yn derbyn brechiad triphlyg a elwir yn MMR i'w diogelu rhag y clefydau arferol sy'n taro plant.
Ond fe sylwyd fod cynnydd hefyd yn yr achosion o awtistiaeth yn y plant oedd wedi cael y brechiad a'r wythnos diwethaf roedd yna dri meddyg yn wynebu disgyblaeth am eu rhan mewn ymchwil ddaru gamarwain y cyhoedd.
Rhewlif
Camgymeriad arbenigwyr ar yr hinsawdd ddaeth i'r amlwg wedyn. Fe gyhoeddwyd bod y rhewlif - y glaciers - ym mynyddoedd yr Himalaya, yn mynd i doddi a diflannu erbyn y flwyddyn 2035.
Ond yn ddiweddar, fe daflwyd amheuaeth ar y casgliad yna. Does dim amheuaeth nad ydi'r hinsawdd a'r tywydd yn newid, ac yn newid yn gyflym, ond yn 么l y farn ddiweddara', mae 2350 yn nes ati na 2035.
Dipyn o wahaniaeth, ynte?
A dyna i chi benbleth.
Os ydi'r arbenigwyr yn methu, beth ydach chi a fi i'w goelio? /p>
Mae gofyn i arbenigwyr ym mhob maes fod yn ofalus a gochelgar, ac ymatal rhag cyhoeddi casgliadau eithafol a charlamus.
Tydi pethau'n gymhleth, deudwch?